YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 27

27
Jotham Brenin Jwda
2 Bren. 15:32–38
1Pump ar hugain oed oedd Jotham pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar bymtheg yn Jerwsalem. Jerusa ferch Sadoc oedd enw ei fam. 2Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn hollol fel y gwnaeth ei dad Usseia, ar wahân i fynd i mewn i deml yr ARGLWYDD; 3eto yr oedd y bobl yn dal i fyw yn llygredig. Ef a adeiladodd Borth Uchaf tŷ'r ARGLWYDD, ac atgyweirio rhan fawr o fur yr Offel. 4Adeiladodd ddinasoedd hefyd ym mynydd-dir Jwda, a chaerau a thyrau ar y bryniau coediog. 5Brwydrodd yn erbyn yr Ammoniaid a'u brenin, a'u trechu. Y flwyddyn honno rhoddodd yr Ammoniaid iddo gan talent o arian, deng mil corus o wenith a deng mil corus o haidd; rhoesant yr un faint iddo yn yr ail a'r drydedd flwyddyn. 6Ymgryfhaodd Jotham am iddo drefnu ei fywyd yn ôl ewyllys yr ARGLWYDD ei Dduw. 7Am weddill hanes Jotham, ei holl ryfeloedd a'i arferion, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda. 8Pump ar hugain oedd ei oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar bymtheg yn Jerwsalem. 9Bu farw Jotham, a chladdwyd ef yn Ninas Dafydd, a theyrnasodd ei fab Ahas yn ei le.

Currently Selected:

2 Cronicl 27: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in