YouVersion Logo
Search Icon

2 Brenhinoedd 23

23
Joseia yn Dileu Addoliad Paganaidd
2 Cron. 34:3–7, 29–33
1Yna anfonodd y brenin a chasglu ato holl henuriaid Jwda a Jerwsalem; 2ac aeth i fyny i'r deml, a holl bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem gydag ef, a hefyd yr offeiriaid a'r proffwydi a phawb o'r bobl, bach a mawr. Yna darllenodd yn eu clyw holl gynnwys y llyfr cyfamod a gaed yn nhŷ'r ARGLWYDD.
3Safodd y brenin wrth y golofn a gwnaeth gyfamod o flaen yr ARGLWYDD, i ddilyn yr ARGLWYDD ac i gadw ei orchmynion a'i dystiolaethau a'i ddeddfau â'i holl galon ac â'i holl enaid, ac i gyflawni holl eiriau'r cyfamod a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn. A safodd yr holl bobl wrth y cyfamod.
4Yna gorchmynnodd y brenin i'r archoffeiriad Hilceia, a'r is-offeiriaid, a cheidwaid y drws symud allan o deml yr ARGLWYDD yr holl offer a wnaed ar gyfer Baal ac Asera a holl lu'r nef; a llosgwyd hwy y tu allan i Jerwsalem ar lethrau Cidron, a mynd â'u llwch i Fethel. 5Diswyddodd yr offeiriaid gau a osododd brenhinoedd Jwda i arogldarthu#23:5 Felly Fersiynau. Hebraeg, ac arogldarthodd. yn yr uchelfeydd yn nhrefi Jwda a chyffiniau Jerwsalem, a'r rhai oedd yn arogldarthu i Baal a'r haul a'r lloer a'r planedau a holl lu'r nef. 6Dygodd byst Asera allan o dŷ'r ARGLWYDD i lawr i nant Cidron y tu allan i Jerwsalem, a'i llosgi yno, a'i malu'n llwch a thaenu'r llwch yn y fynwent gyffredin. 7Bwriodd i lawr dai puteinwyr y cysegr oedd yn nhŷ'r ARGLWYDD, lle'r oedd gwragedd yn gweu gwisgoedd ar gyfer delw Asera. 8Symudodd yr holl offeiriaid o drefi Jwda, a halogodd yr uchelfeydd lle bu'r offeiriaid yn arogldarthu, o Geba hyd Beerseba. Tynnodd i lawr uchelfeydd y pyrth oedd wrth borth Josua pennaeth y ddinas, ar y chwith i borth y ddinas. 9Eto ni ddôi offeiriaid yr uchelfeydd i fyny at allor yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, ond bwyta bara croyw ymhlith eu brodyr.
10Halogodd y Toffet oedd yn nyffryn Ben-hinnom, rhag i neb losgi ei fab na'i ferch i Moloch. 11A gwnaeth i ffwrdd â'r meirch a gysegrodd brenhinoedd Jwda i'r haul ym mynedfa tŷ'r ARGLWYDD, wrth ystafell Nathanmelech yr ystafellydd yn y glwysty, a llosgodd gerbyd yr haul. 12Tynnodd i lawr yr allorau a wnaeth brenhinoedd Jwda ar do goruwchystafell Ahas, a'r allorau a wnaeth Manasse yn nau gyntedd tŷ'r ARGLWYDD; ac ar ôl eu dryllio yno, taflodd eu llwch i nant Cidron. 13Yna halogodd y brenin yr uchelfeydd oedd gyferbyn â Jerwsalem i'r de o Fynydd yr Olewydd#23:13 Felly Targwm. Hebraeg, y Dinistrydd., ac a adeiladwyd gan Solomon brenin Israel ar gyfer Astoreth, ffieiddbeth Sidon, a Chemos, ffieiddbeth Moab, a Milcom, ffieidd-dra'r Ammoniaid. 14Drylliodd y colofnau, a thorri i lawr y prennau Asera a llenwi eu cysegrleoedd ag esgyrn dynol.
15Ym Methel tynnodd i lawr yr allor a'r uchelfa a gododd Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu. Llosgodd yr uchelfa a'i malu'n llwch, a llosgi'r pyst Asera. 16Wrth droi ymaith, sylwodd Joseia ar y fynwent oedd yno ar y mynydd, ac anfonodd a chymryd esgyrn o'r beddau a'u llosgi ar yr allor a'i halogi, a hynny'n cyflawni gair yr ARGLWYDD, a gyhoeddodd gŵr Duw pan ragfynegodd y pethau hyn. 17Wedyn gofynnodd, “Beth yw'r gofeb acw a welaf?” Atebodd pobl y ddinas ef, “Dyna fedd gŵr Duw, a ddaeth o Jwda a rhagfynegi'r pethau hyn yr wyt ti wedi eu gwneud ag allor Bethel.” 18Yna dywedodd wrthynt am adael llonydd iddo ac nad oedd neb i ymyrryd â'i esgyrn. Felly arbedwyd ei esgyrn, a hefyd esgyrn y proffwyd a ddaeth o Samaria.
