YouVersion Logo
Search Icon

Ecclesiasticus 47

47
PEN. XLVII.
Clôd Nathan, Dafydd, a Salomon.
1Wedi hyn y cyfododd y #2.Sam.12.10.prophwyt Nathan yn nyddiau Dafydd.
2Fel y neilltuir y brasder oddi wrth yr offrwm: felly [y nailltuwyd] Dafydd oddi wrth feibion Israel.
3 # 1.Sam.17.34. Ym mysc y llewod yr ymdeithiodd efe megis ym mysc mynnod: ac ym mysc yr eirth megis ym mysc ŵyn defaid.
4 # 1.Sam.17.49. Oni laddodd efe gawr yn ei ieuengtid: ac oni thynnodd efe ymmaith wradwydd y bobl:
5Pan gyfododd efe ei law a charreg dafl: a bwrw i lawr falchder Goliah:
6Canys efe a alwodd ar yr Arglwydd goruchaf, ac yntef a roddes nerth iw ddeheulaw ef i ladd y dŷn cryf yn y rhyfel, fel y derchafe efe gorn ei bobl.
7Felly [y bobl] ai #1.Sam.18.7.anrhydeddodd yntef â myrddiwn, ac ai canmolodd â chlôd fawr.
8Pan roddwyd iddo ef goron y gogoniant efe #2.Sam.5.7.a drylliodd y gelynnion o amgylch, ac a ddifethodd y Philystiaid y rhai a oeddynt wrth­wyneb-wyr [iddo] ac efe a ddrylliodd eu corn hwynt hyd onid yw efe felly etto.
9Yn ei holl waith y rhoddes efe glôdforedd i’r hwn sydd sanctaidd a goruchaf â geiriau anrhydeddus, ac âi holl galon y clodforodd,
10Ac y carodd efe yr hwn ai gwnaeth ef.
11Ac #2.Cron.16.4.efe a osododd gantorion o flaen yr allor, fel y cenio ei ganiadau ef yn felus ar dafod ac y clôdforent hwy [Dduw] bennydd âi caniadau.
12Efe a roddes drefn weddaidd am y gwiliau, ac a gymhwysodd yr amserau yn berffaith, fel y clôdforent hwy ei enw sanctaidd ef, ac y gwnaent iw gyssegr ef seinio yn foreu.
13 # 2.Sam.12.13. Yr Arglwydd a ddeleuodd ei bechodau ef, ac a dderchafodd ei gorn ef byth, ac a roddes iddo ef gyfammod y frenhiniaeth, a gorsedd­faingc gogoniant yn Israel.
14Ar ôl hwn y cododd mab doeth, ac a breswyliodd mewn ehangder trwyddo ef.
15 # 1.bren.4.24. Salomon a deyrnasodd mewn amser heddychlō, ac a oedd anrhydeddus: canys Duw a barase lonyddwch oi amgylch ef, fel yr adailade efe dŷ iw henw ef, ac y darpare gyssegr tros byth: #1.Bren.4.29.mor ddoeth oedd efe yn ei ieuengtid:
16Ac mor llawn o synwyr fel llifeiriant:
17Dy enaid a orchguddiodd yr holl ddaiar ac ai llanwodd â chyffelybiaethau dammegol.
18Dy enw a aeth ym mhell i’r ynysoedd, a chu oeddit am dy heddwch.
19 # 1.Bren.4.31. Ryfeddodd y gwledydd wrth dy gania­dau, a’th ddiharebion, a’th gyffelybiaethau, a’th ddeongliadau.
20Trwy enw Arglwydd Dduw yr holl ddaiar, yr hwn a elwir dy Dduw di Israel,
21Y cesclaist ti #1.Bren.10.27. 2.Bren.11.1.aur fel alcam, ac y cefaist arian cyn amled a’r plwm, rhoddaist ormod serch ar wragedd,
22Ti a orchfygwyd yn dy gorph.
23Ti a anefaist dy ogoniant, ac a halogaist dy hiliogaeth, gan ddwyn digofaint yn erbyn dy blant, a dwyn gofid am dy ynfydrwydd: fel y #1.Bren.12.15.rhannwyd y frenhiniaeth, ac y dechreuodd bren­hiniaeth anufyddgar fod o Ephraim.
24 # 2.Sam.7.15. Er hynny ni adawe yr Arglwydd ei drugaredd, ac ni ddifethwyd ef am ei weithredoedd.
25Ni ddeleue efe hiliogaeth ei etholedic, ac ni ddyge ymmaith eppil yr hwn ai care ef:
26Eithr efe a adawodd weddill i Iacob, a gwreiddin i Ddafyd o honaw ef.
27Yna Salomon a orphywysodd gyd ai dadau.
28Ac a adawodd oi hiliogaeth ar ei ôl, ynfydrwydd y bobl, ac vn a difig synnwyr arno, yr hwn a yrrodd y bobl ymmaith âi gyngor:
29 # 1.Bren.12.28. Ac Ieroboam mab Nabat yr hwn a wnaethi Israel bechu, ac a roddes ffordd i Ephraim i bechu.
30Ai pechodau hwynt a gynnyddasant mor ddirfawr hyd oni throdd efe hwynt allā o’r wlâd.
31[Ac] hyd oni ddaeth dig a dialedd arnynt hwy.

Currently Selected:

Ecclesiasticus 47: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in