YouVersion Logo
Search Icon

Doethineb 5

5
PEN. V.
1 Dioddefgarwch y rhai ffyddlon. 14 Ofered gobaith yr anffyddlon, 15 Dedwyddwch y duwiol.
1Yna y saif y cyfiawn mewn hyder mawr o flaen ei orthrym-wŷr, a’r rhai a ddygâsant ei lafur ef.
2Pan welant, hwy a gythryblir ag ofn aruthr, a synn fydd ganddynt ei iechydwriaeth ryfedd ef, ac hwy a ddywedant ynddynt eu hun yn edifeiriol,
3Ie gan gyfyngder meddwl yr ocheneidiant ac y dywedant, dymma yr hwn yr oeddym ni gynt yn ei watwar, ac yn ei ddyfalu yn wradwyddus.
4 # Pen.3.21.(sic.) Nyni ffyliaid a feddyliasom fod ei fuchedd ef yn ynfydrwydd, ai ddiweddd yn amharchus.
5Pa fodd y cyfrifwyd ef ym mhlith meibion Duw, ac y mae ei ran ef ym mysc y sainct?
6Nyni gan hynny a gyfeiliornasom o ffordd y gwirionedd, ac ni thywynnodd lewyrch cyfiawnder arnom ni, ac ni chododd haul cyfiawnder arnom ni.
7Nyni a lanwyd o ffyrdd anwiredd a destruw, ac a rodiasom trwy anialwch anhyffordd eithr nid adnabuom ni ffordd yr Arglwydd.
8Pa fudd sydd i ni o falchder: a pha lês a wnaeth golud a ffrôst i ni:
9Y pethau hynny oll #1.Cron.29.15. Pen.2.5.a aethant ymmaith fel cyscod, ac fel cennad yn rhedeg.
10Fel llong yn myned trwy ’r dwfr tonnoc, yr hon ni ellir caffael ei hôl wedi iddi fyned heibio, na’r llwybr yr aech hi trwy ’r tonnau:
11Neu megis ni cheir arwydd mynediad #Dihar.30.19.yr aderyn a ehedo trwy ’r awŷr, eithr dyrnod yr escill ar y gwynt teneu yr hwn a gurir ac a rennir trwy nerth egniol gan guro yr adenydd a aiff trwodd:
12Neu fel pan saether saeth at nôd, yr awyr wedi ei rhannu a wascara iw lle, fel na ŵydder pa ffordd yr aeth hi.
13Felly ninnau, pan ein ganwyd a ddarfuom:
14Ac ni allasom ddangos dim arwydd rhinwedd dda, eithr yn ein drygioni y darfuom ni.
15O blegit #Iob 8.9.|JOB 8:9. Psal.1.4|PSA 1:4 & 143.4.|PSA 143:4. Dihar 10.25|PRO 1:4 & 11.7.|PRO 11:7. lam.1.10,11.fel llwch yr hwn a arwain y gwynt, ar fel ewyn teneu yr hwn a yrr y dem­hestl, ac fel y gwascerir mwg gan wynt, neu fel cof am ymdeithudd tros vn diwrnod, yr aiff gobaith yr annuwiol ymmaith.
16Eithr y mae y cyfiawn yn byw byth, ac yn yr Arglwydd y mae eu gwobr hwynt, a chan y Goruchaf y mae gofal am danynt hwy.
17Am hynny y cânt hwy ar law yr Arglwydd deyrnas hardd, a choron deg, oblegit efe ai gorchguddia hwynt ai ddeheu-law, ac ai hamddeffyn hwynt ai fraich.
18Efe a gymmer ei eiddigedd yn lle pob arfogaeth, ac a arfoga y creaduriaid i ddial ar y gelynnion.
19Efe a wisc gyfiawnder yn ddwyfronnec, ac a wisc farnedigaeth ddiragrith yn lle helmet.
20Efe a gymmer sancteiddrwydd yn darian, yr hwn ni ellir ei orchfygu.
21Efe a hoga ei ddigter tost yn gleddyf, ar bŷd a ryfela gyd ag ef yn erbyn fyliaid.
22Byllt y mellt a ânt yn iniawn, ac a gyrchant at y nôd, megis o annelog fŵa y cwmylau.
23A chan ei ddigofaint ef (yr hwn sydd yn arfer o daflu meini) y bwrir cenllysc yn llawn: dwfr y môr a lidiant wrthynt hwy, a’r afonydd a lifant yn dost.
24Gwynt nerthol a saif yn eu herbyn hwynt, ac ai nithia hwynt fel tro-wynt: îe anwiredd a ddifwyna yr holl dir, a drygioni a ddini­stria eisteddfeudd y cedyrn.

Currently Selected:

Doethineb 5: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in