YouVersion Logo
Search Icon

Doethineb 7

7
PEN. VII.
Y rhagor rhwng doethineb a phethau eraill.
1Dyn marwôl ydwyf finne, vn fodd a phawb [eraill,] ar yn dyfod o hiliogaeth yr hwn a luniwyd gyntaf o’r ddaiar.
2Ac yng-hroth fy mam mi a luniwyd yn gnawd o fewn amser deng-mis, #Iob 10.10,11.gan geulo o hâd gŵr mewn gwaed, ac o drythyllwch yn dyfod yng-hŷd â chwsc.
3A phan i’m ganwyd mi a dynnais attaf yr awyr cyffredin i ni [oll,] ac a syrthiais ar yr vn naturiaeth ddaiar, yn wylofain y rhoddais i y llais cyntaf fel pawb [eraill.]
4Mewn cawiau, a thrwy ofal i’m magwyd.
5Ni chafodd vn brenin amgen ddechreuad iw enedigaeth.
6 # Iob 1.21.|JOB 1:21. 2.Tim.6.7.(sic.) Vn fath ddyfodiad i fywyd sydd i bawb ac vn fath fynediad allan.
7Am hynny mi a ddymunais, ac fe a roddwyd i mi ddeall, mi a waeddais ac fe a ddaeth yspryd doethineb i mi.
8Mi ai cyfrifais hi yn well na theyrn-wielyn, ac na gorseddfeudd: ac ni chyfrifais i ddim golud yn gystal â hi.
9 # Iob 28.15. Ni chyffelybais i feini gwerthfawr iddi hi. Canys graienyn bychan yw pob aur yn ei golwg hi, ac fel clai y cyfrifir arian oi blaen hi.
10Hoffais hi yn fwy nag iechyd, ac na thegwch: ac mi a arfaethais ei chael hi yn lle goleuni, oblegit ni fachluda y llewyrch [a ddaw] o honi hi.
11 # 1.Bren 3.13.|1KI 3:13. Matth.6.33. Pob daioni a ddaeth i mi gyd ag y hi, a golud anifeiriol trwy ei dwylo hi.
12Mi a lawenychais am bob vn, am fod doethineb yn eu blaenori hwynt, ond ni ŵyddwn i mai hi oedd eu mam hwynt.
13Yn ddidwyll y dyscais ac yn ddigenfigen yr ydwyf yn treuthu, heb gelu ei golud hi.
14Diball dryssor yw hi yr hwn pwy bynnac ai harfero y maent hwy yn ymgyfeillach â Duw, gan fod yn ganmoladwy trwy y dōniau y rhai [a geir] trwy addysc.
15Duw a roddes i mi ddywedyd yn ôl fy meddwl, a meddwl yn addas am y pethau a roddwyd, oblegit efe yw pbo vn o’r ddau, awdur doethineb, a chyfarwyddwr y doethion.
16Yr ydym ni a’n geiriau yn ei law ef, felly y mae pob synnwyr a gwybodaeth gwaith.
17Canys efe a roddes i mi wir ŵybodaeth am y pethau a ydynt: i wybod cyfansoddiad y byd a gwneuthuriad yr elementau.
18[Felly] dechreu, diwedd, a chanol yr am­serau.
19Newid arfer, a chyfnewid amser, amgyl­chiad y flwyddyn, a gosodiad y sêr.
20Naturiaethau anifeiliaid, llid bwystfilod, nerth gwyntoedd, rhagoriaeth planhigion a rhinweddau gwraidd.
21Beth bynnac sydd nac yn ddirgel, nac yn amlwg, mi ai gwn: o blegit doethineb yr hon a wnaeth y cwbl a m dyscodd i.
22O herwydd y mae ynddi hi yspryt deha­llgar, sanctaidd, vnrhyw, aml, teneu, cyfflym, dislcaer, dihalogedic, eglur, annioddefadwy, yn hoffi daioni, yn llym, yn barod, yn dda ei weithredoedd.
23Yn caru dŷn, yn ddianwadal, yn siccr, yn ddiofal, yn holl-alluoc, yn edrych am bob peth, ac­yn myned trwy bob yspryt dehallgar, pur, teneu.
24Bywioccath yw doethineb nâ dim bywioc, hi a aiff, ac a dreiddia trwy bob peth o herwydd ei phuredd.
25Canys angerdd gallu Duw yw hi, a phur ddiferiad oddi wrth ogoniant yr Holl-a­lluoc: am hynny ni syrth dim halogedic arni hi.
26Canys #Heb.1.3.disclaerdeb goleuni tragywyddôl yw hi, a difrycheulyd ddrŷch gweithrediad Duw, a delw ei ddaioni ef.
27Er nad yw hi ond vn, hi a ddichon bob dim, ac yn aros ynddi ei hyn y mae hi yn adnewyddu pob dim, a thrwy ddescin trwy ’r oesoedd ar yr eneidiau sanctaidd y mae hi yn darpâr caredigion, a phrophwydi i Dduw.
28Nid hoff gan Dduw ddim, ond yr hwn a gyfanneddo gyd â doethineb.
29O blegit y mae hi yn degach na’r haul, ac yn vwch na gosodiad y sêr, os cystedlir hi âr goleuni, goref y ceir hi.
30Canys y nôs a ddaw arno ef, ond ni orchfyga y drygioni mo ddoethineb.

Currently Selected:

Doethineb 7: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in