Jeremeia 12
12
Jeremeia'n Holi'r ARGLWYDD
1Cyfiawn wyt, ARGLWYDD, pan ddadleuaf â thi;
er hynny, gosodaf fy achos o'th flaen:
Pam y llwydda ffordd y drygionus, ac y ffynna pob twyllwr?
2Plennaist hwy, a gwreiddiasant;
tyfant a dwyn ffrwyth.
Yr wyt ar flaen eu tafod, ond ymhell o'u calon.
3Ond yr wyt yn f'adnabod i, ARGLWYDD, yn fy ngweld,
ac yn profi fy meddyliau tuag atat.
Didola hwy fel defaid i'r lladdfa,
a'u corlannu erbyn diwrnod lladd.
4Pa hyd y galara'r tir, ac y gwywa'r glaswellt ym mhob maes? O achos drygioni y rhai sy'n trigo yno, ysgubwyd ymaith anifail ac aderyn, er i'r bobl ddweud, “Ni wêl ef ein diwedd ni.”
Ateb Duw
5“Os wyt wedi rhedeg gyda'r gwŷr traed, a hwythau'n dy flino,
pa fodd y cystedli â meirch?
Ac os wyt yn baglu mewn gwlad rwydd,
pa fodd y llwyddi yng ngwlad wyllt yr Iorddonen?”
6“Oherwydd y mae hyd yn oed dy dylwyth a'th deulu dy hun wedi dy dwyllo; buont yn galw'n daer ar dy ôl; paid â'u coelio, er iddynt ddweud geiriau teg wrthyt.”
7“Gadewais fy nhŷ, rhois heibio fy nhreftadaeth,
rhois anwylyd fy nghalon yn llaw ei gelynion.
8Aeth fy nhreftadaeth yn fy ngolwg fel llew yn y coed;
y mae'n codi ei llais yn f'erbyn; am hynny yr wyf yn ei chasáu.
9Onid yw fy nhreftadaeth i mi fel aderyn brith,
a'r adar yn ymgasglu yn ei erbyn?
Casglwch holl fwystfilod y maes, a'u dwyn i fwyta.
10Y mae bugeiliaid lawer wedi distrywio fy ngwinllan,
a sathru ar fy rhandir;
gwnaethant fy rhandir dirion yn anial diffaith.
11Gwnaethant hi'n anrhaith, ac fe alara'r anrheithiedig wrthyf;
anrheithiwyd yr holl wlad, ac nid oes neb yn malio.
12Daw dinistrwyr ar holl foelydd yr anialwch;
y mae cleddyf yr ARGLWYDD yn difa'r wlad o'r naill ben i'r llall;
nid oes heddwch i un cnawd.
13Y maent yn hau gwenith ac yn medi drain,
yn ymlâdd heb elwa dim;
yn cael eu siomi yn eu#12:13 Hebraeg, eich. cynhaeaf,
oherwydd angerdd llid yr ARGLWYDD.”
14Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am fy holl gymdogion drwg, sy'n ymyrryd â'r etifeddiaeth a roddais i'm pobl Israel i'w meddiannu: “Rwyf am eu diwreiddio o'u tir, a thynnu tŷ Jwda o'u plith. 15Ac yna, wedi i mi eu diwreiddio, fe drugarhaf wrthynt drachefn, a'u hadfer bob un i'w etifeddiaeth a'i dir. 16Os dysgant yn drwyadl ffyrdd fy mhobl, a thyngu i'm henw, ‘Byw yw'r ARGLWYDD’, fel y dysgasant fy mhobl i dyngu i Baal, yna sefydlir hwy yng nghanol fy mhobl. 17Ond os na wrandawant, yna'n sicr fe ddiwreiddiaf a llwyr ddinistrio'r genedl honno,” medd yr ARGLWYDD.
Currently Selected:
Jeremeia 12: BCND
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004