Deuteronomium 25
25
1Os bydd ymrafael rhwng dau, y maent i ddod â'r achos i lys barn, ac y mae'r barnwr i ddedfrydu, gan ddyfarnu o blaid y cyfiawn a chondemnio'r euog. 2Ac os yw'r euog yn haeddu ei fflangellu, y mae'r barnwr i beri iddo orwedd a derbyn yn ei ŵydd y nifer o lachau sy'n briodol i'r trosedd. 3Nid ydynt i'w guro â mwy na deugain llach rhag iddo, o'i fflangellu lawer mwy na hyn, fynd yn wrthrych dirmyg yn d'olwg.
4Nid wyt i roi genfa am safn ych tra byddo'n dyrnu.
Dyletswydd tuag at Frawd Marw
5Os bydd brodyr yn byw gyda'i gilydd ac un ohonynt yn marw'n ddi-blant, nid yw'r weddw i briodi estron o'r tu allan; y mae ei brawd-yng-nghyfraith i fynd i mewn ati a'i chymryd hi'n wraig iddo, a chyflawni dyletswydd. 6Bydd y mab cyntaf a enir iddi yn cymryd enw'r brawd a fu farw, rhag dileu ei enw o Israel. 7Ac os na bydd y dyn hwnnw'n dymuno priodi ei chwaer-yng-nghyfraith, aed honno i fyny i'r porth at yr henuriaid a dweud, “Y mae fy mrawd-yng-nghyfraith yn gwrthod sicrhau bod enw ei frawd yn parhau yn Israel; nid yw'n fodlon cyflawni dyletswydd brawd-yng-nghyfraith â mi.” 8Yna y mae henuriaid ei dref i'w alw atynt a siarad ag ef; ac os yw'n para i ddweud, “Nid wyf yn dymuno ei phriodi”, 9bydd ei chwaer-yng-nghyfraith yn dod ato yng ngŵydd yr henuriaid, yn tynnu ei sandal oddi ar ei droed, yn poeri yn ei wyneb ac yn cyhoeddi, “Dyma a wneir i'r dyn nad yw am adeiladu tŷ ei frawd.” 10A bydd ei deulu'n cael ei adnabod drwy Israel fel teulu'r dyn y tynnwyd ei sandal.
Deddfau Eraill
11Os bydd dau gymydog yn ymladd â'i gilydd, a gwraig y naill yn dod i achub ei gŵr rhag yr un sy'n ei daro, ac yn estyn ei llaw a chydio yng nghwd y llall, 12torrer ei llaw i ffwrdd; nid wyt i dosturio wrthi.
13Nid wyt i feddu pwysau anghyfartal yn dy god, un yn drwm a'r llall yn ysgafn. 14Nid wyt i feddu yn dy dŷ fesurau anghyfartal, un yn fawr a'r llall yn fach. 15Y mae dy bwysau a'th fesurau i fod yn gyfain ac yn safonol, fel yr estynner dy ddyddiau yn y tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti. 16Oherwydd y mae pob un sy'n gwneud fel arall, ac yn gweithredu'n anonest, yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD dy Dduw.
Gorchymyn Difodi Amalec
17Cofia'r hyn a wnaeth Amalec iti ar dy ffordd allan o'r Aifft; 18heb ofni Duw, daeth allan ac ymosod o'r tu cefn ar bawb oedd yn llusgo'n araf ar dy ôl, pan oeddit yn lluddedig a diffygiol. 19Pan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi rhoi iti lonydd oddi wrth dy holl elynion o'th amgylch yn y wlad y mae'n ei rhoi iti i'w meddiannu'n etifeddiaeth, yr wyt i ddileu coffadwriaeth Amalec oddi tan y nef. Paid ag anghofio.
Currently Selected:
Deuteronomium 25: BCND
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004