YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 35

35
Duw'n Bendithio Jacob ym Methel
1Dywedodd Duw wrth Jacob, “Cod, dos i fyny i Fethel, ac aros yno; a gwna yno allor i'r Duw a ymddangosodd iti pan oeddit yn ffoi rhag dy frawd Esau.” 2Yna dywedodd Jacob wrth ei deulu a phawb oedd gydag ef, “Bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich mysg, ac ymlanhau, a newid eich dillad. 3Codwn ac awn i fyny i Fethel, er mwyn imi wneud allor yno i'r Duw a'm gwrandawodd yn nydd fy nghyfyngder, ac a fu gyda mi ar fy nhaith.” 4Felly rhoesant i Jacob yr holl dduwiau dieithr oedd yn eu meddiant a'r modrwyau oedd yn eu clustiau, a chuddiodd Jacob hwy dan y dderwen ger Sichem.
5Fel yr oeddent yn teithio, daeth arswyd mawr ar y dinasoedd o amgylch, fel na fu iddynt ymlid meibion Jacob. 6A daeth Jacob a'r holl bobl oedd gydag ef i Lus, hynny yw Bethel, yng ngwlad Canaan, 7ac adeiladodd allor yno, ac enwi'r lle El-bethel, am mai yno yr ymddangosodd Duw iddo pan oedd yn ffoi rhag ei frawd. 8A bu farw Debora, mamaeth Rebeca, a chladdwyd hi dan dderwen islaw Bethel; ac enwyd honno Alon-bacuth#35:8 H.y., Derwen wylofain..
9Ymddangosodd Duw eto i Jacob, ar ôl iddo ddod o Padan Aram, a'i fendithio. 10Dywedodd Duw wrtho, “Jacob yw dy enw, ond nid Jacob y gelwir di o hyn allan; Israel fydd dy enw.” Ac enwyd ef Israel. 11A dywedodd Duw wrtho, “Myfi yw Duw Hollalluog#35:11 Hebraeg, Shadai.. Bydd ffrwythlon ac amlha; daw ohonot genedl a chynulliad o genhedloedd, a daw brenhinoedd o'th lwynau. 12Rhof i ti y wlad a roddais i Abraham ac Isaac, a bydd y wlad i'th hil ar dy ôl.” 13Yna aeth Duw i fyny o'r man lle bu'n llefaru wrtho. 14A gosododd Jacob golofn, sef colofn garreg, yn y lle y llefarodd wrtho; tywalltodd arni ddiodoffrwm, ac arllwys olew arni. 15Felly enwodd Jacob y lle y llefarodd Duw wrtho, Bethel#35:15 Cymh. 28:19..
Rachel yn Marw wrth Esgor
16Yna aethant o Fethel. Pan oedd eto beth ffordd o Effrath, esgorodd Rachel, a bu'n galed arni wrth esgor. 17A phan oedd yn ei gwewyr, dywedodd y fydwraig wrthi, “Paid ag ofni, oherwydd mab arall sydd gennyt.” 18Ac fel yr oedd yn gwanychu wrth farw, rhoes iddo'r enw Ben-oni#35:18 H.y., Mab fy nhrallod.; ond galwodd ei dad ef Benjamin#35:18 H.y., Mab deheulaw.. 19Yna bu farw Rachel, a chladdwyd hi ar y ffordd i Effrath, hynny yw Bethlehem, 20a gosododd Jacob golofn ar ei bedd; hon yw colofn bedd Rachel, sydd yno hyd heddiw. 21Teithiodd Israel yn ei flaen, a gosod ei babell y tu draw i Migdal-eder. 22Tra oedd Israel yn byw yn y wlad honno, aeth Reuben a gorwedd gyda Bilha gwraig ordderch ei dad; a chlywodd Israel am hyn.
Meibion Jacob
1 Cron. 2:1–2
Yr oedd deuddeg o feibion gan Jacob. 23Meibion Lea: Reuben cyntafanedig Jacob, Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon. 24Meibion Rachel: Joseff a Benjamin. 25Meibion Bilha morwyn Rachel: Dan a Nafftali. 26Meibion Silpa morwyn Lea: Gad ac Aser. Dyma'r meibion a anwyd iddo yn Padan Aram.
Marw Isaac
27Daeth Jacob at ei dad Isaac i Mamre, neu Ciriath-arba, hynny yw Hebron, lle bu Abraham ac Isaac yn aros dros dro. 28Cant a phedwar ugain oedd oed Isaac. 29Yna anadlodd Isaac ei anadl olaf, a bu farw, a'i gasglu at ei bobl yn hen ac oedrannus. Claddwyd ef gan ei feibion Esau a Jacob.

Currently Selected:

Genesis 35: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in