YouVersion Logo
Search Icon

Eseciel 21

21
Cleddyf o'r Wain yn erbyn Israel
1 # 21:1 Hebraeg, 21:6. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 2“Fab dyn, tro dy wyneb tua Jerwsalem, a llefara yn erbyn ei chysegr#21:2 Felly rhai llawysgrifau Groeg a Syrieg. Hebraeg, cysegrleoedd. a phroffwyda yn erbyn tir Israel. 3Dywed wrth dir Israel, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf fi yn dy erbyn; tynnaf fy nghleddyf o'i wain a thorri ymaith ohonot y cyfiawn a'r drygionus. 4Oherwydd fy mod am dorri ymaith ohonot y cyfiawn a'r drygionus y tynnir fy nghleddyf o'i wain yn erbyn pawb o'r de i'r gogledd. 5Yna bydd pob un yn gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi tynnu fy nghleddyf o'i wain; ni fydd yn dychwelyd yno byth eto.’ 6Ac yn awr, fab dyn, griddfan; griddfan yn chwerw o'u blaenau â chalon ddrylliedig. 7A phan ofynnant iti pam dy fod yn griddfan, fe ddywedi, ‘Oherwydd y newyddion; pan ddaw, bydd pob calon yn toddi, pob llaw yn llipa, pob ysbryd yn pallu a phob glin yn ddŵr. Fe ddigwydd, ac y mae ar ddyfod, medd yr Arglwydd DDUW.’ ”
8Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 9“Fab dyn, proffwyda a dweud, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
Cleddyf! Cleddyf wedi ei hogi,
a hefyd wedi ei loywi—
10wedi ei hogi er mwyn lladd,
a'i loywi i fflachio fel mellten!
O fy mab, fe chwifir gwialen
i ddilorni pob eilun pren!#21:10 Hebraeg yn aneglur.
11Rhoddwyd y cleddyf i'w loywi,
yn barod i law ymaflyd ynddo;
y mae'r cleddyf wedi ei hogi a'i loywi,
yn barod i'w roi yn llaw y lladdwr.’
12Gwaedda ac uda, fab dyn,
oherwydd y mae yn erbyn fy mhobl,
yn erbyn holl dywysogion Israel—
fe'u bwrir hwythau i'r cleddyf gyda'm pobl;
felly trawa dy glun.
13Oherwydd bydd profi. Pam yr ydych yn dilorni'r wialen? Ni lwydda, medd yr Arglwydd DDUW.
14“Ac yn awr, fab dyn, proffwyda,
a thrawa dy ddwylo yn erbyn ei gilydd;
chwifier y cleddyf ddwywaith a thair—
cleddyf i ladd ydyw,
cleddyf i wneud lladdfa fawr,
ac y mae'n chwyrlïo o'u hamgylch.
15Er mwyn i'w calon doddi,
ac i lawer ohonynt syrthio,
yr wyf wedi gosod cleddyf dinistr#21:15 Cymh. Groeg. Hebraeg yn aneglur.
wrth eu holl byrth.
Och! Fe'i gwnaed i ddisgleirio fel mellten,
ac fe'i tynnir i ladd.
16Tro'n finiog i'r dde ac i'r chwith,
i ble bynnag y pwyntia dy flaen.
17Byddaf finnau hefyd yn taro fy nwylo,
ac yna'n tawelu fy llid.
Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd.”
18Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 19“Yn awr, fab dyn, noda ddwy ffordd i gleddyf brenin Babilon ddod, a'r ddwy yn arwain o'r un wlad, a gosod fynegbost ar ben y ffordd sy'n dod i'r ddinas. 20Noda un ffordd i'r cleddyf ddod yn erbyn Rabba'r Ammoniaid, a'r llall yn erbyn Jwda a Jerwsalem gaerog. 21Oherwydd fe oeda brenin Babilon ar y groesffordd lle mae'r ddwy ffordd yn fforchi, i geisio argoel; bydd yn bwrw coelbren â saethau, yn ymofyn â'i eilunod ac yn edrych ar yr afu. 22Yn ei law dde bydd coelbren Jerwsalem, iddo#21:22 Hebraeg yn ychwanegu osod peiriannau hyrddio. roi gorchymyn i ladd, codi bonllef rhyfel, gosod peiriannau hyrddio yn erbyn y pyrth, codi esgynfa ac adeiladu gwarchglawdd. 23Bydd yn ymddangos yn argoel twyllodrus i'r rhai sy'n deyrngar iddo, ond bydd ef yn dwyn eu trosedd i gof ac yn eu caethiwo. 24Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd ichwi ddwyn eich trosedd i gof trwy eich gwrthryfel agored, ac amlygu eich pechodau yn y cyfan a wnewch, oherwydd i chwi wneud hyn, fe'ch caethiwir.
25“A thithau, dywysog annuwiol a drygionus Israel, yr un y daeth ei ddydd yn amser y gosb derfynol, 26fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Diosg y benwisg a thyn y goron; nid fel y bu y bydd; dyrchefir yr isel a darostyngir yr uchel. 27Adfail! Adfail! Yn adfail na fu ei bath y gwnaf hi, nes i'r hwn a'i piau trwy deg ddod, ac imi ei rhoi iddo ef.
Cleddyf yn erbyn Ammon
28“Yn awr, fab dyn, proffwyda a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth yr Ammoniaid a'u heilun#21:28 Hebraeg, gwarth.: Cleddyf! Cleddyf wedi ei dynnu i ladd, wedi ei loywi i ddifa ac i ddisgleirio fel mellten! 29Er bod gweledigaethau gau amdanat ac argoelion twyllodrus ynglŷn â thi, fe'th osodir ar yddfau'r drygionus sydd i'w lladd, sef y rhai y daeth eu dydd yn amser y gosb derfynol. 30Yna, dychweler ef i'w wain. Yn y lle y crëwyd di, yng ngwlad dy gynefin, y barnaf di. 31Tywalltaf fy llid arnat a chwythu fy nig tanllyd drosot; rhoddaf di yn nwylo dynion creulon, dynion medrus i ddinistrio. 32Byddi'n gynnud i dân, bydd dy waed trwy'r tir, ac ni chofir amdanat. Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd.’ ”

Currently Selected:

Eseciel 21: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in