YouVersion Logo
Search Icon

1 Samuel 21

21
Dafydd yn Ffoi rhag Saul
1Aeth Dafydd i Nob at yr offeiriad Ahimelech. Daeth yntau i'w gyfarfod dan grynu, a gofyn iddo, “Pam yr wyt ti ar dy ben dy hun, heb neb gyda thi?” 2Ac meddai Dafydd wrth yr offeiriad Ahimelech, “Y brenin sydd wedi rhoi gorchymyn imi, a dweud wrthyf, ‘Nid yw neb i wybod dim pam yr anfonais di, na beth a orchmynnais iti.’ Ac yr wyf wedi rhoi cyfarwyddyd i'r milwyr ifainc i'm cyfarfod yn y fan a'r fan. 3Yn awr, beth sydd gennyt wrth law? Gad imi gael pum torth, neu'r hyn sydd gennyt.” 4Atebodd yr offeiriad, “Nid oes gennyf ddim bara cyffredin wrth law; ond y mae yma fara cysegredig—os yw'r milwyr wedi ymgadw'n llwyr oddi wrth wragedd.” 5Atebodd Dafydd, “Yn wir y mae'n hen arfer gennym ymgadw oddi wrth wragedd pan fyddaf yn cychwyn ar ymgyrch, fel bod arfau'r milwyr yn gysegredig; ac os yw felly ar siwrnai gyffredin, pa faint mwy y bydd yr arfau'n gysegredig heddiw?” 6Yna fe roddodd yr offeiriad iddo'r bara cysegredig, gan nad oedd yno ddim ond y bara gosod oedd wedi ei symud o bresenoldeb yr ARGLWYDD, er mwyn gosod bara ffres ar ddiwrnod y cyfnewid. 7Ar y pryd, yr oedd un o weision Saul yno dan adduned gerbron yr ARGLWYDD; ei enw oedd Doeg yr Edomiad, ac ef oedd penbugail Saul. 8Gofynnodd Dafydd i Ahimelech, “Onid oes yma waywffon neu gleddyf wrth law gennyt? Oherwydd ni ddeuthum â'm cleddyf na'm harfau gyda mi, am fod cymaint brys gyda gorchymyn y brenin.” 9Atebodd yr offeiriad, “Beth am gleddyf Goliath y Philistiad, y dyn a leddaist yn nyffryn Ela? Y mae hwnnw yma wedi ei lapio mewn brethyn y tu ôl i'r effod. Os wyt ti am hwnnw, cymer ef, oherwydd nid oes yma yr un arall ond hwnnw.” 10Ac meddai Dafydd, “Nid oes debyg iddo; rho ef imi.” Y diwrnod hwnnw ymadawodd Dafydd, ac er mwyn ffoi oddi wrth Saul, aeth at Achis brenin Gath. 11Gofynnodd gweision Achis iddo, “Onid hwn yw Dafydd, brenin y wlad? Onid am hwn y maent yn canu wrth ddawnsio,
“ ‘Lladdodd Saul ei filoedd,
a Dafydd ei fyrddiynau’?”
12Cymerodd Dafydd y geiriau hyn at ei galon, ac ofnodd rhag Achis brenin Gath. 13Newidiodd ei ymddygiad o'u blaen, a dechrau ymddwyn fel ynfytyn yn eu mysg, a chripio drysau'r porth, a glafoerio hyd ei farf. 14Ac meddai Achis wrth ei weision, “Gallwch weld bod y dyn yn wallgof; pam y daethoch ag ef ataf fi? 15A wyf yn brin o ynfydion, fel eich bod yn dod â hwn o'm blaen i ynfydu? A ddaw hwn i'm tŷ?”

Currently Selected:

1 Samuel 21: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in