YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 5

5
Moses ac Aaron gerbron Pharo
1Yna aeth Moses ac Aaron at Pharo a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Gollwng fy mhobl yn rhydd er mwyn iddynt gadw gŵyl i mi yn yr anialwch.’ ” 2Dywedodd Pharo, “Pwy yw yr ARGLWYDD? Pam y dylwn i ufuddhau iddo a gollwng Israel yn rhydd? Nid wyf yn adnabod yr ARGLWYDD, ac felly nid wyf am ollwng Israel yn rhydd.” 3Yna dywedasant, “Y mae Duw'r Hebreaid wedi cyfarfod â ni. Gad inni fynd daith dridiau i'r anialwch i aberthu i'r ARGLWYDD, ein Duw, rhag iddo ein taro â haint neu â chleddyf.” 4Ond dywedodd brenin yr Aifft wrthynt, “Moses ac Aaron, pam yr ydych yn denu'r bobl oddi wrth eu gwaith? Ewch yn ôl at eich gorchwylion.” 5Dywedodd Pharo hefyd, “Edrychwch, y maent erbyn hyn yn fwy niferus na thrigolion y wlad#5:5 Felly Pumllyfr y Samariaid. TM, y mae trigolion y wlad erbyn hyn yn niferus., ac yr ydych chwi am atal eu gorchwylion!” 6Y diwrnod hwnnw, rhoddodd Pharo orchymyn i feistri gwaith y bobl a'u swyddogion, 7“Peidiwch â rhoi gwellt mwyach i'r bobl i wneud priddfeini; gadewch iddynt fynd a chasglu gwellt iddynt eu hunain. 8Ond gofalwch eu bod yn cynhyrchu'r un nifer o briddfeini â chynt, a pheidiwch â lleihau'r nifer iddynt. Y maent yn ddiog, a dyna pam y maent yn gweiddi am gael mynd i aberthu i'w Duw. 9Gwnewch y gwaith yn drymach i'r bobl er mwyn iddynt ddal ati i weithio, a pheidiwch â gwrando ar eu celwydd.”
10Aeth meistri gwaith a swyddogion y bobl allan a dweud wrthynt, “Fel hyn y dywed Pharo: 11‘Nid wyf am roi gwellt i chwi mwyach, ond rhaid i chwi eich hunain fynd i geisio gwellt ym mha le bynnag y gallwch ei gael; er hynny, ni fydd dim cwtogi ar eich cynnyrch.’ ” 12Felly, bu raid i'r bobl grwydro trwy holl wlad yr Aifft a chasglu sofl yn lle gwellt. 13Yr oedd y meistri gwaith yn pwyso arnynt gan ddweud, “Gorffennwch y gwaith ar gyfer pob dydd, yn union fel yr oeddech pan oedd gennych wellt.” 14Cafodd y swyddogion a benodwyd gan feistri gwaith Pharo i oruchwylio'r Israeliaid eu curo a'u holi, “Pam na wnaethoch eich dogn o briddfeini heddiw fel cynt?”
15Yna daeth swyddogion yr Israeliaid â'u cwyn at Pharo, a dweud, “Pam yr wyt yn trin dy weision fel hyn? 16Nid oes dim gwellt yn cael ei roi i'th weision, ac eto maent yn dweud wrthym am wneud priddfeini! Y mae dy weision yn cael eu curo, ond ar dy bobl di y mae'r bai.” 17Dywedodd yntau, “Am eich bod mor ddiog yr ydych yn dweud, ‘Gad inni fynd i aberthu i'r ARGLWYDD.’ 18Yn awr, ewch ymlaen â'ch gwaith; ac er na roddir gwellt i chwi mwyach, bydd raid i chwi gynhyrchu'r un nifer o briddfeini â chynt.” 19Pan ddywedwyd nad oeddent i leihau'r nifer o briddfeini oedd i'w cynhyrchu mewn diwrnod, gwelodd swyddogion yr Israeliaid eu bod mewn helynt. 20Wedi iddynt ymadael â Pharo, daeth Moses ac Aaron i'w cyfarfod, 21a dywedodd y swyddogion wrthynt, “Boed i'r ARGLWYDD edrych arnoch a'ch barnu, am ichwi ein gwneud yn ffiaidd yng ngolwg Pharo a'i weision, a rhoi cleddyf iddynt i'n lladd.”
Moses yn Cwyno gerbron yr ARGLWYDD
22Aeth Moses yn ôl at yr ARGLWYDD a dweud, “O ARGLWYDD, pam yr wyt wedi peri'r fath helynt i'r bobl hyn? A pham yr anfonaist fi? 23Oherwydd er pan ddeuthum at Pharo a llefaru yn dy enw, y mae wedi gwneud drwg i'r bobl hyn, ac nid wyt ti wedi gwneud dim o gwbl i achub eu cam.”

Currently Selected:

Exodus 5: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in