Eseciel 17
17
Dameg yr Eryr a'r Winwydden
1Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 2“Fab dyn, gosod bos a llefara ddameg wrth dŷ Israel, 3a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Daeth i Lebanon eryr mawr, a chanddo adenydd cryfion, a'i esgyll yn hirion ac yn llawn plu amryliw. Cymerodd frigyn uchaf y gedrwydden, 4a thorrodd flaen uchaf y brigyn a'i gymryd i wlad o fasnachwyr a'i blannu yn ninas marsiandïwyr. 5Cymerodd hefyd beth o had y tir a'i roi mewn daear ffrwythlon; plannodd ef fel helygen wrth ddigon o ddŵr. 6Blagurodd a daeth yn winwydden, â'i thyfiant yn lledu'n isel, ei changhennau'n troi ato ef, ond ei gwreiddiau'n parhau odani. Felly daeth yn winwydden, gan dyfu canghennau a bwrw allan frigau. 7Ond yr oedd eryr mawr arall#17:7 Felly Fersiynau. Hebraeg, un., a chanddo adenydd cryfion a digon o blu, a throdd y winwydden hon ei gwreiddiau i'w gyfeiriad ef, ac o'r rhandir lle plannwyd hi anfonodd allan ganghennau ato ef i geisio dŵr. 8Fe'i trawsblannwyd mewn daear dda wrth ddigon o ddŵr er mwyn iddi dyfu canghennau, cynhyrchu ffrwyth a dod yn winwydden odidog.’ 9Dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: A ffynna hi? Oni chodir ei gwreiddiau hi, a thynnu ei ffrwyth? Oni wywa ei thyfiant newydd hi yn llwyr, nes y gellir tynnu ymaith ei gwreiddiau heb fraich gref na llawer o bobl? 10Os trawsblennir hi, a ffynna? Oni wywa'n llwyr, fel petai wedi ei tharo gan wynt y dwyrain—gwywo ar y rhandir lle bu'n tyfu?’ ”
11Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 12“Dywed wrth y tylwyth gwrthryfelgar hwn, ‘Oni wyddoch beth a olyga hyn?’ Dywed, ‘Daeth brenin Babilon i Jerwsalem a chymryd ei brenin a'i thywysogion, a mynd â hwy gydag ef i Fabilon. 13Yna cymerodd un o'r teulu brenhinol, a gwneud cytundeb ag ef a'i osod dan lw. Aeth ag arweinwyr y wlad ymaith, 14er mwyn darostwng y deyrnas, rhag iddi godi drachefn; ac ni allai sefyll ond trwy gadw cytundeb ag ef. 15Ond gwrthryfelodd y brenin yn ei erbyn trwy anfon negeswyr i'r Aifft i geisio meirch a byddin fawr. A lwydda? A arbedir y sawl sy'n gwneud fel hyn? A all dorri'r cytundeb a chael ei arbed? 16Cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, bydd farw ym Mabilon, yng ngwlad y brenin a'i rhoes ar yr orsedd ac y diystyrodd ei lw ac y torrodd ei gytundeb. 17Ni all Pharo gyda'i fyddin gref a'i lu mawr wneud dim drosto mewn rhyfel, pan godir esgynfa ac adeiladu gwarchglawdd i ladd llawer o bobl. 18Diystyrodd y llw a thorri'r cytundeb; er iddo daro bargen, eto gwnaeth y pethau hyn, ac felly nis arbedir. 19Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Cyn wired â'm bod yn fyw, ar ei ben ef ei hun y dygaf fy llw a ddiystyrodd a'm cytundeb a dorrodd. 20Taenaf fy rhwyd drosto, ac fe'i delir yn fy magl; af ag ef i Fabilon a'i farnu yno am iddo fod yn anffyddlon i mi. 21Lleddir â'r cleddyf holl wŷr dethol#17:21 Felly llawysgrifau a Fersiynau. TM, holl fföedigion. ei fyddin, a gwasgerir y gweddill i'r pedwar gwynt. Yna byddwch yn gwybod mai myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd.
22“ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Cymeraf finnau hefyd frigyn o ben y gedrwydden a'i blannu; torraf flagur tyner o'r blaenion a'i blannu ar fynydd mawr ac uchel. 23Ar fynydd-dir uchel Israel y plannaf ef; fe dyf ganghennau, a rhoi ffrwyth a dod yn gedrwydden odidog. Bydd adar o bob math yn nythu ynddo, ac yn clwydo yng nghysgod ei gangau. 24Bydd holl goed y maes yn gwybod mai myfi'r ARGLWYDD sy'n darostwng y goeden uchel ac yn codi'r goeden isel, yn sychu'r goeden iraidd ac yn bywiocáu'r goeden grin. Myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd, ac fe'i gwnaf.’ ”
Currently Selected:
Eseciel 17: BCND
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004