YouVersion Logo
Search Icon

Ecclesiasticus 37

37
PEN. XXXVII.
Pa fodd y mae i ni adnabod ein cyfeillion a’n cynghor­wyr, 12 Mai âr duwiol y dylem ni ymgyfeillach.
1Pob cydymmaith a ddywed, da gennif finne ef: eithr y mae cydymmaith yn vnic o enw.
2Onid erys tristwch hyd angeu, pan droo cyfaill neu gydymmaith i fod yn elyn:
3O ryfyg drygionus, o ba le yr ymdreiglaist ti i orchguddio y ddaiar â thwŷll:
4 # Pen.6.19. Rhyw gyfaill a wna yn lawen gyd ai gydymmaith yn ei lawenydd, ac a fydd yn ei erbyn ef yn amser adfyd.
5Rhyw gyfaill a gymmer boen gyd ai gydymmaith er mwyn ei fol, ond efe a gymmer darian yn erbyn y gelyn.
6Nac anghofia dy gydymmaith yn dy galon, eithr meddwl am dano ef pan fyddech yn gyfoethog.
7Na ymgynghora a’r hwn sydd yn dy wilied di, eithr cêl dy gyfrinach rhag y rhai sy yn cenfigennu wrthit ti.
8 # Pen.8.19.|SIR 8:19 & 9.16. Pob cynghorwr a genmyl ei gyngor: ac y mae a gynghora ar ei fudd ei hun.
9Cadw dy feddwl oddi wrth dy gynghor­wr, a myn wybod yn gyntaf pa raid fydd i ti wrtho ef (o blegit y mae efe [ond odit] yn cyngho­ri trosto ei hun) rhag iddo dy fradychu di:
10A dywedyd wrthit ti, da yw dy ffordd, ac yna sefyll gyferbyn â thi i weled beth a ddigwyddo i ti.
11Na ymgynghora âr neb a’th amheuo di: a chêl dy gyfrinach oddi wrth y rhai a genfigennant wrthit,
12Nag â gwraig am yr hon y mae eiddigedd rhyngthi hi â hi, nag â’r llwfr am ryfel, nac a’r marchnadwr am gyfnewid, nac a’r prynnwr am werthu, nac a’r cenfigennus am ddiolchgarwch, nac a’r anrhugaroc am gymwy­nas.
13Nac a’r diog am ddim gwaith, nac a’r gwâs a gyfloger tros flwyddyn am orphen peth, nac â gwas diog am lawer o waith.
14Na ddisgwil wrth y fath hyn am ddim cyngor.
15Eithr bydd yn fynych gyd â gŵr duwiol yr hwn a wyddost ti ei fod yn cadw gorchymynnion yr Arglwydd,
16Yr hwn a fyddo yn ei feddwl fel dy feddwl dithe, yr hwn os tramgwyddi di a gydofidia â thi.
17Cadw dy gyfrinach yn dy galon: o blegit nid oes neb ffyddlonach i ti nâ honno.
18Canys y mae meddwl dyn yn arfer weithieu o fynegu mwy na saith o wilwyr yn ei­stedd mewn twr gwilio vchel.
19Ac o flaen hyn oll gweddia ar y Goruchaf ar i wirionedd gyfarwyddo dy ffordd di
20Dechreuad pob gwaith yw ymadrodd, ac o flaen pob gweithred [aed] cyngor.
21Arwydd cyfnewidiad llawenydd yw ’r wyneb, a phedwar peth sydd yn codi da a drwg, enioes ac angeu, a’r tafod sydd yn llywodraethu yn wastad arnynt hwy.
22Y mae rhyw wr dichellgar yn dyscu llawer eraill, ac yn amhroffidiol iw enaid ei hun.
23Y mae vn atcâs doeth o eiriau: gan hwnnw nid oes dim doethineb.
24O blegit ni roddes yr Arglwydd râs iddo ef, canys efe a adawyd heb bob doethineb.
25Rhyw vn sydd gall iw enaid ei hun, a ffrwyth ei synnwyr ef sydd ganmoladwy yn y genau.
26Gwr doeth a ddysc ei bobl, a ffrwyth ei synnwyr ef ydynt siccr.
27Gwr doeth a gaiff ddigon o fendith, a’r rhai oll ai gwelant ef ai cyfrifant ef yn happus.
28Oes gŵr sydd yn rhifedi ei ddyddiau ef, a dyddiau Israel ydynt anifeiriol.
29Y doeth a etifedda ogoniant ym mysc ei bobl, ai enw a fydd byth.
30Fy mab prawf dy enaid tra fyddech byw: gwêl yr hyn sydd ddrwg iddo, ac na âd iddo ei wneuthur ef.
31Nid yw pob peth yn fuddiol i bawb, ac nid yw pob enaid yn fodlon i bob peth.
32Na ymlanw â phob dainteithion, ac na ruthra i fwyd.
33 # Pen.31.19,20. O lawer o fwyd y daw clefydau, ac ymlenwi a ddaw i ormod gwrês.
34Trwy ormodedd y bu feirw llawer, ond yr hwn a ymgeidw a estyn ei hoedl.

Currently Selected:

Ecclesiasticus 37: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in