YouVersion Logo
Search Icon

Ecclesiasticus 9

9
PEN. IX.
Cyngor yn erbyn eiddigedd, ac anlladrwydd. 12 Ac am ddewis a chadw cyfeillion a chydymdeithion.
1Na ddal eiddigedd wrth wraig dy fonwes, ac na ddangos ynot dy hun ddrwg addysc.
2Na ddot dy hunan i wraig, i fyned o honi yn vwch nâ thi.
3Na ddos i gyfarfod â gwraig butteinic, rhag i ti vn amser syrthio yn eu maglau hi.
4Na fydd yn fynych gyd â chantores, rhag dy ddal di trwy ei chelfyddyd hi.
5 # Gen.6.1.|GEN 6:1 & 34.2. Na chraffa ar forwyn rhag dy dramgwyddo wrth ei cheryddon hi.
6Na ddôd dy feddwl ar butteiniaid, rhag colli honot dy etifeddiaeth.
7Nac edrych o amgylch mewn heolydd dinas, ac na wibia yn ei anghyfannedd leoedd hi.
8 # Dihar.5.2. Matth.5.28. Na thro dy olwg at wraig brŷdweddol, ac nac ystyr degwch arall.
9 # 2.Sam.11.2. Iudith. 10.17. Oblegit llawer trwy degwch gwraig a gyfeiliornasant: a thrwy hynny y cynneuodd cariad fel tân: am hynny na orwedd â hi yn [dy] freichiau.
10Na orwedd ddim gyd â gwraig a gŵr iddi.
11Na chŷd ildia â hi mewn gwin, rhag pwyso o’th feddwl atti hi, a llithro o honot yn dy yspryd i ddestruw.
12Na âd hên gyfaill: oblegit nid yw vn newydd gystadl ag ef.
13[Megis] gwîn newydd yw cyfaill newydd: os heneiddia efe ti ai hyfi yn llawen.
14 # Barn.9.3. 2.Sam.15.18. Na chenfigenna wrth ogoniant pechadur: o blegit ni wyddost ti pa ddinistr fydd iddo ef.
15Na fydded hoff gennit gael bodd y rhai annuwiol: cofia na chyfiawnheir hwynt nes [eu dyfod] i] vffern.
16Ymgadw ym mhell oddi wrth ddŷn ac awdurdod iddo i ladd, fel nad amheuech di ofn angeu.
17Ac os deui di atto [ef] na wna fai, rhag iddo yn ebrwydd ddwyn ymmaith dy enioes di.
18Gwybydd mai ym mysc maglau yr ydwyt ti yn trāmwy, ac [mai] ar binnaclau y ddinas yr ydwyt ti yn rhodio.
19Bwrw yr amcan goref y gallech am dy gymmydog, ac#Pen.6.36.ymgynghora a’r doethion#Deut.6.7.|DEU 6:7 & 11 17.bydded dy ymrysymmiad tri ar synhwyrol, a’th holl draethiad am gyfraith y Goruchaf.
20Bydded gwŷr cyfiawn yn cŷdfwyta â thi, a bydded dy lawenydd di yn ofn yr Arglwydd.
21Yn llaw rhai celfyddus y canmolir gwaith, a doeth dwysog pobl yn ei ymadrodd.
22Ofnadwy yn ei ddinas yw gŵr siaradus, a’r rhy bryssur yn ei ymadrodd a gaseuir.

Currently Selected:

Ecclesiasticus 9: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in