YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 37

37
Joseff a'i Freuddwydion
1Preswyliodd Jacob yng ngwlad Canaan, y wlad yr ymdeithiodd ei dad ynddi. 2Dyma hanes tylwyth Jacob.
Yr oedd Joseff yn ddwy ar bymtheg oed, ac yn bugeilio'r praidd gyda'i frodyr, gan helpu meibion Bilha a Silpa, gwragedd ei dad; a chariodd Joseff straeon drwg amdanynt i'w tad. 3Yr oedd Israel yn caru Joseff yn fwy na'i holl blant, gan mai mab ei henaint ydoedd; a gwnaeth wisg laes iddo. 4Pan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu yn fwy na'r un ohonynt, rhoesant eu cas arno fel na fedrent ddweud gair caredig wrtho.
5Cafodd Joseff freuddwyd, a phan ddywedodd wrth ei frodyr amdani, aethant i'w gasáu yn fwy fyth. 6Dywedodd wrthynt, “Gwrandewch, dyma'r freuddwyd a gefais: 7yr oeddem yn rhwymo ysgubau yn y maes, a dyma f'ysgub i yn codi ar ei sefyll, a daeth eich ysgubau chwi yn gylch o'i chwmpas ac ymgrymu i'm hysgub i.” 8Yna gofynnodd ei frodyr iddo, “Ai ti sydd i deyrnasu arnom? A fyddi di'n arglwydd arnom ni?” Ac aethant i'w gasáu ef yn fwy eto o achos ei freuddwydion a'i eiriau. 9Yna cafodd freuddwyd arall, ac adroddodd amdani wrth ei frodyr a dweud, “Cefais freuddwyd arall: dyna lle'r oedd yr haul a'r lleuad ac un seren ar ddeg yn ymgrymu i mi.” 10Wedi iddo ei hadrodd wrth ei dad a'i frodyr, ceryddodd ei dad ef, a dweud, “Beth yw'r freuddwyd hon a gefaist? A ddown ni, myfi a'th fam a'th frodyr, i ymgrymu i'r llawr i ti?” 11A chenfigennodd ei frodyr wrtho, ond cadwodd ei dad y peth yn ei gof.
Gwerthu Joseff a'i Gymryd i'r Aifft
12Yr oedd ei frodyr wedi mynd i fugeilio praidd eu tad ger Sichem. 13A dywedodd Israel wrth Joseff, “Onid yw dy frodyr yn bugeilio ger Sichem? Tyrd, fe'th anfonaf di atynt.” Atebodd yntau, “o'r gorau.” 14Yna dywedodd wrtho, “Dos i weld sut y mae dy frodyr a'r praidd, a thyrd â gair yn ôl i mi.” Felly anfonodd ef o ddyffryn Hebron, ac aeth tua Sichem. 15Cyfarfu gŵr ag ef pan oedd yn crwydro yn y fro, a gofyn iddo, “Beth wyt ti'n ei geisio?” 16Atebodd yntau, “Rwy'n ceisio fy mrodyr; dywed wrthyf ble maent yn bugeilio.” 17A dywedodd y gŵr, “Y maent wedi mynd oddi yma, oherwydd clywais hwy'n dweud, ‘Awn i Dothan.’ ” Felly aeth Joseff ar ôl ei frodyr, a chafodd hyd iddynt yn Dothan. 18Gwelsant ef o bell, a chyn iddo gyrraedd atynt gwnaethant gynllwyn i'w ladd, 19a dweud wrth ei gilydd, “Dacw'r breuddwydiwr hwnnw'n dod. 20Dewch, gadewch inni ei ladd a'i daflu i ryw bydew, a dweud fod anifail gwyllt wedi ei ddifa; yna cawn weld beth a ddaw o'i freuddwydion.” 21Ond pan glywodd Reuben, achubodd ef o'u gafael a dweud, “Peidiwn â'i ladd.” 22Dywedodd Reuben wrthynt, “Peidiwch â thywallt gwaed; taflwch ef i'r pydew hwn sydd yn y diffeithwch, ond peidiwch â gwneud niwed iddo.” Dywedodd hyn er mwyn ei achub o'u gafael a'i ddwyn yn ôl at ei dad. 23A phan ddaeth Joseff at ei frodyr, tynasant ei wisg oddi arno, y wisg laes yr oedd yn ei gwisgo, 24a'i gymryd a'i daflu i'r pydew. Yr oedd y pydew yn wag, heb ddŵr ynddo.
25Tra oeddent yn eistedd i fwyta, codasant eu golwg a gweld cwmni o Ismaeliaid yn dod ar eu taith o Gilead, a'u camelod yn dwyn glud pêr, balm a myrr, i'w cludo i lawr i'r Aifft. 26A dywedodd Jwda wrth ei frodyr, “Faint gwell fyddwn o ladd ein brawd a chelu ei waed? 27Dewch, gadewch inni ei werthu i'r Ismaeliaid; peidiwn â gwneud niwed iddo, oherwydd ein brawd ni a'n cnawd ydyw.” Cytunodd ei frodyr. 28Yna, pan ddaeth marchnatwyr o Midian heibio, codasant Joseff o'r pydew, a'i werthu i'r Ismaeliaid am ugain sicl o arian. Aethant hwythau â Joseff i'r Aifft.
29Pan aeth Reuben yn ôl at y pydew a gweld nad oedd Joseff ynddo, rhwygodd ei ddillad 30a mynd at ei frodyr a dweud, “Nid yw'r bachgen yno; a minnau, i ble'r af?” 31Cymerasant wisg Joseff, a lladd gafr, a throchi'r wisg yn y gwaed. 32Yna aethant â'r wisg laes yn ôl at eu tad, a dweud, “Daethom o hyd i hon; edrych di ai gwisg dy fab ydyw.” 33Fe'i hadnabu a dywedodd, “Gwisg fy mab yw hi; anifail gwyllt sydd wedi ei ddifa. Yn wir, y mae Joseff wedi ei larpio.” 34Yna rhwygodd Jacob ei ddillad a gwisgo sachliain am ei lwynau, a galarodd am ei fab am amser hir. 35A daeth pob un o'i feibion a'i ferched i'w gysuro, ond gwrthododd dderbyn cysur, a dywedodd, “Mewn galar yr af finnau i lawr i'r bedd at fy mab.” Ac wylodd ei dad amdano. 36Gwerthodd y Midianiaid ef yn yr Aifft i Potiffar, swyddog Pharo, pennaeth y gwarchodwyr.

Currently Selected:

Genesis 37: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in