YouVersion Logo
Search Icon

Eseciel 37

37
Gweledigaeth Dyffryn yr Esgyrn
1Daeth llaw yr ARGLWYDD arnaf, ac aeth â mi allan trwy ysbryd yr ARGLWYDD a'm gosod yng nghanol dyffryn a oedd yn llawn esgyrn. 2Aeth â mi'n ôl a blaen o'u hamgylch, a gwelais lawer iawn o esgyrn ar lawr y dyffryn, ac yr oeddent yn sychion iawn. 3Gofynnodd imi, “Fab dyn, a all yr esgyrn hyn fyw?” Atebais innau, “O Arglwydd DDUW, ti sy'n gwybod.” 4Dywedodd wrthyf, “Proffwyda wrth yr esgyrn hyn a dywed wrthynt, ‘Esgyrn sychion, clywch air yr ARGLWYDD. 5Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth yr esgyrn hyn: Wele, fe roddaf fi anadl ynoch, a byddwch fyw. 6Rhoddaf ewynnau arnoch, paraf i gnawd ddod arnoch a rhoddaf groen drosoch; rhoddaf anadl ynoch, a byddwch fyw. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”
7Proffwydais fel y gorchmynnwyd imi. Ac fel yr oeddwn yn proffwydo daeth sŵn, a hefyd gynnwrf, a daeth yr esgyrn ynghyd, asgwrn at asgwrn. 8Edrychais, ac yr oedd gewynnau arnynt, a chnawd hefyd, ac yr oedd croen drostynt, ond nid oedd anadl ynddynt. 9Yna dywedodd wrthyf, “Proffwyda wrth yr anadl; proffwyda, fab dyn, a dywed wrth yr anadl, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: O anadl, tyrd o'r pedwar gwynt, ac anadla ar y lladdedigion hyn, iddynt fyw.’ ” 10Proffwydais fel y gorchmynnwyd imi, a daeth anadl iddynt ac aethant yn fyw, a chodi ar eu traed yn fyddin gref iawn.
11Yna dywedodd wrthyf, “Fab dyn, holl dŷ Israel yw'r esgyrn hyn. Y maent yn dweud, ‘Aeth ein hesgyrn yn sychion, darfu am ein gobaith, ac fe'n torrwyd ymaith.’ 12Felly, proffwyda wrthynt a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: O fy mhobl, yr wyf am agor eich beddau a'ch codi ohonynt, ac fe af â chwi'n ôl i dir Israel. 13Yna, byddwch chwi fy mhobl yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan agoraf eich beddau a'ch codi ohonynt. 14Rhoddaf fy ysbryd ynoch, a byddwch fyw, ac fe'ch gosodaf yn eich gwlad eich hunain. Yna byddwch yn gwybod mai myfi'r ARGLWYDD a lefarodd, ac mai myfi a'i gwnaeth, medd yr ARGLWYDD.’ ”
Un Genedl
15Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 16“Fab dyn, cymer ffon ac ysgrifenna arni, ‘I Jwda ac i'r Israeliaid sydd mewn cysylltiad ag ef’; yna cymer ffon arall ac ysgrifenna arni, ‘Ffon Effraim: i Joseff a holl dŷ Israel sydd mewn cysylltiad ag ef.’ 17Una hwy â'i gilydd yn un ffon, fel y dônt yn un yn dy law. 18Pan ddywed dy bobl, ‘Oni ddywedi wrthym beth yw ystyr hyn?’ 19ateb hwy, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Byddaf yn cymryd ffon Joseff, sydd yn nwylo Effraim, a llwythau Israel mewn cysylltiad ag ef, ac yn uno â hi ffon Jwda, ac yn eu gwneud yn un ffon, fel y byddant yn un yn fy llaw.’ 20Dal y ffyn yr ysgrifennaist arnynt yn dy law o'u blaenau, 21a dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele fi'n cymryd yr Israeliaid o blith y cenhedloedd lle'r aethant; fe'u casglaf o bob man, a mynd â hwy i'w gwlad eu hunain. 22Gwnaf hwy'n un genedl yn y wlad, ar fynyddoedd Israel, a bydd un brenin drostynt i gyd; ni fyddant byth eto'n ddwy genedl, ac ni rennir hwy mwyach yn ddwy deyrnas. 23Ni fyddant yn eu halogi eu hunain eto â'u heilunod, eu pethau atgas a'u holl droseddau, oherwydd byddaf yn eu gwaredu o'u holl wrthgilio#37:23 Felly llawysgrifau. TM, breswylfeydd., a fu'n ddrygioni ynddynt, ac fe'u glanhaf; byddant hwy'n bobl i mi, a minnau'n Dduw iddynt hwy.
24“ ‘Fy ngwas Dafydd a fydd yn frenin arnynt, a bydd un bugail drostynt i gyd. Byddant yn dilyn fy nghyfreithiau ac yn gofalu cadw fy neddfau. 25Byddant yn byw yn y wlad a roddais i'm gwas Jacob, y wlad lle bu'ch hynafiaid yn byw; byddant hwy a'u plant a phlant eu plant yn byw yno am byth, a bydd fy ngwas Dafydd yn dywysog iddynt am byth. 26Gwnaf gyfamod heddwch â hwy, ac fe fydd yn gyfamod tragwyddol; sefydlaf hwy, a'u lluosogi, a gosodaf fy nghysegr yn eu mysg am byth. 27Bydd fy nhrigfan gyda hwy; a byddaf fi'n Dduw iddynt, a hwythau'n bobl i mi. 28Yna, pan fydd fy nghysegr yn eu mysg am byth, bydd y cenhedloedd yn gwybod mai myfi, yr ARGLWYDD, sy'n sancteiddio Israel.’ ”

Currently Selected:

Eseciel 37: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in