Eseciel 25
25
Proffwydo yn erbyn Ammon
1Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 2“Fab dyn, tro dy wyneb at yr Ammoniaid a phroffwyda yn eu herbyn. 3Dywed wrthynt, ‘Gwrandewch air yr Arglwydd DDUW. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd iti ddweud, “Aha!” pan halogwyd fy nghysegr a phan anrheithiwyd tir Israel a phan ddygwyd tŷ Jwda i gaethglud, 4am hynny fe'th rof yn eiddo i bobl y dwyrain. Gosodant hwy eu gwersylloedd, a chodi eu pebyll yn dy ganol; byddant yn bwyta dy gnydau ac yn yfed dy laeth. 5Fe wnaf Rabba yn borfa i gamelod ac Ammon yn gynefin defaid, a byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD. 6Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd iti guro dwylo a tharo traed a llawenhau â holl falais dy galon yn erbyn Israel, 7am hynny yr wyf am estyn fy llaw yn dy erbyn a'th roi yn anrhaith i'r cenhedloedd; torraf di ymaith o blith y bobloedd a'th ddifetha o fysg y gwledydd. Fe'th ddinistriaf, a byddi'n gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.
Proffwydo yn erbyn Moab
8“ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd i Moab a Seir ddweud, “Edrych, aeth tŷ Jwda fel yr holl genhedloedd”, 9am hynny fe ddifethaf derfynau Moab, sef dinasoedd y gororau#25:9 Tebygol. Hebraeg yn aneglur., Beth-jesimoth, Baal-meon a Ciriathaim, rhai gorau'r wlad. 10Rhof Moab gyda'r Ammoniaid yn eiddo i bobl y dwyrain, fel na bydd i'r Ammoniaid gael eu cofio ymhlith y cenhedloedd, 11a gweithredaf farn ar Moab. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.
Proffwydo yn erbyn Edom
12“ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd i Edom ddial ar dŷ Jwda, a bod yn euog iawn trwy wneud hynny, 13am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Fe estynnaf fy llaw yn erbyn Edom, a thorri ymaith ohoni ddyn ac anifail, a'i gwneud yn anrhaith; o Teman hyd Dedan byddant yn syrthio trwy'r cleddyf. 14Byddaf yn dial ar Edom trwy fy mhobl Israel, ac fe wnânt ag Edom yn ôl fy nicter a'm llid. Yna byddant yn gwybod mai dyma fy nialedd, medd yr Arglwydd DDUW.
Proffwydo yn erbyn y Philistiaid
15“ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd i'r Philistiaid weithredu'n ddialgar, a dial â malais yn eu calonnau, a dinistrio o achos hen gasineb, 16am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Fe estynnaf fy llaw yn erbyn y Philistiaid, ac fe dorraf ymaith y Cerethiaid, a dinistrio'r rhai sy'n weddill ar hyd yr arfordir. 17Dygaf ddialedd mawr arnynt a'u cosbi yn fy nicter. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan fyddaf yn dial arnynt.’ ”
Currently Selected:
Eseciel 25: BCND
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004