YouVersion Logo
Search Icon

Ecclesiasticus 29

29
PEN. XXIX.
Am echwyn. 14. elusen 17 machniaeth 15 am gartref er tylotted fyddo.
1Yr hwn sydd yn gwneuthur trugaredd sydd yn rhoddi echwyn iw gymmodog, a’r hwn sydd yn ei gadarhau ef ai law, sydd yn cadw y gorchymynnion.
2 # Deut.15.7.|DEU 15:7. math.5.42.|MAT 5:42 luc.6.35. Dod echwyn i’th gymmydog yr amser y byddo rhaid iddo ef, a thâl trachefn i’th gymmydog yn yr amser.
3Cadw dy air yn siccr, a gwna yn ffyddlon ag ef, a thi a gei wrth dy raid bôb amser.
4Llawer a gyfrifasant echwyn fel peth wedi ei gael, ac a barasant flinder i’r rhai ai helpiasant hwy.
5Y mae efe yn cussanu ei ddwylo ef hyd oni dderbynio efe: ac efe a ostwng ei leferydd am arian ei gymmydog.
6Ac yn amser talu efe a oeda yr amser, ac a rydd atteb hwyr-frydig, ac a wna escus o’r amser.
7Ac os dichon efe roddi, prin y dwg efe yr hanner: ac efe a gyfrif hynny fel peth wedi ei gael.
8Os amgen [wedi] iddo ef ei ddifuddio ef am ei arian, ai gael ef yn elyn heb achos:
9Efe a dâl iddo ef felldithion a difenwad: efe a dâliddo ef ammarch yn lle anrhydedd.
10Llawer a droesant ddŷn ymmaith rhag drwg, ac a ofnasant ei difuddio.
11Er hynny bydd ddioddefgar wrth drue­ni, ac nac oeda dy elusen iddo ef.
12Cynnorthwya y tlawd er mwyn y gorchymyn, ac na thro ef ymmaith yn ei angen.
13Coll dy arian er mwyn cyfaill neu frawd, ac na chuddia hwynt tann garreg iw colli.
14Gosot #Dan 4.24.|DAN 4:24. math.6.20.|MAT 6:20. luc.11.41.|LUK 11:41 & 12.33.|LUK 12:33. act.10.4.|ACT 10:4. 1.tim.6.18,19.dy dryssor lle y mae y Goruchaf yn gorchymyn, ac efe a fydd mwy buddiol i ti nag aur.
15Cae #Tob.4.8,9,10,11.dy eluseu yn dy gelloedd, ac hi a’th wared ti o bôb niwed.
16Hi a ymladd trosot ti yn well na tharian cryf, ac na gwaiw-ffon gadarn yn erbyn y gelyn.
17Gŵr da a fachnia tros ei gymmydog, a’r hwn a gollodd gywilydd-dra ai gâd ef.
18Na angofia garedigrwydd meichie, o blegit efe ai rhoddes ei hun trosot ti,
19Pechadur a anrheithia ferchie da.
20Pechadur wedi machino a ffŷ, a’r difuddiol a âd yn [ei] feddwl yr hwn ai gwaredodd ef.
21Machniaeth a ddifethodd lawer vn goludog, ac ai symmudodd hwynt fel tonn o’r môr.
22Hi a wnaeth i wŷr cedyra fudo, fel y cyrwydrasant hwy ym mysc cenhedloedd dieithr.
23Y pechadur a drosseddo orchymynnion yr Arglwydd a syrth mewn machniaeth, a’r hwn a ddilyn wobr a syrth mewn cyfraith.
24Cynnorthwya dy gymmydog yn oref ac y gallech, a gwilia arnat dy hun rhag syrthio o honot.
25 # Pen.36.21. Dechreu bywyd dŷn yw dwfr a bara a dillad, a thŷ yn gorchguddio gwarth.
26Gwell yw bywyd y tlawd tann dô cledr, na gwleddau danteithiol o’r eiddo rhai eraill.
27Am fawr a bychan bydd fodlon, ac ni chei di glywed gwradwydd i’th dŷ.
28Bywyd drwg [yw gwibio] o dŷ i dŷ, ac lle yr ymdeithi di, ni elli agoryd dy safn.
29Ti a letteui, ac a ddiodi rai anniolchgar, ac a gei glywed chwerwder am hynny.
30Tyret ymdeithudd gwna ’r bwrdd yn drefnus, ac od oes dim gennit dod i mi fwyd.
31Tyret allan ymdeithudd o flaen yr anrhydeddus, y mae yn rhaid i mi wrth fy nhŷ, y mae fy mrawd yn lletteua gyd â mi.
32Trwm yw hyn i’r hwn sydd ganddo synnwyr, gorafyn y tŷ, a gwradwydd y benthy­giwr.

Currently Selected:

Ecclesiasticus 29: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in