YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 44

44
Y Cwpan Coll
1Gorchmynnodd Joseff i swyddog ei dŷ, “Llanw sachau'r dynion â chymaint ag y gallant ei gario o fwyd, a rho arian pob un yng ngenau ei sach. 2A rho fy nghwpan i, y cwpan arian, yng ngenau sach yr ieuengaf, gyda'i arian am yr ŷd.” Gwnaeth yntau fel y dywedodd Joseff. 3Pan dorrodd y wawr, anfonwyd y dynion ymaith gyda'u hasynnod. 4Wedi iddynt fynd ychydig bellter o'r ddinas dywedodd Joseff wrth swyddog ei dŷ, “I ffwrdd â thi ar ôl y dynion, a phan oddiweddi hwy dywed wrthynt, ‘Pam yr ydych wedi talu drwg am dda? Pam yr ydych wedi lladrata fy nghwpan arian?#44:4 Felly Groeg. Hebraeg heb Pam… arian? 5O hwn y byddai f'arglwydd yn yfed ac yn dewino. Yr ydych wedi gwneud peth drwg.’ ”
6Pan oddiweddodd hwy dywedodd felly wrthynt. 7Atebasant hwythau, “Pam y mae ein harglwydd yn dweud peth fel hyn? Ni fyddai dy weision byth yn gwneud y fath beth. 8Cofia ein bod wedi dod â'r arian a gawsom yng ngenau ein sachau yn ôl atat o wlad Canaan. Pam felly y byddem yn lladrata arian neu aur o dŷ dy arglwydd? 9Os ceir y cwpan gan un o'th weision, bydded hwnnw farw; a byddwn ninnau'n gaethion i'n harglwydd.” 10“O'r gorau,” meddai yntau, “bydded fel y dywedwch chwi. Bydd yr un y ceir y cwpan ganddo yn gaethwas i mi, ond bydd y gweddill ohonoch yn rhydd.” 11Yna tynnodd pob un ei sach i lawr ar unwaith, a'i agor. 12Chwiliodd yntau, gan ddechrau gyda'r hynaf a gorffen gyda'r ieuengaf, a chafwyd y cwpan yn sach Benjamin. 13Rhwygasant eu dillad, a llwythodd pob un ei asyn a dychwelyd i'r ddinas.
14Pan ddaeth Jwda a'i frodyr i'r tŷ, yr oedd Joseff yno o hyd, a syrthiasant i lawr o'i flaen. 15Dywedodd Joseff wrthynt, “Beth yw hyn yr ydych wedi ei wneud? Oni wyddech fod dyn fel fi yn gallu dewino?” 16Atebodd Jwda, “Beth a ddywedwn wrth fy arglwydd? Beth a lefarwn? Sut y gallwn brofi ein diniweidrwydd? Y mae Duw wedi dangos twyll dy weision. Dyma ni, a'r un yr oedd y cwpan ganddo, yn gaethion i'n harglwydd.” 17Ond dywedodd Joseff, “Ni allaf wneud peth felly. Dim ond yr un yr oedd y cwpan ganddo a fydd yn gaethwas i mi. Cewch chwi fynd mewn heddwch at eich tad.”
18Yna nesaodd Jwda ato, a dweud, “O f'arglwydd, caniatâ i'th was lefaru yng nghlyw f'arglwydd, a phaid â digio wrth dy was; oherwydd yr wyt ti fel Pharo. 19Holodd f'arglwydd ei weision, ‘A oes gennych dad, neu frawd?’ 20Ac atebasom ein harglwydd, ‘Y mae gennym dad sy'n hen ŵr, a brawd bach, plentyn ei henaint. Bu farw ei frawd, ac ef yn unig sy'n aros o blant ei fam, ac y mae ei dad yn ei garu.’ 21Yna dywedaist wrth dy weision, ‘Dewch ag ef i lawr ataf imi gael ei weld.’ 22Dywedasom wrth f'arglwydd, ‘Ni all y bachgen adael ei dad, oherwydd os gwna, bydd ei dad farw.’ 23Dywedaist tithau wrth dy weision, ‘Os na ddaw eich brawd ieuengaf gyda chwi, ni chewch weld fy wyneb i eto.’ 24Aethom yn ôl at dy was ein tad, ac adrodd wrtho eiriau f'arglwydd. 25A phan ddywedodd ein tad, ‘Ewch yn ôl i brynu ychydig o fwyd i ni’, 26atebasom, ‘Ni allwn fynd. Fe awn os daw ein brawd ieuengaf gyda ni, ond ni chawn weld wyneb y dyn os na fydd ef gyda ni.’ 27A dywedodd dy was ein tad wrthym, ‘Gwyddoch i'm gwraig esgor ar ddau fab; 28aeth un ymaith a dywedais, “Rhaid ei fod wedi ei larpio”, ac ni welais ef wedyn. 29Os cymerwch hwn hefyd ymaith a bod niwed yn digwydd iddo, yna fe wnewch i'm penwynni ddisgyn i'r bedd mewn tristwch.’ 30Ac yn awr os dof at dy was fy nhad heb y bachgen, 31bydd farw pan wêl na ddaeth y bachgen yn ôl, am fod einioes y ddau ynghlwm wrth ei gilydd; a bydd dy weision yn peri i benwynni dy was ein tad ddisgyn i'r bedd mewn tristwch. 32Oherwydd aeth dy was yn feichiau am y bachgen i'm tad, gan ddweud, ‘Os na ddychwelaf ef atat byddaf yn euog am byth yng ngolwg fy nhad.’ 33Yn awr felly, gad i'th was aros yn gaethwas i'm harglwydd yn lle'r bachgen; a gad iddo ef fynd gyda'i frodyr. 34Oherwydd sut y gallaf fynd yn ôl at fy nhad heb y bachgen? Nid wyf am weld loes fy nhad.”

Currently Selected:

Genesis 44: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in