Eseia 57
57
Eilunaddoliaeth Israel
1Y mae'r cyfiawn yn darfod amdano heb neb yn malio;
cymerir ymaith bobl deyryngar heb neb yn malio.
Ond cyn dyfod drygfyd cymerir ymaith y cyfiawn,
2ac fe â i dangnefedd;
a gorffwyso yn ei wely
y bydd y sawl sy'n rhodio'n gywir.
3“Dewch yma, chwi blant hudoles,
epil y godinebwr a'r butain.
4Pwy yr ydych yn ei wawdio?
Ar bwy yr ydych yn gwneud ystumiau ac yn tynnu tafod?
Onid plant gwrthryfelgar ydych, ac epil twyll,
5chwi sy'n llosgi gan nwyd dan bob pren derw,
dan bob pren gwyrddlas,
ac yn aberthu plant yn y glynnoedd,
yn holltau'r clogwyni?
6Ymhlith cerrig llyfn y dyffryn y mae dy ddewis;
yno y mae dy ran.
Iddynt hwy y tywelltaist ddiodoffrwm,
ac y dygaist fwydoffrwm.
A gaf fi fy nhawelu am hyn?
7Gwnaethost dy wely ar fryn uchel a dyrchafedig,
a mynd yno i offrymu aberth.
8Gosodaist dy arwydd ar gefn y drws a'r pyst,
a'm gadael i a'th ddinoethi dy hun;
aethost i fyny yno i daenu dy wely
ac i daro bargen â hwy.
Rwyt wrth dy fodd yn gorwedd gyda hwy,
a gweld eu noethni.
9Ymwelaist â Molech gydag olew,
ac amlhau dy beraroglau;
anfonaist dy negeswyr i bob cyfeiriad,
a'u gyrru hyd yn oed i Sheol.
10Blinaist gan amlder dy deithio,
ond ni ddywedaist, ‘Dyna ddigon.’
Enillaist dy gynhaliaeth,
ac am hynny ni ddiffygiaist.
11“Pwy a wnaeth iti arswydo ac ofni,
a gwneud iti fod yn dwyllodrus,
a'm hanghofio, a pheidio â meddwl amdanaf?
Oni fûm ddistaw, a hynny'n hir,
a thithau heb fy ofni?
12Cyhoeddaf dy gyfiawnder a'th weithredoedd.
Ni fydd dy eilunod o unrhyw les iti;
13pan weiddi, ni fyddant yn dy waredu.
Bydd y gwynt yn eu dwyn ymaith i gyd,
ac awel yn eu chwythu i ffwrdd.
Ond bydd y sawl a ymddiried ynof fi
yn meddiannu'r ddaear,
ac yn etifeddu fy mynydd sanctaidd.”
Cysur i'r Edifeiriol
14Fe ddywedir,
“Gosodwch sylfaen, paratowch ffordd;
symudwch bob rhwystr oddi ar ffordd fy mhobl.”
15Oherwydd fel hyn y dywed yr uchel a dyrchafedig,
sydd â'i drigfan yn nhragwyddoldeb,
a'i enw'n Sanctaidd:
“Er fy mod yn trigo mewn uchelder sanctaidd,
rwyf gyda'r cystuddiol ac isel ei ysbryd,
i adfywio'r rhai isel eu hysbryd,
a bywhau calon y rhai cystuddiol.
16Ni fyddaf yn ymryson am byth
nac yn dal dig yn dragywydd,
rhag i'w hysbryd ballu o'm blaen;
oherwydd myfi a greodd eu hanadl.
17Digiais wrtho am ei wanc pechadurus,
a'i daro, a throi mewn dicter oddi wrtho;
aeth yntau rhagddo'n gyndyn yn ei ffordd ei hun,
18ond gwelais y ffordd yr aeth.
Iachâf ef, a rhoi gorffwys iddo;
19cysuraf ef, a rhoi geiriau cysur i'w alarwyr.
Heddwch i'r pell ac i'r agos,”
medd yr ARGLWYDD, “a mi a'i hiachâf ef.”
20Ond y mae'r drygionus fel môr tonnog
na fedr ymdawelu,
a'i ddyfroedd yn corddi llaid a baw.
21“Nid oes heddwch i'r drygionus,”
medd fy Nuw.
Currently Selected:
Eseia 57: BCND
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004