YouVersion Logo
Search Icon

2 Corinthiaid 6

6
1Yr ydym ni, fel cydweithwyr, yn apelio atoch i beidio â gadael i'r gras a dderbyniasoch gan Dduw fynd yn ofer. 2Oherwydd y mae Duw'n dweud:
“Yn yr amser cymeradwy y gwrandewais arnat,
a'th gynorthwyo ar ddydd iachawdwriaeth.”
Dyma, yn awr, yr amser cymeradwy; dyma, yn awr, ddydd iachawdwriaeth. 3Nid ydym yn gosod unrhyw faen tramgwydd ar lwybr neb, rhag cael bai ar ein gweinidogaeth. 4Yn hytrach, ym mhob peth yr ydym yn ein cymeradwyo ein hunain fel gweinidogion Duw: yn ein dyfalbarhad mawr; yn ein gorthrymderau, ein gofidiau, a'n cyfyngderau; 5yn ein profiadau o'r chwip, o garchar ac o derfysg; yn ein llafur, ein diffyg cwsg a'n newyn; 6yn ein purdeb, ein gwybodaeth, ein goddefgarwch a'n caredigrwydd; yn yr Ysbryd Glân ac yn ein cariad diragrith; 7yng ngair y gwirionedd ac yn nerth Duw, trwy ddefnyddio arfau cyfiawnder yn y llaw dde a'r llaw chwith, 8doed parch, doed amarch, doed anghlod, doed clod. Twyllwyr y'n gelwir, a ninnau'n eirwir; 9rhai dinod, a ninnau'n enwog; yn marw, ac eto byw ydym; dan gosb, ond heb gael ein lladd; 10dan dristwch, ond bob amser yn llawenhau; mewn tlodi, ond yn gwneud llawer yn gyfoethog; heb ddim gennym, ac eto'n berchen pob peth.
11Yr ydym wedi llefaru'n gwbl rydd wrthych, Gorinthiaid; y mae'n calon yn llydan agored tuag atoch. 12Nid nyni sy'n cyfyngu arnoch, ond eich teimladau eich hunain. 13I dalu'n ôl—yr wyf yn siarad wrthych fel wrth blant—agorwch chwithau eich calonnau yn llydan.
Chwi yw Teml y Duw Byw
14Peidiwch ag ymgysylltu'n amhriodol ag anghredinwyr, oherwydd pa gyfathrach sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfraith? A pha gymdeithas sydd rhwng goleuni a thywyllwch? 15Pa gytgord sydd rhwng Crist a Belial? Neu pa gyfran sydd i gredadun gydag anghredadun? 16Pa gytundeb sydd rhwng teml Duw ac eilunod? Oherwydd nyni yw teml y Duw byw. Fel y dywedodd Duw:
“Trigaf ynddynt hwy, a rhodiaf yn eu plith,
a byddaf yn Dduw iddynt hwy,
a hwythau'n bobl i minnau.
17Am hynny, dewch allan o'u plith hwy,
ymwahanwch oddi wrthynt, medd yr Arglwydd,
a pheidiwch â chyffwrdd â dim byd aflan.
Ac fe'ch derbyniaf chwi,
18a byddaf i chwi yn dad,
a byddwch chwi'n feibion a merched i mi,
medd yr Arglwydd, yr Hollalluog.”

Currently Selected:

2 Corinthiaid 6: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy