1 Thesaloniaid 2
2
Gweinidogaeth Paul yn Thesalonica
1Fe wyddoch eich hunain, gyfeillion, na fu ein dyfodiad atoch yn ofer. 2Yr oeddem eisoes wedi dioddef ac wedi cael ein sarhau, fel y gwyddoch, yn Philipi, ond buom yn hy trwy nerth ein Duw i draethu i chwi Efengyl Duw, er mor galed oedd y frwydr. 3Oherwydd nid yw ein hapêl ni yn codi o gyfeiliornad, na chwaith o amhurdeb, ac nid oes ynddi dwyll; 4yn hytrach, fel y cawsom ein profi'n gymeradwy gan Dduw i gael ymddiried yr Efengyl inni, yr ydym yn llefaru fel rhai sy'n boddhau, nid meidrolion ond Duw, yr hwn sy'n profi ein calonnau. 5Oherwydd, fel y gwyddoch, ni buom un amser yn arfer geiriau gweniaith, na chwaith ffalster i gelu trachwant—fel y mae Duw'n dyst. 6Ac nid oeddem yn ceisio gogoniant gan bobl, gennych chwi na neb arall, er y gallasem, fel apostolion Crist, fod yn ddynion o bwys. 7Ond buom yn addfwyn yn eich plith, fel#2:7 Yn ôl darlleniad arall, buom yn fabanod yn eich plith, fel. mamaeth yn meithrin ei phlant ei hun. 8Felly,#2:8 Neu, neb arall; er y gallasem, fel apostolion Crist, fod yn ddynion o bwys, 7 buom yn addfwyn yn eich plith. Fel mamaeth yn meithrin ei phlant ei hun, 8 felly. yn ein hoffter ohonoch, yr oedd yn dda gennym gyfrannu i chwi, nid yn unig Efengyl Duw, ond nyni ein hunain hefyd, gan i chwi ddod yn annwyl gennym. 9Oherwydd yr ydych yn cofio, gyfeillion, am ein llafur a'n lludded; yr oeddem yn gweithio nos a dydd, rhag bod yn faich ar neb ohonoch, wrth bregethu Efengyl Duw i chwi. 10Yr ydych chwi'n dystion, a Duw yn dyst hefyd, mor sanctaidd a chyfiawn a di-fai y bu ein hymddygiad tuag atoch chwi sy'n credu. 11A'r un modd, fe wyddoch inni fod i bob un ohonoch fel tad i'w blant, 12gan apelio atoch, trwy eich annog a'ch rhybuddio i fyw yn deilwng o'r Duw sydd yn eich galw i'w deyrnas a'i ogoniant ei hun.
13Yr ydym ni'n diolch i Dduw yn ddi-baid ar gyfrif hyn hefyd: eich bod chwi, wrth dderbyn gair Duw fel y clywsoch ef gennym ni, wedi ei groesawu, nid fel gair dynol ond fel yr hyn ydyw mewn gwirionedd, sef gair Duw, sydd hefyd ar waith ynoch chwi sy'n gredinwyr. 14Oherwydd daethoch chwi, gyfeillion, i efelychu eglwysi Duw yng Nghrist Iesu sydd yn Jwdea, oherwydd yr ydych chwi wedi dioddef yr un pethau yn union oddi ar law eich cydwladwyr ag y maent hwythau oddi ar law yr Iddewon, 15y rhai a laddodd yr Arglwydd Iesu, a hefyd y proffwydi, ac a'n herlidiodd ni. Nid ydynt yn boddhau Duw, ac y maent yn elyniaethus i bawb, 16gan eu bod yn ein rhwystro ni rhag llefaru i'r Cenhedloedd er mwyn iddynt gael eu hachub. Felly y maent bob amser yn cyflenwi mesur eu pechodau. Ond y mae'r digofaint wedi dod arnynt o'r diwedd.#2:16 Neu, arnynt yn derfynol. Neu, arnynt am byth.
Awydd Paul i Ymweld eto â'r Eglwys
17Pan oeddem ni, gyfeillion, wedi ein gwneud yn amddifad, o'ch colli chwi dros ychydig amser, o ran golwg ond nid o ran y galon, aethom yn fwy eiddgar, ac yn angerddol ein dymuniad am eich gweld. 18Oherwydd buom yn awyddus i ddod atoch—myfi, Paul, dro ar ôl tro—ond rhwystrodd Satan ni. 19Canys pwy yw ein gobaith a'n llawenydd, a'r goron yr ymffrostiwn ynddi gerbron ein Harglwydd Iesu ar ei ddyfodiad, pwy ond chwi eich hunain? 20Ie, chwi yw ein gogoniant a'n llawenydd.
Currently Selected:
1 Thesaloniaid 2: BCND
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004