YouVersion Logo
Search Icon

Actau 16

16
Timotheus yn Mynd gyda Paul a Silas
1Cyrhaeddodd Derbe ac yna Lystra. Yno yr oedd disgybl o'r enw Timotheus, mab i wraig grediniol o Iddewes, a'i dad yn Roegwr. 2Yr oedd gair da iddo gan y credinwyr yn Lystra ac Iconium. 3Yr oedd Paul am i hwn fynd ymaith gydag ef, a chymerodd ef ac enwaedu arno, o achos yr Iddewon oedd yn y lleoedd hynny, oherwydd yr oeddent i gyd yn gwybod mai Groegwr oedd ei dad. 4Fel yr oeddent yn teithio trwy'r dinasoedd, yr oeddent yn traddodi iddynt, er mwyn iddynt eu cadw, y gorchmynion a ddyfarnwyd gan yr apostolion a'r henuriaid oedd yn Jerwsalem. 5Felly yr oedd yr eglwysi yn ymgadarnhau yn y ffydd, ac yn amlhau mewn rhif beunydd.
Y Gŵr o Facedonia yn Ymddangos i Paul
6Aethant trwy ranbarth Phrygia a Galatia, ar ôl i'r Ysbryd Glân eu rhwystro rhag llefaru'r gair yn Asia. 7Wedi iddynt ddod hyd at Mysia, yr oeddent yn ceisio mynd i Bithynia, ond ni chaniataodd ysbryd Iesu iddynt. 8Ac aethant heibio i Mysia, a dod i lawr i Troas. 9Ymddangosodd gweledigaeth i Paul un noson—gŵr o Facedonia yn sefyll ac yn ymbil arno a dweud, “Tyrd drosodd i Facedonia, a chymorth ni.” 10Pan gafodd ef y weledigaeth, rhoesom gynnig ar fynd i Facedonia ar ein hunion, gan gasglu mai Duw oedd wedi ein galw i gyhoeddi'r newydd da iddynt hwy.
Tröedigaeth Lydia
11Ac wedi hwylio o Troas, aethom ar union hynt i Samothrace, a thrannoeth i Neapolis, 12ac oddi yno i Philipi; dinas yw hon yn rhanbarth gyntaf Macedonia,#16:12 Yn ôl darlleniad arall, hon yw prif ddinas rhanbarth Macedonia, neu, dinas flaenllaw yw hon yn rhanbarth Macedonia. ac y mae'n drefedigaeth Rufeinig. Buom yn treulio rhai dyddiau yn y ddinas hon. 13Ar y dydd Saboth aethom y tu allan i'r porth at lan afon, gan dybio fod yno le gweddi. Wedi eistedd, dechreusom lefaru wrth y gwragedd oedd wedi dod ynghyd. 14Ac yn gwrando yr oedd gwraig o'r enw Lydia, un oedd yn gwerthu porffor, o ddinas Thyatira, ac un oedd yn addoli Duw. Agorodd yr Arglwydd ei chalon hi i ddal ar y pethau yr oedd Paul yn eu dweud. 15Fe'i bedyddiwyd hi a'i theulu, ac yna deisyfodd arnom, gan ddweud, “Os ydych yn barnu fy mod yn credu yn yr Arglwydd, dewch i mewn ac arhoswch yn fy nhŷ.” A mynnodd ein cael yno.
I'r Carchar yn Philipi
16Un tro pan oeddem ar ein ffordd i'r lle gweddi, daeth rhyw gaethferch a chanddi ysbryd dewiniaeth i'n cyfarfod, un oedd yn dwyn elw mawr i'w meistri trwy ddweud ffortiwn. 17Dilynodd hon Paul a ninnau, gan weiddi: “Gweision y Duw Goruchaf yw'r dynion hyn, ac y maent yn cyhoeddi i chwi ffordd iachawdwriaeth.” 18Gwnaeth hyn am ddyddiau lawer. Blinodd Paul arni, a throes ar yr ysbryd a dweud, “Rwy'n gorchymyn i ti, yn enw Iesu Grist, ddod allan ohoni.” Ac allan y daeth, y munud hwnnw. 