YouVersion Logo
Search Icon

2 Brenhinoedd 7

7
1Ond dywedodd Eliseus, “Gwrando air yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Tua'r adeg yma yfory gwerthir ym mhorth Samaria bwn o flawd am sicl, a dau bwn o haidd am sicl.” 2Atebwyd Eliseus gan y swyddog yr oedd y brenin yn pwyso ar ei fraich: “Hyd yn oed pe bai'r ARGLWYDD yn agor ffenestri yn y nefoedd, a allai hyn ddigwydd?” Meddai yntau, “Cei ei weld â'th lygaid dy hun, ond ni chei fwyta ohono.”
Byddin Syria yn Ymadael
3Y tu allan i'r porth yr oedd pedwar dyn gwahanglwyfus, ac meddent wrth ei gilydd, “Pam aros yma nes inni farw? 4Pe byddem yn penderfynu mynd i'r ddinas, byddem yn marw yno am fod newyn yn y ddinas; a marw y byddwn os arhoswn yma. Dewch, mentrwn i wersyll Syria. Os arbedant ni, cawn fyw; os lladdant ni, byddwn farw.” 5Felly gyda'r nos aethant draw i wersyll y Syriaid; ond wedi iddynt gyrraedd cwr y gwersyll, nid oedd yr un Syriad yno. 6Yr oedd yr ARGLWYDD wedi peri i wersyll y Syriaid glywed trwst cerbydau a meirch a byddin gref, nes bod pawb yn dweud, “Y mae brenin Israel wedi cyflogi brenhinoedd yr Hethiaid a'r Eifftiaid i ymosod arnom.” 7Dyna pam yr oeddent wedi ffoi gyda'r nos, a gadael eu pebyll a'u meirch a'u hasynnod a'r gwersyll fel yr oedd, a ffoi am eu heinioes. 8Pan ddaeth y gwahangleifion hyn i gwr y gwersyll, aethant i mewn i un o'r pebyll, a bwyta ac yfed; ac yna aethant ag arian ac aur a dilladau oddi yno a'u cuddio; wedyn dod yn ôl a mynd i babell arall a dwyn o honno a'i guddio. 9Yna dyma hwy'n dweud wrth ei gilydd, “Nid ydym yn gwneud y peth iawn; dydd o newyddion da yw heddiw, a ninnau'n dweud dim. Os arhoswn hyd olau dydd, byddwn ar fai; felly gadewch inni fynd a dweud ym mhalas y brenin.” 10Aethant a galw ar borthorion y ddinas a dweud, “Buom yng ngwersyll y Syriaid, ond nid oedd unrhyw un yno, na sôn am neb—dim ond ambell geffyl ac asyn wedi ei rwymo, a'r pebyll wedi eu gadael fel yr oeddent.” 11Gwaeddodd y porthorion a dweud wrth y rhai oedd i mewn ym mhalas y brenin. 12Yna cododd y brenin gefn nos, ac meddai wrth ei weision, “Mi ddywedaf wrthych beth y mae'r Syriaid yn ei wneud i ni; y maent yn gwybod bod newyn arnom, ac y maent wedi mynd allan o'r gwersyll i guddio, gan feddwl, ‘Pan ddônt allan o'r ddinas, daliwn hwy'n fyw, a mynd i mewn i'r ddinas.’ ” 13Atebodd un o'i weision, “Beth am gymryd pump o'r meirch sydd ar ôl, ac anfon rhywrai inni gael gweld? Achos, os arhoswn yn y ddinas#7:13 Hebraeg, ynddi., fe fydd holl liaws Israel sydd ar ôl yr un fath â'r holl lu o Israeliaid sydd wedi darfod.” 14Wedi dewis dau farchog, anfonodd y brenin hwy ar ôl byddin Syria, gyda'r siars, “Ewch i edrych.” 15Aethant ar eu hôl cyn belled â'r Iorddonen, ac yr oedd y ffordd ar ei hyd yn llawn o ddillad a chelfi wedi eu taflu i ffwrdd gan y Syriaid yn eu brys. Yna dychwelodd y negeswyr a dweud wrth y brenin.
16Wedi hynny aeth y bobl allan ac ysbeilio gwersyll y Syriaid, a chaed pwn o flawd am sicl a dau bwn o haidd am sicl, yn ôl gair yr ARGLWYDD. 17Yr oedd y brenin wedi penodi'r swyddog y pwysai ar ei fraich i arolygu'r porth; ond mathrodd y bobl ef yn y porth, a bu farw, fel yr oedd gŵr Duw wedi dweud pan aeth y brenin ato. 18Digwyddodd hefyd yn ôl fel y dywedodd gŵr Duw wrth y brenin, “Bydd dau bwn o haidd am sicl, a phwn o beilliaid am sicl yr adeg yma yfory ym mhorth Samaria.” 19Pan atebodd y swyddog ŵr Duw a dweud, “Hyd yn oed pe bai'r ARGLWYDD yn gwneud ffenestri yn y nef, a allai hyn ddigwydd?” cafodd yr ateb, “Cei ei weld â'th lygaid dy hun, ond ni chei fwyta ohono.” 20Ac felly y digwyddodd: mathrodd y bobl ef yn y porth, a bu farw.

Currently Selected:

2 Brenhinoedd 7: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in