YouVersion Logo
Search Icon

Hosea 5

5
Barn ar Israel
1“Clywch hyn, offeiriaid; gwrandewch, dŷ Israel;
daliwch sylw, dylwyth y brenin. Arnoch chwi y daw'r farn,
am i chwi fod yn fagl yn Mispa ac yn rhwyd wedi ei thaenu ar Tabor;
2gwnaethant bwll Sittim#5:2 Tebygol. Hebraeg yn ansicr. yn ddwfn. Ond fe gosbaf fi bawb ohonynt.
3“Adwaenais Effraim, ac ni chuddiodd Israel ei hun oddi wrthyf;
ond yn awr, O Effraim, fe buteiniaist, ac fe'i halogodd Israel ei hun.
4Ni chaniatâ eu gweithredoedd iddynt droi at eu Duw,
am fod ysbryd puteindra o'u mewn, ac nad adwaenant yr ARGLWYDD.”
Rhybudd rhag Eilunaddoliaeth
5Y mae balchder Israel yn tystio yn ei erbyn;
syrth Israel ac Effraim trwy eu camwedd,
syrth Jwda hefyd gyda hwy.
6Ânt gyda'u defaid a'u gwartheg i geisio'r ARGLWYDD,
ond heb ei gael—ciliodd oddi wrthynt.
7Buont dwyllodrus i'r ARGLWYDD, gan iddynt eni plant anghyfreithlon.
Yn awr, fe ddifa'r gorthrymydd#5:7 Tebygol. Hebraeg, lleuad newydd. eu rhandiroedd.
Rhyfel rhwng Jwda ac Israel
8“Canwch utgorn yn Gibea a thrwmped yn Rama;
rhowch floedd yn Beth-afen: ‘Ar dy ôl di, Benjamin!’
9Bydd Effraim yn anrhaith yn nydd y cosbi;
mynegaf yr hyn sydd sicr ymysg llwythau Israel.
10Y mae tywysogion Jwda fel rhai sy'n symud terfyn;
bwriaf fy llid arnynt fel dyfroedd.
11Gorthrymwyd Effraim, fe'i drylliwyd trwy farn,
oherwydd iddo ddewis dilyn gwagedd#5:11 Cymh. Groeg a Syrieg. Hebraeg, gorchymyn..
12Byddaf fel dolur crawnllyd i Effraim,
ac fel cancr i dŷ Jwda.
13“Pan welodd Effraim ei glefyd a Jwda ei ddoluriau,
aeth Effraim at Asyria ac anfonodd at frenin mawr#5:13 Hebraeg, Jareb.;
ond ni all ef eich gwella na'ch iacháu o'ch doluriau.
14Oherwydd yr wyf fi fel llew i Effraim, ac fel llew ifanc i dŷ Jwda;
myfi, ie myfi, a larpiaf, ac af ymaith; cipiaf, ac ni bydd gwaredydd.
15“Dychwelaf drachefn i'm lle, nes iddynt weld eu bai,
a chwilio amdanaf, a'm ceisio yn eu hadfyd.”

Currently Selected:

Hosea 5: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in