YouVersion Logo
Search Icon

Eseciel 30

30
Barn ar yr Aifft
1Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 2“Fab dyn, proffwyda, a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:
Galarwch, a dweud,
“Och am y dydd!”
3Oherwydd agos yw'r dydd,
agos yw dydd yr ARGLWYDD
dydd o gymylau,
dydd barn y cenhedloedd.
4Daw cleddyf yn erbyn yr Aifft,
a bydd gwewyr yn Ethiopia
pan syrth lladdedigion yr Aifft,
a chymerir ymaith ei chyfoeth
a malurio'i sylfeini.
5“ ‘Bydd Ethiopia, Put, Lydia a holl Arabia, Libya#30:5 Cymh. Fersiynau. Hebraeg, Chub., a phobl y wlad sydd mewn cynghrair â hwy, yn syrthio trwy'r cleddyf.
6“ ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
Bydd y rhai sy'n cefnogi'r Aifft yn syrthio,
a darostyngir ei grym balch;
o Migdol i Aswan
byddant yn syrthio trwy'r cleddyf,’ medd yr Arglwydd DDUW.
7‘Byddant yn anrhaith ymysg gwledydd anrheithiedig,
a bydd eu dinasoedd ymysg dinasoedd anghyfannedd.
8Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD,
pan rof dân ar yr Aifft,
a phan ddryllir ei holl gynorthwywyr.
9Y diwrnod hwnnw fe â negeswyr allan mewn llongau oddi wrthyf i ddychryn Ethiopia ddiofal, a daw gwewyr arnynt pan syrth yr Aifft; yn wir y mae'n dod.
10“ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Rhof ddiwedd ar finteioedd yr Aifft trwy law Nebuchadnesar brenin Babilon. 11Dygir ef, a'i fyddin gydag ef, y greulonaf o'r cenhedloedd, i mewn i ddifetha'r wlad; tynnant eu cleddyfau yn erbyn yr Aifft a llenwi'r wlad â lladdedigion. 12Sychaf yr afonydd hefyd, a gwerthu'r wlad i rai drwg; trwy ddwylo estroniaid anrheithiaf y wlad a phopeth sydd ynddi. Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd.
13“ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dinistriaf yr eilunod a rhof ddiwedd ar y delwau sydd yn Noff; ni fydd tywysog yng ngwlad yr Aifft mwyach, a pharaf fod ofn trwy'r wlad. 14Anrheithiaf Pathros, a rhof dân ar Soan, a gweithredu barn ar Thebes. 15Tywalltaf fy llid ar Sin, cadarnle'r Aifft, a thorri ymaith finteioedd Thebes. 16Rhof dân ar yr Aifft, a bydd Sin mewn gwewyr mawr; rhwygir Thebes a bydd Noff mewn cyfyngder yn ddyddiol. 17Fe syrth gwŷr ifainc On a Pibeseth trwy'r cleddyf, a dygir y merched i gaethglud. 18Bydd y dydd yn dywyllwch yn Tahpanhes, pan dorraf yno iau yr Aifft a dod â'i grym balch i ben; fe'i gorchuddir â chwmwl, a dygir ei merched i gaethglud. 19Gweithredaf farn ar yr Aifft, a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”
20Ar y seithfed dydd o'r mis cyntaf yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 21“Fab dyn, torrais fraich Pharo brenin yr Aifft, ond ni rwymwyd hi i'w gwella, na'i rhoi mewn rhwymyn i'w chryfhau i ddal y cleddyf. 22Felly fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Yr wyf yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a thorraf ei freichiau, yr un iach a'r un sydd wedi ei thorri, a gwneud i'r cleddyf syrthio o'i law. 23Gwasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd a'u chwalu trwy'r gwledydd. 24Cryfhaf freichiau brenin Babilon a rhoi fy nghleddyf yn ei law, ond torraf freichiau Pharo, a bydd yn griddfan o'i flaen fel un wedi ei glwyfo i farwolaeth. 25Atgyfnerthaf freichiau brenin Babilon, ond bydd breichiau Pharo'n llipa. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan rof fy nghleddyf yn llaw brenin Babilon, ac yntau'n ei ysgwyd yn erbyn gwlad yr Aifft. 26Gwasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd a'u chwalu trwy'r gwledydd, a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”

Currently Selected:

Eseciel 30: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in