YouVersion Logo
Search Icon

1 Cronicl 13

13
Symud Arch y Cyfamod o Ciriath-Jearim
2 Sam. 6:1–11
1Wedi iddo ymgynghori â chapteiniaid y miloedd a'r cannoedd, ac â'r holl swyddogion, 2dywedodd Dafydd wrth holl gynulleidfa Israel, “Os ydych yn cytuno, ac os dyma ewyllys yr ARGLWYDD ein Duw, gadewch inni anfon gair at ein perthnasau sydd ar ôl yn holl wlad Israel, a hefyd at yr offeiriaid a'r Lefiaid sydd mewn dinasoedd gyda chytir, yn gofyn iddynt ymuno â ni. 3Yna down ag arch ein Duw yn ôl atom, oherwydd yn nyddiau Saul yr oeddem yn ei hesgeuluso.” 4Cytunodd yr holl gynulleidfa i wneud felly am fod y peth yn dderbyniol gan bawb.
5Felly casglodd Dafydd Israel gyfan o Sihor yn yr Aifft hyd at Lebo-hamath, i ddod ag arch Duw o Ciriath-jearim. 6Ac aeth Dafydd a holl Israel i Baala yn Jwda, sef Ciriath-jearim, i gyrchu oddi yno arch Duw, a enwir ar ôl yr ARGLWYDD sydd â'i orsedd ar y cerwbiaid. 7Daethant ag arch Duw ar fen newydd o dŷ Abinadab, ac Ussa ac Ahïo oedd yn tywys y fen. 8Yr oedd Dafydd a holl Israel yn gorfoleddu o flaen Duw â'u holl ynni, dan ganu gyda thelynau, nablau, tympanau, symbalau a thrwmpedau. 9Pan ddaethant at lawr dyrnu Cidon, estynnodd Ussa ei law i afael yn yr arch am fod yr ychen yn ei hysgwyd. 10Enynnodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn Ussa, ac fe'i trawodd am iddo estyn ei law at yr arch; a bu farw yno gerbron Duw. 11Cynhyrfodd Dafydd am fod llid yr ARGLWYDD wedi torri allan yn erbyn Ussa, a galwodd y lle hwnnw yn Peres#13:11 Sef, Toriad. Ussa; a dyna'i enw hyd y dydd hwn. 12Yr oedd ofn Duw ar Ddafydd y diwrnod hwnnw a dywedodd, “Sut y dof ag arch Duw i mewn ataf?” 13Felly ni ddaeth Dafydd â'r arch i Ddinas Dafydd, ond fe'i rhoddodd yn nhŷ Obed-edom o Gath. 14Bu arch Duw yn nhŷ Obed-edom a'i deulu am dri mis. A bendithiodd yr ARGLWYDD dŷ Obed-edom a'i holl eiddo.

Currently Selected:

1 Cronicl 13: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for 1 Cronicl 13