YouVersion Logo
Search Icon

Esra 8

8
Y Rhai a Ddychwelodd gydag Esra
1Dyma restr, gyda'r achau, o'r pennau-teuluoedd a ddaeth gyda mi o Fabilon yn nheyrnasiad y Brenin Artaxerxes. 2O deulu Phinees, Gersom; o deulu Ithamar, Daniel; o deulu Dafydd, Hattus fab Sechaneia; 3o deulu Pharos, Sechareia, a chant a hanner o ddynion wedi eu rhestru gydag ef. 4O deulu Pahath-moab, Elihoenai fab Seraheia, a dau gant o ddynion gydag ef. 5O deulu Sattu, Sechaneia fab Jahasiel, a thri chant o ddynion gydag ef. 6O deulu Adin, Ebed fab Jonathan, a hanner cant o ddynion gydag ef. 7O deulu Elam, Eseia fab Athaleia, a saith deg o ddynion gydag ef. 8O deulu Seffateia, Sebadeia fab Michael, ac wyth deg o ddynion gydag ef. 9O deulu Joab, Obadeia fab Jehiel, a dau gant a deunaw o ddynion gydag ef. 10O deulu Bani, Selomith fab Josiffeia, a chant chwe deg o ddynion gydag ef. 11O deulu Bebai, Sechareia fab Bebai, a dau ddeg ac wyth o ddynion gydag ef. 12O deulu Asgad, Johanan fab Haccatan, a chant a deg o ddynion gydag ef. 13Ac yn olaf, o deulu Adonicam, y rhai canlynol: Eliffelet, Jehiel a Semeia, a chwe deg o ddynion gyda hwy; 14ac o deulu Bigfai, Uthai a Sabbud, a saith deg o ddynion gyda hwy.
Esra'n Ceisio Lefiaid i'r Deml
15Cesglais hwy ynghyd wrth yr afon sy'n llifo i afon Ahafa a gwersyllu yno dridiau. Wedi bwrw golwg dros y bobl a'r offeiriaid, cefais nad oedd Lefiad yn eu plith. 16Yna gelwais am y penaethiaid Elieser, Ariel, Semeia, Elnathan, Jarib, Elnathan, Nathan, Sechareia a Mesulam, ac am y doethion Joiarib ac Elnathan, 17a'u hanfon at Ido, y pennaeth yng nghanolfan Chasiffeia; rhois iddynt neges i'w chyflwyno i Ido a'i frodyr, gweision y deml, oedd yn Chasiffeia, yn gofyn iddo anfon atom wasanaethyddion ar gyfer tŷ ein Duw. 18Ac am ein bod yn derbyn ffafr ein Duw, anfonasant atom Serebeia, gŵr deallus o deulu Mahli, fab Lefi, fab Israel, gyda'i feibion a'i frodyr, deunaw ohonynt i gyd; 19hefyd Hasabeia, a chydag ef Eseia o deulu Merari, gyda'i frodyr a'u meibion, ugain ohonynt; 20a dau gant ac ugain o weision y deml, yn unol â threfn Dafydd a'i swyddogion, i gynorthwyo'r Lefiaid. Rhestrwyd hwy oll wrth eu henwau.
Ympryd a Gweddi cyn Cychwyn
21Ac yno wrth afon Ahafa cyhoeddais ympryd i ymostwng o flaen ein Duw, i weddïo am siwrnai ddiogel i ni a'n plant a'n heiddo. 22Yr oedd arnaf gywilydd gofyn i'r brenin am filwyr a marchogion i'n hamddiffyn yn erbyn gelynion ar y ffordd, am ein bod eisoes wedi dweud wrtho, “Y mae ein Duw yn rhoi cymorth i bawb sy'n ei geisio, ond daw grym ei lid yn erbyn pawb sy'n ei wadu.” 23Felly gwnaethom ympryd ac ymbil ar ein Duw am hyn, a gwrandawodd yntau arnom.
Anrhegion ar gyfer y Deml
24Yna neilltuais ddeuddeg o benaethiaid yr offeiriaid, a hefyd Serebeia a Hasabeia, a deg o'u brodyr gyda hwy, 25a throsglwyddo iddynt hwy yr arian a'r aur a'r llestri a roddwyd yn anrheg i dŷ ein Duw gan y brenin a'i gynghorwyr a'i dywysogion a'r holl Israeliaid oedd gyda hwy. 26Rhoddais iddynt chwe chant a hanner o dalentau arian, llestri arian gwerth can talent, a chan talent o aur, 27ac ugain o flychau aur gwerth mil o ddariciau, a dau lestr o bres melyn coeth, mor werthfawr ag aur. 28A dywedais wrthynt, “Yr ydych chwi a'r llestri yn gysegredig i'r ARGLWYDD, ac offrwm gwirfoddol i ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid yw'r arian a'r aur. 29Gwyliwch drostynt a'u cadw nes eu trosglwyddo i ystafelloedd tŷ'r ARGLWYDD yng ngŵydd penaethiaid yr offeiriaid a'r Lefiaid a phennau-teuluoedd Israel sydd yn Jerwsalem.”
Dychwelyd i Jerwsalem
30Yna cymerodd yr offeiriaid a'r Lefiaid y swm o arian ac aur a'r llestri i'w dwyn i Jerwsalem i dŷ ein Duw. 31Ar y deuddegfed dydd o'r mis cyntaf cychwynasom o afon Ahafa i fynd i Jerwsalem, ac yr oedd ein Duw gyda ni, ac fe'n gwaredodd o law gelynion a lladron pen-ffordd. 32Wedi cyrraedd Jerwsalem cawsom orffwys am dridiau. 33Ac ar y pedwerydd dydd trosglwyddwyd yr arian a'r aur a'r llestri yn nhŷ ein Duw i ofal Meremoth fab Ureia, yr offeiriad, ac Eleasar fab Phinees, ac yr oedd Josabad fab Jesua a Noadeia fab Binnui, y Lefiaid, gyda hwy. 34Gwnaed cyfrif o bopeth wrth ei drosglwyddo, a'r un pryd gwnaed rhestr o'r rhoddion. 35Offrymodd y rhai a ddychwelodd o'r gaethglud boethoffrymau i Dduw Israel: deuddeg bustach dros holl Israel, naw deg a chwech o hyrddod, saith deg a saith o ŵyn, a deuddeg bwch yn aberth dros bechod; yr oedd y cwbl yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD. 36Hefyd rhoesant orchymyn y brenin i'w swyddogion a'i dywysogion yn nhalaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a chael eu cefnogaeth i'r bobl ac i dŷ Dduw.

Currently Selected:

Esra 8: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in