YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 16

16
Helynt rhwng Israel a Jwda
1 Bren. 15:17–22
1Yn yr unfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o deyrnasiad Asa, daeth Baasa brenin Israel yn erbyn Jwda ac adeiladu Rama, rhag gadael i neb fynd a dod at Asa brenin Jwda. 2Cymerodd Asa arian ac aur allan o drysorfeydd tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin, a'u hanfon i Ben-hadad brenin Syria, a oedd yn byw yn Namascus; a dywedodd wrtho, 3“Bydded cyfamod rhyngof fi a thi, fel yr oedd rhwng fy nhad a'th dad. Rwy'n anfon atat arian ac aur; tor dy gyfamod gyda Baasa brenin Israel er mwyn iddo gilio'n ôl oddi wrthyf.” 4Gwrandawodd Ben-hadad ar y Brenin Asa, ac anfon swyddogion ei gatrodau yn erbyn trefi Israel, i ymosod ar Ijon, Dan ac Abel-maim, ac ar holl ddinasoedd stôr Nafftali. 5Pan glywodd Baasa, rhoddodd heibio adeiladu Rama a gadawodd y gwaith. 6Yna daeth y Brenin Asa â holl Jwda i gymryd y meini a'r coed oedd gan Baasa yn adeiladu Rama, a'u defnyddio i adeiladu Geba a Mispa.
Y Proffwyd Hanani
7Y pryd hwnnw daeth Hanani y gweledydd at Asa brenin Jwda, a dweud wrtho, “Am i ti ymddiried ym mrenin Syria, a gwrthod ymddiried yn yr ARGLWYDD dy Dduw, dihangodd byddin brenin Syria o'th afael. 8Onid oedd yr Ethiopiaid a'r Libyaid yn llu aneirif a chanddynt lawer iawn o gerbydau a marchogion? Ond am i ti ymddiried yn yr ARGLWYDD, rhoddodd ef hwy yn dy law. 9Oherwydd y mae llygaid yr ARGLWYDD yn tramwyo dros yr holl ddaear, i ddangos ei gryfder i'r sawl sy'n gwbl ymroddedig iddo. Buost yn ynfyd yn hyn o beth; felly, o hyn allan ymladd fydd dy ran.” 10Gwylltiodd Asa wrth y gweledydd a'i roi yn y carchar, oherwydd yr oedd yn ddig wrtho am ddweud hyn. A'r pryd hwnnw fe orthrymodd Asa rai o'r bobl.
Diwedd Teyrnasiad Asa
1 Bren. 15:23–24
11Y mae hanes Asa, o'r dechrau i'r diwedd, wedi ei ysgrifennu yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel. 12Yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain o'i deyrnasiad dechreuodd Asa ddioddef yn enbyd o glefyd yn ei draed; ond yn ei waeledd fe geisiodd y meddygon yn hytrach na'r ARGLWYDD. 13Bu Asa farw; yn yr unfed flwyddyn a deugain o'i deyrnasiad y bu farw. 14Claddwyd ef yn y bedd a wnaeth iddo'i hun yn Ninas Dafydd, a'i roi i orwedd ar wely yn llawn peraroglau a phob math o ennaint wedi eu cymysgu'n ofalus gan y peraroglydd; a gwnaethant dân mawr iawn i'w anrhydeddu.

Currently Selected:

2 Cronicl 16: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in