Mathew 22
22
1-46Sharadodd Iesu gida nhwy 'to miwn damegion: “Mae Teyrnas Nefoddd in debyg i frenin sy'n trefnu gwledd briodas i’w grwt e. Mae e'n hala i geithion i alw bob un sy wedi câl gair i ddwâd i'r wledd, ond wenyn nhwy moyn dwâd. Shwrne 'to, halodd e geithion, a gweud, ‘Gwedwch wrth i rhei sy wedi câl gair i ddod, Drichwch, dwi wedi paratoi in wledd, ma'r ichen a'r anfeilied tew wedi câl u lladd, a ma popeth in barod. Dewch i'r wledd briodas.’ Ond gwrmon-nhwy ddim silw a mynd bant, un i’w barc, a'r llall i’w fusnes. Cwrmo'r rest afel in i geithion, neud sbort ar u penne a'u lladd nhwy. We'r brenin in grac; halodd e i ami, dinistro'r rhei we wedi lladd, a llosgi u dinas nhwy. Wedyn wedodd e wrth i geithion, ‘Ma'r wledd briodas in barod, ond weno'r rhei gâth air i ddwâd ddim in haeddu 'ny. Cerwch wedyn 'te at iete'r ddinas a gwedwch wrth i rhei chi'n gweld fan'ny i ddwâd i'r wledd.’ Âth i ceithion mas i'r hewlydd, a dwâd miwn â bob un nethon nhw feindo, in ddrwg a da; a we'r lle lle wen nhwy'n cinnal i wledd briodas in llond pobol we wedi câl u gofyn. Dâth i brenin miwn i ddrich ar i rhei we wedi câl u gofyn, a welodd e fan'ny un dyn we ddim in gwishgo dillad sbeshal er mwyn mynd i wledd briodas. Gwedodd e wrtho, ‘Gifell, shwt ddes ti miwn fan’yn heb ddillad priodas?’ Ond wedd e'n dawel. Gwedo'r brenin wrth i gweishon, ‘Clwmwch e lan wrth i law a'i gôs a towlwch e mâs i'r tewillwch tu fas.’ Fan'ny bydd wben a crenshan dane; achos ma lot in câl i galw, ond dimond rhei in câl u dewis.”
Wedyn âth i Ffariseied a sharad 'da i gily shwt allen nhwy ddala fe mas wrth ddadle. Halon nhwy i disgiblion ato fe gyda'r Hordied, a gweon nhwy, “Athro, ŷn ni'n gwbod di fod di'n wir, a di fod di'n disgu ffordd Duw miwn gwirionedd, a bo ti ddim yn crafu i neb, achos seno ti'n drich ar i shwt ma dyn in drich tu fas. Gwêd wrthon ni, wedyn 'te; beth wit ti'n meddwl? Ody ddi'n iawn i dalu treth i Cesar neu beido?” Ond we Iesu'n diall u drwg nhwy a gwedodd e, “Rhagrithwyr, pam ŷch chi'n treial in brofi i? Dangoswch bishyn arian i fi.” Dethon nhwy â denarius ato fe, a gwedodd e wrthyn nhwy, “Pwy yw hwn mae'i lun e a'i enw fe ar ir arian?” Gwedon nhwy, “Caesar.” Wedyn wedodd e wrthyn nhwy, “So talwch i Cesar beth sy fod i Cesar, a talwch i Dduw beth sy fod i Dduw.” Pan gliwon nhwy hyn wen nhwy wedi sinnu, a fe ethon nhwy a'i adel e a mynd bant.
I dwarnod 'ny dâth i Sadwceied, rhei sy'n gweud sdim atgifodiad i gâl, ato fe a'i holi e, a gweud, “Athro, gwedo Moses, ‘Os ma dyn in marw heb blant, wedyn bydd i farwd in priodi i weddw, a'n codi plant i'r brawd.’ Nawr we saith brawd i gâl. Priodo'r cinta, a mawr; a, achos bo dim plant 'dag e, gadodd e i wraig i’w frawd. Digwyddodd 'run peth 'da'r ail a'r tridydd, a 'da bob un o'r saith. In i diwedd marwo'r fenyw. So, amser ir atgifodiad, o'r saith gwraig pwy fydd i? Achos buodd i'n briod 'da nhwy i gyd.” Atebo Iesu, “Ŷch chi'n neud mistêc mowr, achos senoch chi'n gwbod ir Isgruthure na nerth Duw. Achos in ir atgifodiad bydd dinion ddim in priodi na'n câl u rhoi i briodi, ond biddan nhwy fel ir angilion in i nefoedd. Ond am atgifodiad i rhei sy wedi marw, senoch chi wedi darllen beth wedodd Duw wrthoch chi, ‘Fi yw Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob’? Ddim Duw i rhei marw yw e, ond Duw i rhei byw.” Pan gliwo'r crowde hyn wen nhwy'n sinnu at beth wedd e'n i ddisgu.
Pan gliwo'r Ffariseied i fod e wedi cau penee'r Sadwceied, dethon nhwy at i gily. Tima un onyn nhwy, un we'n disgu'r Gifreth, in treial i brofi e wrth ofyn i cwestjwn 'ma: “Athro, pa un yw'r gorchimyn pwysica i gyd in i Gifreth?” Gwedodd e wrtho, “'Rhaid iti garu'r Mishtir di Dduw 'da di galon i gyd, 'da di ened i gyd, a 'da di feddwl i gyd.’ Co'r gorchimyn cinta a pwysica. Ma'r ail in debyg iddo: ‘Rhaid iti garu di gwmwdog fel ti di unan.’ Ma'r Gifreth i gyd a'r Proffwydi in dibynnu ar i ddou orchimyn 'ma.”
Pan we'r Ffariseied wedi dod at i gily gofinno Iesu iddyn nhwy, “Beth ŷch chi'n meddwl am i Meseia? Crwt pwy yw e?” Gwedon nhwy wrtho fe, “Crwt Dafydd.” Gwedodd e wrthyn nhwy, “Shwt wedyn 'te bo Dafydd, a'r Isbryd in i arwen e, in i alw e'n ‘Mishtir’, a'n gweud,
‘Gwedo'r Mishtir wrth in Fishtir i, Ishte ar in llaw dde
nes bo fi wedi rhoi i rhei sy'n di erbyn di o dan di drâd di’?
Os yw Dafydd in i alw e'n ‘Mishtir’, shwt mae e'n grwt iddo?” Weno neb in galler ateb gair iddo fe, a nâth ddim un fentro holi cwestjwn arall iddo fe wedyn 'ny.
Currently Selected:
Mathew 22: DAFIS
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies