YouVersion Logo
Search Icon

Eseciel 3

3
1Yna dywedodd wrthyf, “Fab dyn, bwyta'r hyn sydd o'th flaen; bwyta'r sgrôl hon, a dos a llefara wrth dŷ Israel.” 2Agorais fy ngheg, a rhoddodd imi'r sgrôl i'w bwyta, 3a dweud wrthyf, “Fab dyn, bwyda dy hun a llanw dy fol â'r sgrôl hon yr wyf yn ei rhoi iti.” Bwyteais, ac yr oedd cyn felysed â mêl yn fy ngenau.
4Dywedodd wrthyf, “Fab dyn, dos yn awr at dŷ Israel a llefara fy ngeiriau wrthynt. 5Nid at bobl ddieithr eu hiaith ac anodd eu lleferydd y'th anfonir, ond at dŷ Israel. 6Na, nid at lawer o bobl ddieithr eu hiaith ac anodd eu lleferydd, a thithau heb ddeall eu geiriau; yn wir, pe bawn wedi dy anfon atynt hwy, byddent yn gwrando arnat. 7Ond nid yw tŷ Israel yn fodlon gwrando arnat, am nad ydynt yn fodlon gwrando arnaf fi, oherwydd y mae tŷ Israel i gyd yn wynebgaled ac yn ystyfnig. 8Yn awr, fe'th wnaf mor wynebgaled ac ystyfnig â hwythau. 9Gwnaf dy dalcen fel diemwnt, yn galetach na challestr; paid â'u hofni nac arswydo rhag eu hwynebau, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.”
10Yna dywedodd wrthyf, “Fab dyn, gwrando ar yr holl eiriau yr wyf yn eu llefaru wrthyt, a derbyn hwy i'th galon. 11Dos yn awr at dy bobl sydd yn y gaethglud, a llefara wrthynt a dweud, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW’, p'run bynnag a wrandawant ai peidio.” 12Cododd yr ysbryd fi, a chlywais o'r tu ôl imi sŵn tymestl fawr: “Bendigedig yw gogoniant yr ARGLWYDD yn ei le.” 13Clywais sŵn adenydd y creaduriaid yn cyffwrdd â'i gilydd, a sŵn yr olwynion wrth eu hochr, a sain tymestl fawr. 14Cododd yr ysbryd fi a'm cario ymaith; ac yr oeddwn yn mynd yn chwerw yng ngwres fy ysbryd, a llaw yr ARGLWYDD yn drwm arnaf. 15Deuthum i Tel-abib at y caethgludion oedd wedi ymsefydlu wrth afon Chebar, ac aros lle'r oeddent hwy yn byw; arhosais yno yn eu mysg wedi fy syfrdanu am saith diwrnod.
Gosod Eseciel yn Wyliwr
Esec. 33:1–9
16Ar ddiwedd y saith diwrnod daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud: 17“Fab dyn, gosodais di yn wyliwr i dŷ Israel; byddi'n clywed gair o'm genau ac yn rhoi rhybudd iddynt oddi wrthyf. 18Os dywedaf wrth y drygionus, ‘Byddi'n sicr o farw’, a thithau heb ei rybuddio a heb lefaru wrtho i'w droi o'i ffordd ddrygionus er mwyn iddo fyw, bydd y drygionus hwnnw farw am ei gamwedd, ond byddaf yn dy ddal di yn gyfrifol am ei waed. 19Ond os byddi wedi rhybuddio'r drygionus, ac yntau heb droi oddi wrth ei ddrygioni ac o'i ffordd ddrygionus, bydd yn marw am ei gamwedd, ond byddi di wedi dy arbed dy hunan. 20Os bydd un cyfiawn yn troi oddi wrth gyfiawnder ac yn gwneud drwg, a minnau wedi rhoi rhwystr o'i flaen, bydd farw; am na rybuddiaist ef, bydd farw am ei gamwedd, ac ni chofir y pethau cyfiawn a wnaeth; ond byddaf yn dy ddal di yn gyfrifol am ei waed. 21Ond os byddi wedi rhybuddio'r cyfiawn rhag pechu, ac yntau'n peidio â phechu, yn sicr fe gaiff fyw am iddo gymryd ei rybuddio, a byddi dithau wedi dy arbed dy hunan.”
Caethiwo Eseciel
22Daeth llaw yr ARGLWYDD arnaf yno, a dywedodd wrthyf, “Cod a dos i'r gwastadedd, ac fe lefaraf wrthyt yno.” 23Codais a mynd i'r gwastadedd, ac yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn sefyll yno, yn union fel y gogoniant a welais wrth afon Chebar, a syrthiais ar fy wyneb. 24Yna daeth yr ysbryd arnaf a'm codi ar fy nhraed, a llefarodd wrthyf gan ddweud, “Dos a chau arnat dy hun yn dy dŷ. 25Fe roddir rhwymau amdanat ti, fab dyn, a'th glymu â hwy fel na elli fynd allan ymysg dy bobl. 26Gwnaf i'th dafod lynu wrth daflod dy enau, a byddi'n fud, fel na elli eu ceryddu, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt. 27Ond pan lefaraf fi wrthyt, fe agoraf dy enau, ac fe ddywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW.’ Bydded i'r sawl sy'n gwrando arnat wrando, ac i'r sawl sy'n gwrthod wrthod; oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.

Currently Selected:

Eseciel 3: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in