YouVersion Logo
Search Icon

Ecclesiasticus 6

6
PEN. VI.
Y modd y mae dewis cyfaill, 18 a dilyn addysc.
1Na fydd elyn yn lle cyfaill, canys enw drwg a gaiff warth a gwradwydd yn etifeddiaeth: felly y caiff y pechadur dau-dafodioc ammarch.
2Na ymdderchaf yng-hynghor dy enaid dy hun, rhag llarpio dy enaid fel tarw.
3[Os] bwyttei di dy ddail ti a golli dy ffrwyth, ac a’th ollyngi dy hun fel pren erin.
4Enaid drygionus sydd yn difetha ei ber­chennog, ac yn ei wneuthur ei hun yn watwar­gerdd iw elynnion.
5Cêg felus sydd yn amlhau ei chyfeillion, a thafod ymadroddus sydd yn amlhau ymadroddion têg.
6Bydded llawer yn heddychu i ti, eithr [bydded] dy gynghor-wŷr vn o fîl.
7Os meddienni gyfaill, meddianna ef mewn profedigaeth, ac nac ymddyriet ti dy hun iddo ef ar ffrwst.
8Canys y mae cyfaill tros ei amser ei hun, ac nid erys efe yn nydd dy drallod ti.
9Ac y mae cyfaill yr hwn a droir yn elyn, ac a ddadcuddio dy wradwyddus gynnen di.
10Ac y mae cyfaill yr hwn a fydd cyfrannog o’r bwrdd: #Pen.37.5.eithr yn nydd dy drallod ti nid erys efe.
11Ac yn dy fyd da di, efe a fydd fel tithe, ac efe a fydd hŷ ar dylwyth dy dŷ di.
12Os darostyngir di, efe a fydd i’th erbyn di: ac a ymguddia o’th ŵydd di.
13Ymado a’th elynnion, a gochel dy gyfeillion,
14Amddeffyn cadarn yw cyfaill ffyddlon a’r hwn sydd yn ei gael ef sydd yn cael tryssor.
15Nid oes cyfnewidwerth i gyfaill ffyddlon, ac nid oes a gŷd bwyso ei degwch ef.
16Eli enioes yw cyfaill ffyddlon: a’r rhai sy yn ofni yr Arglwydd ydynt yn ei gael ef.
17Yr hwn sydd yn ofni yr Arglwydd sydd yn cyfarwyddo ei gyfeilach yn iniawn, ac fel y byddo efe y bydd ei gymmydog.
18Hafab dewis addysc o’th ieuengtid, a thi a gei ddoethineb hyd henaint.
19Ymaros hefyd am ei ffrwythau daionus hi.
20O blegit ychydig boen a gymmeri di yn ei gwaith hi, a buan y bwytei di oi chnwd hi.
21Mor chwerw odiaeth yw hi i’r annyscedig: a’r digalonnog nid erys ynddi hi.
22Megis maen prawf cryf ydyw hi iddo ef, ac nid oeda efe ei bwrw hi ymmaith.
23O blegit y mae doethineb yn ôl ei henw, ac nid yw hi amlwg i lawer.
24Gwrando hafab, a dewis fy marn i, ac na wrthot fyng-hyngor i: bwrw dy draed iw llyffetheiriau hi, a’th wddf iw chadwyn hi.
25Gostwng dy yscwyddau a dwg hi, ac na fydd elyn iw rhwymau hi.
26Tyret atti hi â’th holl enaid, a chadw ei ffyrdd hi â’th holl allu.
27Olrhain, a chais, a thi a gei ei hadnabod hi, a phan gaffech di afel, na ollwng hi.
28O blegit o’r diwedd ti a ger ei gorphywystra hi a [hynny] a drŷ yn llawenydd i ti.
29Ai llyfetheiriau hi a fyddant i ti yn amddeffyn cadarn, ai chadwynau yn wîsc ogoneddus.
30O herwydd y mae arni hi wychter euraid, ai rhwymau ydynt snoden lâs.
31Fel gwisc ogoneddus y gwisci di hi, ac fel coron orfoleddus y gosodi di hi am danat.
32Os mynni [fy] mab ti a fyddi ddyscedig, ac os rhoddi dy feddwl, ti a fyddi gall.
33Os ceri di wrando, ti a dderbynt ddeall, ac os gostyngi di dy glust, ti a fyddi ddoeth.
34Saf ym mysc henuriaid, a’r neb [a fyddo] doeth glŷn wrtho ef: #Pen.8.9.myn glywed pob traethiad duwiol, ac na ddianged diharebion dehallus oddi gennit ti.
35Os gweli ŵr dehallgar cyfot yn foreu atto ef, a threulied dy droed ti rinniogau ei ddrws ef.
36Meddwl am orchymynnion yr Arglwydd yn berffaith, a #Psal.1.2.3.myfyria ar ei orchymynnion ef bob amser, efe a siccrhâ dy galon di, a dymuniad doethineb a roddir i ti.

Currently Selected:

Ecclesiasticus 6: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in