2 Samuel 10
10
Dafydd yn Gorchfygu'r Ammoniaid a'r Syriaid
1 Cron. 19:1–19
1Wedi hyn bu farw brenin yr Ammoniaid, a daeth Hanun ei fab yn frenin yn ei le. 2Dywedodd Dafydd, “Gwnaf garedigrwydd â Hanun fab Nahas, fel y gwnaeth ei dad â mi.” Felly anfonodd neges ato gyda'i weision, i'w gysuro am ei dad. Ond pan ddaeth gweision Dafydd i wlad yr Ammoniaid, 3dywedodd tywysogion yr Ammoniaid wrth eu harglwydd Hanun, “A wyt ti'n tybio mai anrhydeddu dy dad y mae Dafydd wrth anfon cysurwyr atat? Onid er mwyn chwilio'r ddinas a'i hysbïo a'i goresgyn yr anfonodd Dafydd ei weision atat?” 4Yna cymerodd Hanun weision Dafydd, ac eillio hanner barf pob un ohonynt, a thorri gwisg pob un yn ei hanner hyd at ei gluniau, a'u hanfon ymaith. 5Pan ddywedwyd hyn wrth Ddafydd, anfonodd rai i'w cyfarfod, am fod cywilydd mawr ar y dynion, a dweud wrthynt am aros yn Jericho a pheidio â dychwelyd nes y byddai eu barfau wedi tyfu.
6Pan welsant eu bod yn ffiaidd gan Ddafydd, anfonodd yr Ammoniaid a chyflogi ugain mil o wŷr traed oddi wrth y Syriaid yn Beth-rehob a Soba, a hefyd mil o wŷr oddi wrth frenin Maacha a deuddeng mil o wŷr Tob. 7Pan glywodd Dafydd, anfonodd Joab allan gyda'r holl fyddin a'r milwyr. 8Daeth yr Ammoniaid allan a ffurfio rhengoedd ar gyfer y frwydr ger porth y ddinas, gyda Syriaid o Soba a Rehob, a gwŷr Tob a Maacha ar eu pennau eu hunain mewn tir agored. 9Gwelodd Joab y byddai'n gorfod ymladd o'r tu blaen ac o'r tu ôl; felly dewisodd wŷr dethol o fyddin Israel, a'u trefnu'n rhengoedd i wynebu'r Syriaid. 10Gosododd weddill y fyddin dan awdurdod ei frawd Abisai, a'u trefnu'n rhengoedd i wynebu'r Ammoniaid. 11A dywedodd, “Os bydd y Syriaid yn drech na mi, tyrd di i'm cynorthwyo; ond os bydd yr Ammoniaid yn drech na thi, dof finnau i'th gynorthwyo di. 12Bydd yn wrol! Byddwn ddewr dros ein pobl a dinasoedd ein Duw; a bydded i'r ARGLWYDD wneud yr hyn sy'n dda yn ei olwg.” 13Yna nesaodd Joab a'r milwyr oedd gydag ef i ryfel yn erbyn y Syriaid, a ffoesant o'i flaen. 14Pan welodd yr Ammoniaid fod y Syriaid wedi ffoi, ffoesant hwythau o flaen Abisai, a mynd i'r ddinas. Gadawodd Joab ei gyrch yn erbyn yr Ammoniaid, a dychwelodd i Jerwsalem.
15Pan welodd y Syriaid iddynt golli'r dydd o flaen Israel, daethant at ei gilydd eto, 16ac anfonodd Hadadeser i gyrchu'r Syriaid o Tu-hwnt-i'r-Ewffrates hefyd. Daethant ynghyd i Helam, gyda Sobach, pencapten Hadadeser, yn eu harwain. 17Pan ddywedwyd wrth Ddafydd, fe gasglodd ynghyd Israel gyfan, croesodd yr Iorddonen, a dod i Helam. Trefnodd y Syriaid eu rhengoedd yn erbyn Dafydd a rhyfela yn ei erbyn. 18Ffodd y Syriaid o flaen Israel, a lladdodd Dafydd ohonynt saith gant o wŷr cerbyd a deugain mil o farchogion; 19a hefyd fe drawodd Sobach, y pencapten, a bu yntau farw yno. Pan welodd yr holl frenhinoedd oedd dan awdurdod Hadadeser iddynt golli'r dydd o flaen Israel, gwnaethant heddwch ag Israel a phlygu i'w hawdurdod. Wedi hyn ofnai'r Syriaid roi rhagor o gymorth i'r Ammoniaid.
Currently Selected:
2 Samuel 10: BCND
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004