YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 24

24
Jehoas Brenin Jwda
2 Bren. 12:1–16
1Saith oed oedd Jehoas pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am ddeugain mlynedd. Sibia o Beerseba oedd enw ei fam. 2Gwnaeth Jehoas yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD trwy gydol cyfnod Jehoiada'r offeiriad. 3Dewisodd Jehoiada ddwy wraig iddo, a chafodd ganddynt feibion a merched.
4Wedi hyn, rhoddodd Jehoas ei fryd ar adnewyddu tŷ'r ARGLWYDD. 5Cynullodd yr offeiriaid a'r Lefiaid a dweud wrthynt, “Ewch ar frys trwy holl ddinasoedd Jwda i gasglu'r dreth flynyddol gan Israel gyfan, er mwyn atgyweirio tŷ eich Duw.” Ond ni frysiodd y Lefiaid. 6Galwodd y brenin ar Jehoiada, yr archoffeiriad, a dweud wrtho, “Pam na fynnaist fod y Lefiaid yn casglu o Jwda a Jerwsalem y dreth a osododd Moses gwas yr ARGLWYDD ar gynulleidfa Israel ar gyfer pabell y dystiolaeth? 7Oherwydd y mae meibion y wraig ddrwg Athaleia wedi malurio tŷ Dduw, ac wedi rhoi pob un o'i bethau cysegredig i'r Baalim.”
8Ar orchymyn y brenin gwnaethant gist a'i gosod y tu allan i borth tŷ'r ARGLWYDD. 9Yna cyhoeddwyd trwy Jwda a Jerwsalem fod pawb i roi i'r ARGLWYDD y dreth a osododd Moses gwas Duw ar Israel yn yr anialwch. 10Dygodd yr holl dywysogion a'r bobl yr arian yn llawen, a'i roi yn y gist nes ei bod yn llawn. 11Bob tro y byddai'r Lefiaid yn dod â'r gist at swyddogion y brenin, a hwythau'n gweld fod ynddi swm mawr o arian, byddai ysgrifennydd y brenin a swyddog yr archoffeiriad yn dod ac yn gwagio'r gist, ac yna'n mynd â hi'n ôl i'w lle. Gwnaent hyn yn gyson, a chasglu llawer o arian. 12Rhoddai'r brenin a Jehoiada yr arian i'r rhai a benodwyd i ofalu am y gwaith yn nhŷ'r ARGLWYDD; yr oeddent hwythau yn cyflogi seiri maen a seiri coed i adnewyddu tŷ'r ARGLWYDD, a gweithwyr mewn haearn a phres i'w atgyweirio. 13Yr oedd y rhai a benodwyd yn gweithio'n ddyfal, a bu'r atgyweirio'n llwyddiant dan eu gofal; gwnaethant dŷ Dduw yn gadarn, a'i adfer i'w gyflwr gwreiddiol. 14Wedi iddynt orffen, daethant â gweddill yr arian i'r brenin ac i Jehoiada, ac fe'i defnyddiwyd i wneud llestri i dŷ'r ARGLWYDD, sef llestri ar gyfer y gwasanaeth a'r poethoffrymau, llwyau a llestri aur ac arian. Buont yn offrymu poethoffrymau yn barhaus yn nhŷ'r ARGLWYDD holl ddyddiau Jehoiada.
15Aeth Jehoiada'n hen, a bu farw mewn oedran teg. Yr oedd yn gant tri deg pan fu farw, 16a chafodd ei gladdu gyda'r brenhinoedd yn Ninas Dafydd, am iddo wneud daioni yn Israel a gwasanaethu Duw a'i dŷ.
Newid Polisïau Jehoiada
17Wedi marw Jehoiada, daeth tywysogion Jwda i dalu gwrogaeth i'r brenin, a gwrandawodd yntau arnynt. 18Yna troesant eu cefn ar dŷ'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a gwasanaethu'r pyst Asera a'r delwau. Daeth llid Duw ar Jwda a Jerwsalem am iddynt droseddu fel hyn. 19Ac er i'r ARGLWYDD anfon proffwydi atynt i'w harwain yn ôl ato ac i'w hargyhoeddi, ni wrandawsant arnynt.
20Yna daeth ysbryd Duw ar Sechareia fab Jehoiada yr offeiriad, ac fe safodd gerbron y bobl a dweud, “Fel hyn y dywed Duw: ‘Pam yr ydych yn torri gorchmynion yr ARGLWYDD? Ni fyddwch yn ffynnu. Am i chwi droi cefn ar yr ARGLWYDD, y mae yntau wedi troi ei gefn arnoch chwi.’ ” 21Ond gwnaethant gynllwyn yn ei erbyn, ac ar orchymyn y brenin fe'i llabyddiwyd yng nghyntedd tŷ'r ARGLWYDD. 22Anghofiodd y Brenin Jehoas am y caredigrwydd a gafodd gan Jehoiada tad Sechareia, a lladdodd ei fab. Fel yr oedd Sechareia'n marw, dywedodd, “Bydded i'r ARGLWYDD weld, a'th alw i gyfrif.”
Diwedd Teyrnasiad Jehoas
23Ar ddiwedd y flwyddyn daeth byddin Syria i ryfela yn erbyn Jehoas. Daethant i Jwda a Jerwsalem, a lladd pob un o dywysogion y bobl, ac anfon eu hysbail i gyd i frenin Damascus. 24Er i'r Syriaid ddod gyda byddin fechan, rhoddodd yr ARGLWYDD lu mawr iawn yn eu dwylo, am i'r bobl droi eu cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. Felly daethant â barn ar Jehoas.
25Ar ôl i'r Syriaid fynd ymaith, a'i adael wedi ei glwyfo'n ddrwg, cynllwyniodd ei weision ei hun yn ei erbyn i ddial am farwolaeth mab#24:25 Felly Fersiynau. Hebraeg, meibion. Jehoiada yr offeiriad, a lladdasant Jehoas ar ei wely. Felly bu farw, ac fe'i claddwyd yn Ninas Dafydd, ond nid ym meddau'r brenhinoedd. 26Y rhai a gynllwyniodd yn ei erbyn oedd Sabad fab Simeath yr Ammones, a Jehosabad fab Simrith y Foabes. 27Y mae hanes ei feibion, y llu oraclau a draddodwyd yn ei erbyn, a hanes ei waith yn atgyweirio tŷ Dduw, i gyd wedi eu hysgrifennu yn yr esboniad ar Lyfr y Brenhinoedd. Daeth ei fab Amaseia yn frenin yn ei le.

Currently Selected:

2 Cronicl 24: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in