Deuteronomium 27
27
Mynydd Ebal a'r Gyfraith
1Rhoddodd Moses a henuriaid Israel orchymyn i'r bobl a dweud: “Cadwch y cwbl yr wyf yn ei orchymyn ichwi heddiw. 2Y diwrnod y byddwch yn croesi'r Iorddonen ac yn dod i'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi ichwi, codwch feini mawrion a'u plastro â chalch. 3Yna ysgrifennwch arnynt holl eiriau'r gyfraith hon, pan fyddwch wedi croesi drosodd i'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi ichwi, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, fel yr addawodd ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid wrthych. 4Wedi ichwi groesi'r Iorddonen, yr ydych i godi'r meini hyn ym Mynydd Ebal a'u plastro â chalch, fel y gorchmynnais ichwi heddiw. 5Ac yno byddwch yn adeiladu allor i'r ARGLWYDD eich Duw, allor o gerrig heb eu trin ag arf haearn. 6Â cherrig cyfain y byddwch yn adeiladu'r allor i'r ARGLWYDD eich Duw, i offrymu arni boethoffrymau. 7Yno hefyd yr aberthwch heddoffrymau a'u bwyta'n llawen gerbron yr ARGLWYDD eich Duw. 8Ysgrifennwch yn hollol eglur ar y meini holl eiriau'r gyfraith hon.”
9Dywedodd Moses a'r offeiriaid o Lefiaid wrth Israel gyfan, “Gwrando a chlyw, O Israel: y dydd hwn daethost yn bobl i'r ARGLWYDD dy Dduw; 10yr wyt i wrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw a chadw ei orchmynion a'i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw.”
Melltithion ar Anufudd-dod
11Rhoddodd Moses orchymyn i'r bobl y dydd hwnnw a dweud: 12“Pan fyddwch wedi croesi'r Iorddonen, dyma'r rhai sydd i sefyll ar Fynydd Garisim i fendithio'r bobl: Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, Joseff a Benjamin. 13A dyma'r rhai sydd i sefyll ar Fynydd Ebal i felltithio: Reuben, Gad, Aser, Sabulon, Dan a Nafftali.”
14Bydd y Lefiaid yn cyhoeddi wrth holl bobl Israel â llais uchel: 15“Melltith ar y sawl a wna ddelw gerfiedig neu eilun tawdd, a gosod i fyny'n ddirgel bethau o waith dwylo crefftwr, pethau sy'n ffiaidd gan yr ARGLWYDD.” Y mae'r holl bobl i ateb, “Amen.”
16“Melltith ar y sawl sy'n dirmygu ei dad neu ei fam.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”
17“Melltith ar y sawl sy'n symud terfyn ei gymydog.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”
18“Melltith ar y sawl sy'n camarwain y dall.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”
19“Melltith ar y sawl sy'n gwyro barn yn erbyn estron, amddifad neu weddw.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”
20“Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gyda gwraig i'w dad, oherwydd y mae'n dwyn gwarth ar ei dad.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”
21“Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gydag unrhyw anifail.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”
22“Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gyda'i chwaer, p'run ai merch i'w dad neu ferch i'w fam yw hi.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”
23“Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gyda'i fam-yng-nghyfraith.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”
24“Melltith ar y sawl sy'n ymosod ar rywun arall yn y dirgel.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”
25“Melltith ar y sawl sy'n derbyn tâl am ladd dyn dieuog.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”
26“Melltith ar unrhyw un nad yw'n ategu holl eiriau'r gyfraith hon trwy eu cadw.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”
Currently Selected:
Deuteronomium 27: BCND
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004