19Pan welodd ei meistri hi fod eu gobaith am elw wedi diflannu, daliasant Paul a Silas, a'u llusgo i'r farchnadfa o flaen yr awdurdodau, 20ac wedi dod â hwy gerbron yr ynadon, meddent, “Y mae'r dynion yma'n cythryblu ein dinas ni; Iddewon ydynt, 21ac y maent yn cyhoeddi defodau nad yw'n gyfreithlon i ni, sy'n Rhufeinwyr, eu derbyn na'u harfer.” 22Yna ymunodd y dyrfa yn yr ymosod arnynt. Rhwygodd yr ynadon y dillad oddi amdanynt, a gorchymyn eu curo â ffyn. 23Ac wedi rhoi curfa dost iddynt bwriasant hwy i garchar, gan rybuddio ceidwad y carchar i'w cadw'n ddiogel. 24Gan iddo gael y fath rybudd, bwriodd yntau hwy i'r carchar mewnol, a rhwymo'u traed yn y cyffion.
25Tua hanner nos, yr oedd Paul a Silas yn gweddïo ac yn canu mawl i Dduw, a'r carcharorion yn gwrando arnynt. 26Ac yn sydyn bu daeargryn mawr, nes siglo seiliau'r carchar. Agorwyd yr holl ddrysau ar unwaith, a datodwyd rhwymau pawb. 27Deffrôdd ceidwad y carchar, a phan welodd ddrysau'r carchar yn agored, tynnodd ei gleddyf ac yr oedd ar fin ei ladd ei hun, gan dybio fod ei garcharorion wedi dianc. 28Ond gwaeddodd Paul yn uchel, “Paid â gwneud dim niwed i ti dy hun; yr ydym yma i gyd.” 29Galwodd ef am oleuadau, a rhuthrodd i mewn; daeth cryndod arno, a syrthiodd o flaen Paul a Silas. 30Yna daeth â hwy allan a dweud, “Foneddigion, beth sy raid imi ei wneud i gael fy achub?” 31Dywedasant hwythau, “Cred yn yr Arglwydd Iesu, ac fe gei dy achub, ti a'th deulu.” 32A thraethasant air yr Arglwydd wrtho ef ac wrth bawb oedd yn ei dŷ. 33Er ei bod yn hwyr y nos, aeth ef â hwy a golchi eu briwiau; ac yn union wedyn fe'i bedyddiwyd ef a phawb o'i deulu. 34Yna, wedi dod â hwy i'w dŷ, gosododd bryd o fwyd o'u blaen, a gorfoleddodd gyda'i holl deulu am ei fod wedi credu yn Nuw.
35Pan ddaeth yn ddydd, anfonodd yr ynadon y rhingylliaid â'r neges: “Gollwng y dynion hynny'n rhydd.” 36Adroddodd ceidwad y carchar y neges hon wrth Paul: “Y mae'r ynadon wedi anfon gair i'ch gollwng yn rhydd. Felly, dewch allan yn awr, ac ewch mewn tangnefedd.” 37Ond atebodd Paul hwy, “Cyn ein bwrw ni i garchar, fflangellasant ni ar goedd, heb farnu ein hachos, er ein bod yn ddinasyddion Rhufain. A ydynt yn awr i gael ein bwrw ni allan yn ddirgel? Nac ydynt, yn wir! Gadewch iddynt ddod eu hunain a'n tywys ni allan.” 38Adroddodd y rhingylliaid y neges hon wrth yr ynadon, a chawsant hwy fraw pan glywsant mai Rhufeinwyr oedd Paul a Silas. 39Aethant i ymddiheuro iddynt, ac wedi eu tywys hwy allan, gofynasant iddynt fynd i ffwrdd o'r ddinas. 40Wedi dod allan o'r carchar, aethant i dŷ Lydia, a gwelsant y credinwyr, a'u calonogi. Yna aethant ymaith.

Currently Selected:

Actau 16: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in