YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 14

14
Croesi'r Môr Coch
1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2“Dywed wrth yr Israeliaid am ddychwelyd a gwersyllu o flaen Pihahiroth, rhwng Migdol a'r môr; yr ydych i wersyllu wrth y môr gyferbyn â Baal-seffon. 3Bydd Pharo'n meddwl bod yr Israeliaid wedi eu dal yn y wlad a'u cau i mewn gan yr anialwch. 4Yna, byddaf fi'n caledu ei galon, a bydd ef yn eu herlid; felly, fe enillaf ogoniant i mi fy hun ar draul Pharo a'i holl fyddin, a chaiff yr Eifftiaid wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.” Gwnaeth yr Israeliaid fel y gorchmynnwyd iddynt.
5Pan ddywedwyd wrth frenin yr Aifft fod y bobl wedi ffoi, newidiodd agwedd Pharo a'i weision tuag atynt, ac meddent, “Beth yw hyn a wnaethom? Yr ydym wedi rhyddhau'r Israeliaid o'n gwasanaeth!” 6Felly paratôdd Pharo ei gerbyd ac aeth â'i fyddin gydag ef; 7cymerodd hefyd chwe chant o gerbydau dethol, a'r holl gerbydau eraill oedd yn yr Aifft, a chapten ar bob un. 8Caledodd yr ARGLWYDD galon Pharo brenin yr Aifft, ac erlidiodd hwnnw'r Israeliaid wrth iddynt fynd ymaith yn fuddugoliaethus. 9Aeth yr Eifftiaid ar eu hôl gyda holl feirch Pharo a'i gerbydau, ei farchogion a'i fyddin, a'u goddiweddyd tra oeddent yn gwersyllu wrth y môr gerllaw Pihahiroth, gyferbyn â Baal-seffon.
10Wrth i Pharo nesáu, edrychodd yr Israeliaid i fyny a gweld yr Eifftiaid yn dod ar eu holau, ac yn eu dychryn gwaeddodd pobl Israel ar yr ARGLWYDD. 11Dywedasant wrth Moses, “Ai am nad oedd beddau yn yr Aifft y dygaist ni i'r anialwch i farw? Pam y gwnaethost hyn i ni, a dod â ni allan o'r Aifft? 12Onid oeddem wedi dweud wrthyt yn yr Aifft am adael llonydd inni wasanaethu'r Eifftiaid? Byddai'n well inni eu gwasanaethu hwy na marw yn yr anialwch.” 13Dywedodd Moses wrth y bobl, “Peidiwch ag ofni; byddwch gadarn ac edrychwch ar y waredigaeth y mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi i chwi heddiw, oherwydd ni fyddwch yn gweld yr Eifftiaid a welsoch heddiw byth mwy. 14Bydd yr ARGLWYDD yn ymladd drosoch; am hynny, byddwch dawel.” 15Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Pam yr wyt yn gweiddi arnaf? Dywed wrth yr Israeliaid am fynd ymlaen. 16Cod dithau dy wialen, ac estyn dy law allan dros y môr i'w rannu, er mwyn i'r Israeliaid fynd trwy ei ganol ar dir sych. 17Byddaf finnau'n caledu calonnau'r Eifftiaid er mwyn iddynt eu dilyn, ac enillaf ogoniant ar draul Pharo a'i holl fyddin, ei gerbydau a'i farchogion. 18Caiff yr Eifftiaid wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD pan enillaf ogoniant ar draul Pharo a'i gerbydau a'i farchogion.”
19Symudodd angel Duw, a fu'n mynd o flaen byddin Israel, ac aeth y tu ôl iddynt; a symudodd y golofn niwl a fu o'u blaen, a safodd y tu ôl iddynt, 20gan aros rhwng byddin yr Aifft a byddin Israel. Yr oedd y cwmwl yn dywyllwch, ond yn goleuo trwy'r nos i'r Israeliaid#14:20 Felly Syrieg. Hebraeg, yn goleuo y nos.; ac ni ddaeth y naill ar gyfyl y llall trwy'r nos.
21Estynnodd Moses ei law dros y môr, a thrwy'r nos gyrrodd yr ARGLWYDD y môr yn ei ôl â gwynt cryf o'r dwyrain. Gwnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd. 22Aeth yr Israeliaid trwy ganol y môr ar dir sych, ac yr oedd y dyfroedd fel mur ar y naill ochr a'r llall. 23Erlidiodd yr Eifftiaid hwy, ac aeth holl feirch Pharo, ei gerbydau a'i farchogion, ar eu holau i ganol y môr. 24Yn ystod gwyliadwriaeth y bore, edrychodd yr ARGLWYDD ar fyddin yr Eifftiaid trwy'r golofn dân a'r cwmwl, a daliodd hwy 25trwy gloi#14:25 Felly Fersiynau. Hebraeg, dynnu. olwynion eu cerbydau a'i gwneud yn anodd iddynt yrru ymlaen. Yna dywedodd yr Eifftiaid, “Gadewch inni ffoi oddi wrth Israel, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ymladd drostynt hwy yn erbyn yr Aifft.”
26Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Estyn dy law allan dros y môr er mwyn i'r dyfroedd lifo'n ôl dros yr Eifftiaid a'u cerbydau a'u marchogion.” 27Felly estynnodd Moses ei law dros y môr, ac erbyn y bore yr oedd y môr wedi dychwelyd i'w le. Ceisiodd yr Eifftiaid ffoi rhagddo, ond bwriodd yr ARGLWYDD hwy i ganol y môr. 28Dychwelodd y dyfroedd a gorchuddio'r cerbydau a'r marchogion, a holl fyddin Pharo oedd wedi dilyn yr Israeliaid i'r môr, heb adael yr un ohonynt ar ôl. 29Ond cerddodd yr Israeliaid trwy ganol y môr ar dir sych, ac yr oedd y dyfroedd fel mur ar y naill ochr a'r llall.
30Felly achubodd yr ARGLWYDD Israel o law'r Eifftiaid y diwrnod hwnnw, a gwelsant yr Eifftiaid yn gorwedd yn farw ar lan y môr. 31Pan welodd Israel y weithred fawr a wnaeth yr ARGLWYDD yn erbyn yr Eifftiaid, daethant i'w ofni ac i ymddiried ynddo ef ac yn ei was Moses.

Currently Selected:

Exodus 14: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in