19Yn nhrefi Samaria dinistriodd Joseia holl demlau'r uchelfeydd a wnaeth brenhinoedd Israel i ddigio'r ARGLWYDD#23:19 Felly Fersiynau. Hebraeg heb yr ARGLWYDD.. Gwnaeth iddynt yno yn hollol fel y gwnaeth ym Methel. 20Lladdodd ar yr allorau bob un o offeiriaid yr uchelfeydd oedd yno, a llosgi esgyrn dynol arnynt cyn dychwelyd i Jerwsalem.
Joseia'n Cadw'r Pasg
2 Cron. 35:1–19
21Rhoddodd y brenin orchymyn i'r holl bobl, “Gwnewch Basg i'r ARGLWYDD eich Duw, fel sydd wedi ei ysgrifennu yn y llyfr cyfamod hwn.” 22Oherwydd ni chadwyd Pasg fel hwn er dyddiau'r barnwyr a fu'n barnu Israel, na thrwy holl flynyddoedd brenhinoedd Israel a Jwda. 23Yn y ddeunawfed flwyddyn i'r Brenin Joseia y cadwyd y Pasg hwn i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem.
Diwygiadau Eraill Joseia
24Dileodd Joseia y swynwyr a'r dewiniaid, y delwau a'r eilunod, a phob ffieidd-dra tebyg a welwyd yng ngwlad Jwda ac yn Jerwsalem. Gwnaeth hyn er mwyn cadw geiriau'r gyfraith a ysgrifennwyd yn y llyfr a ddarganfu'r offeiriad Hilceia yn y deml. 25Erioed o'r blaen ni chaed brenin tebyg iddo, yn troi at yr ARGLWYDD â'i holl galon, ac â'i holl enaid, ac â'i holl egni yn ôl holl gyfraith Moses. Ac ni chododd neb tebyg iddo ar ei ôl.
26Er hynny ni throdd yr ARGLWYDD oddi wrth angerdd ei ddigofaint mawr yn erbyn Jwda o achos yr holl bethau a wnaeth Manasse i'w ddigio. 27A dywedodd yr ARGLWYDD, “Symudaf Jwda hefyd allan o'm gŵydd, fel y symudais Israel; a gwrthodaf Jerwsalem, y ddinas hon a ddewisais, a hefyd y tŷ hwn y dywedais y byddai f'enw yno.”
Diwedd Teyrnasiad Joseia
2 Cron. 35:20—36:1
28Am weddill hanes Joseia, a'r cwbl a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda? 29Yn ei ddyddiau ef daeth Pharo Necho brenin yr Aifft at afon Ewffrates, at frenin Asyria; a phan aeth Joseia allan yn ei erbyn, lladdodd Necho ef yn Megido, pan welodd ef. 30Cludodd ei weision ef yn farw o Megido, a'i ddwyn i Jerwsalem a'i gladdu yn ei feddrod. Dewisodd pobl y wlad Jehoahas fab Joseia, a'i eneinio'n frenin yn lle ei dad.
Jehoahas Brenin Jwda
2 Cron. 36:2–4
31Tair ar hugain oed oedd Jehoahas pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am dri mis yn Jerwsalem. Hamutal merch Jeremeia o Libna oedd enw ei fam. 32Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y gwnaeth ei ragflaenwyr. 33Carcharodd Pharo Necho ef yn Ribla yng ngwlad Hamath, rhag iddo fod yn frenin yn Jerwsalem, a gosododd ar y wlad dreth o gan talent o arian a thalent o aur. 34Gwnaeth Eliacim fab Joseia yn frenin yn lle ei dad Joseia, a newid ei enw i Jehoiacim. Cymerodd Jehoahas i lawr i'r Aifft, lle bu farw. 35Fe roddodd Jehoiacim yr arian a'r aur i Pharo, ond trethodd y wlad i godi'r arian yr oedd Pharo yn eu hawlio; gosodwyd trethiant ar bob un o bobl y wlad i godi'r arian a'r aur i dalu i Pharo Necho.
Jehoiacim Brenin Jwda
2 Cron. 36:5–8
36Pump ar hugain oed oedd Jehoiacim pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am un mlynedd ar ddeg. Sebuda merch Pedaia o Ruma oedd enw ei fam. 37Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y gwnaeth ei ragflaenwyr.

Currently Selected:

2 Brenhinoedd 23: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy