YouVersion Logo
Search Icon

Barnwyr 3

3
Y Cenhedloedd a Adawyd yn y Wlad
1Gadawodd yr ARGLWYDD y cenhedloedd hyn i brofi'r Israeliaid oedd heb gael unrhyw brofiad o ryfeloedd Canaan, a hynny er mwyn i genedlaethau Israel gael profiad, 2ac er mwyn dysgu'r rhai nad oedd ganddynt brofiad blaenorol sut i ryfela. 3Gadawyd pum arglwydd y Philistiaid, y Canaaneaid oll, y Sidoniaid, a'r Hefiaid oedd yn byw ar fynydd-dir Lebanon o Fynydd Baal-hermon hyd Lebo-hamath. 4Yr oeddent yno i'r ARGLWYDD brofi Israel drwyddynt, a chael gwybod a fyddent yn ufuddhau i'r gorchmynion a roddodd ef i'w hynafiaid trwy Moses. 5Ymgartrefodd yr Israeliaid ymysg y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid; 6a chymerasant eu merched hwy yn wragedd, a rhoi eu merched eu hunain i'w meibion hwy, ac addoli eu duwiau.
Othniel
7Gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac anghofio'r ARGLWYDD eu Duw ac addoli'r duwiau Baal ac Asera. 8Cyneuodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel a gwerthodd hwy i law Cusan-risathaim, brenin Aram-naharaim, a bu'r Israeliaid yn gwasanaethu Cusan-risathaim am wyth mlynedd. 9Yna gwaeddodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD, a chododd yr ARGLWYDD achubwr i'r Israeliaid, sef Othniel fab Cenas, brawd iau Caleb, ac fe'u gwaredodd. 10Daeth ysbryd yr ARGLWYDD arno, a barnodd Israel a mynd allan i ryfela, a rhoddodd yr ARGLWYDD yn ei law Cusan-risathaim, brenin Aram, ac fe'i trechodd. 11Yna cafodd y wlad lonydd am ddeugain mlynedd, nes i Othniel fab Cenas farw.
Ehud
12Unwaith eto gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a nerthodd ef Eglon brenin Moab yn eu herbyn am iddynt wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. 13Casglodd Eglon yr Ammoniaid a'r Amaleciaid ato, ac ymosododd ar Israel a meddiannu Dinas y Palmwydd. 14Bu'r Israeliaid yn gwasanaethu Eglon brenin Moab am ddeunaw mlynedd. 15Yna gwaeddodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD, a chododd ef achubwr iddynt, sef Ehud fab Gera, Benjaminiad a dyn llawchwith; ac anfonodd yr Israeliaid gydag ef deyrnged i Eglon brenin Moab. 16Yr oedd Ehud wedi gwneud cleddyf daufiniog, cufydd o hyd, a'i wregysu ar ei glun dde, o dan ei ddillad. 17Cyflwynodd y deyrnged i Eglon brenin Moab, a oedd yn ddyn tew iawn. 18Ar ôl gorffen cyflwyno'r deyrnged, anfonodd ymaith y bobl a fu'n cario'r deyrnged, 19ond dychwelodd Ehud ei hun oddi wrth y colofnau ger Gilgal a dweud, “Y mae gennyf neges gyfrinachol iti, O frenin.” 20Galwodd yntau am dawelwch, ac aeth pawb oedd yn sefyll o'i gwmpas allan. Yna nesaodd Ehud ato, ac yntau'n eistedd wrtho'i hunan mewn ystafell haf oedd ganddo ar y to, a dywedodd, “Gair gan Dduw sydd gennyf iti.” Cododd yntau oddi ar ei sedd. 21Yna estynnodd Ehud ei law chwith, cydiodd yn y cleddyf oedd ar ei glun dde, a'i daro i fol Eglon, 22nes bod y carn yn mynd i mewn ar ôl y llafn, a'r braster yn cau amdano. Ni thynnodd y cleddyf o'i fol, a daeth allan y tu cefn#3:22 Tebygol. Hebraeg yn aneglur.. 23Yna aeth Ehud allan trwy'r cyntedd#3:23 Tebygol. Hebraeg yn aneglur. a chau drysau'r ystafell arno a'u cloi. 24Wedi iddo fynd i ffwrdd, daeth gweision Eglon, ac wedi edrych a gweld drysau'r ystafell ynghlo, dywedasant, “Rhaid mai esmwytháu ei gorff y mae yn yr ystafell haf.” 25Wedi iddynt ddisgwyl nes bod cywilydd arnynt, ac yntau heb agor drysau'r ystafell, cymerasant allwedd a'u hagor, a dyna lle'r oedd eu meistr wedi syrthio i'r llawr yn farw. 26Yr oedd Ehud wedi dianc tra oeddent hwy'n oedi; aeth heibio i'r colofnau a dianc i Seira. 27Pan gyrhaeddodd, fe ganodd yr utgorn ym mynydd-dir Effraim, a daeth yr Israeliaid i lawr gydag ef o'r mynydd-dir, ac yntau'n eu harwain. 28Dywedodd wrthynt, “Dilynwch fi, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi eich gelyn Moab yn eich llaw.” Aethant hwythau ar ei ôl a dal rhydau'r Iorddonen yn erbyn Moab, a rhwystro pawb rhag croesi. 29Lladdasant y pryd hwnnw tua deng mil o'r Moabiaid, pob un yn heini a grymus; ni ddihangodd neb. 30Darostyngwyd y Moabiaid y diwrnod hwnnw dan law Israel, a chafodd y wlad lonydd am bedwar ugain mlynedd.
Samgar
31Ar ei ôl ef bu Samgar fab Anath. Lladdodd ef chwe chant o Philistiaid â swmbwl gyrru ychen. Fe waredodd yntau Israel.

Currently Selected:

Barnwyr 3: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy