YouVersion Logo
Search Icon

1 Corinthiaid 3

3
Cydweithwyr dros Dduw
1Minnau, gyfeillion, ni ellais lefaru wrthych fel wrth rai ysbrydol, ond fel wrth rai cnawdol, fel babanod yng Nghrist. 2Llaeth a roddais i chwi'n ymborth, ac nid bwyd solet, oherwydd nid oeddech eto'n barod. Ac nid ydych yn barod yn awr chwaith, 3oherwydd cnawdol ydych o hyd. Oherwydd, tra bo cenfigen a chynnen yn eich plith, onid cnawdol ydych, ac yn ymddwyn yn ôl safonau dynol? 4Pan yw un yn dweud, “Yr wyf fi'n perthyn i blaid Paul”, ac un arall, “Minnau, i blaid Apolos”, onid dynol ydych? 5Beth ynteu yw Apolos? Neu beth yw Paul? Dim ond gweision y daethoch chwi i gredu drwyddynt, a phob un yn cyflawni'r gorchwyl a gafodd gan yr Arglwydd. 6Myfi a blannodd, Apolos a ddyfrhaodd, ond Duw oedd yn rhoi'r tyfiant. 7Felly, nid yw'r sawl sy'n plannu yn ddim, na'r sawl sy'n dyfrhau, ond Duw, rhoddwr y tyfiant. 8Yr un sy'n plannu a'r un sy'n dyfrhau, un ydynt, ac fe dderbyn y naill a'r llall ei dâl ei hun, yn ôl ei lafur ei hun. 9Canys eiddo Duw ydym ni, fel cydweithwyr; gardd Duw, adeiladwaith Duw, ydych chwi.
10Yn ôl y gorchwyl a roddodd Duw i mi o'i ras, mi osodais sylfaen, fel prifadeiladydd celfydd, ac y mae rhywun arall yn adeiladu arni. Gwylied pob un pa fodd y mae'n adeiladu arni. 11Ni all neb osod sylfaen arall yn lle'r un sydd wedi ei gosod, ac Iesu Grist yw honno. 12Os bydd i neb adeiladu ar y sylfaen ag aur, arian, a meini gwerthfawr, neu â choed, gwair, a gwellt, 13daw gwaith pob un i'r amlwg, oherwydd y Dydd a'i dengys. Canys â thân y datguddir y Dydd hwnnw, a bydd y tân yn profi ansawdd gwaith pob un. 14Os bydd y gwaith a adeiladodd rhywun ar y sylfaen yn aros, caiff dâl. 15Os llosgir gwaith rhywun, caiff ddwyn y golled, ond fe achubir yr adeiladydd ei hun, ond dim ond megis trwy dân. 16Oni wyddoch mai teml Duw ydych, a bod Ysbryd Duw yn trigo ynoch? 17Os bydd rhywun yn dinistrio teml Duw, bydd Duw'n ei ddinistrio yntau, oherwydd y mae teml Duw yn sanctaidd, a chwi yw'r deml honno.
18Peidied neb â'i dwyllo'i hunan; os oes rhywun yn eich plith yn tybio ei fod yn ddoeth yn ôl safonau'r oes hon, bydded ffôl, er mwyn dod yn ddoeth. 19Oherwydd y mae doethineb y byd hwn yn ffolineb yng ngolwg Duw. Y mae'n ysgrifenedig:
“Y mae ef yn dal y doethion yn eu cyfrwystra”,
20ac eto:
“Y mae'r Arglwydd yn gwybod meddyliau'r doethion,
mai ofer ydynt.”
21Felly peidied neb ag ymffrostio mewn arweinwyr dynol. Oherwydd y mae pob peth yn eiddo i chwi— 22Paul, Apolos, Ceffas, y byd, bywyd, angau, y presennol, y dyfodol—pob peth yn eiddo i chwi, 23a chwithau yn eiddo Crist, a Christ yn eiddo Duw.

Currently Selected:

1 Corinthiaid 3: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in