YouVersion Logo
Search Icon

Ecclesiasticus 28

28
PEN. XXVIII.
Cyngor yn erbyn chwant i ddial. 10 A rhyfyg y tafod.
1Y #Deut.32.35. Rhuf.12.19.Dialwr a gaiff ddialedd gan yr Arglwydd, ac efe gan gadw a geidw ei becho­dau ef.
2Maddeu i’th gymmydog ei gam, ac yna pan weddiech di y maddeuir dy bechodau dithe.
3Dŷn i ddŷn a geidw ddig, ac #Matth.6.14.a gais gan yr Arglwydd feddiginiaeth,
4Ni thrugarha efe chwaith wrth ddŷn cyffelyb iddo ei hun, ac efe a ymbil tros ei becho­dau.
5Y mae efe yn gnawd yn cadw digter: pwy gan hynny a drugarha wrth ei bechod yntef:
6Cofia y diwedd, a phaid a dal galanastra.
7Na fygwth chwaith i’th gymmydog ddinistr, na marwolaeth: eithr aros wrth y gorchymynnion.
8Cofia y gorchymynnion, ac na ddigia wrth dy gymmydog.
9[Cofia] hefyd gyfammod y Goruchaf, a dirmyga annwybodaeth.
10 # Pen.8.1. Ymgadw rhag cynnen, a thi a wnei yn llai dy bechodau: o blegit gŵr digllon a gynneu gynnen.
11Gŵr pechadurus a dralloda gyfeillion, ac a fwrw lid rhwng rhai heddychol.
12Fel #Dihar.26.21.y byddo defnydd y tân felly y llysc efe, ac fel y byddo cadernid y gynnen y cynny­dda y tân, fel y byddo cryfoer dŷn y bydd ei ddigofaint ef, ac yn ôl cyfoeth dŷn y cyfyd efe ei lid.
13Y mae ymryson prysur yn cynneu y tân, a chynnen bryssur yn tywallt gwaed.
14Os chwythi di wreichionen hi a gynneu: ond os poeri di arni hi, hi a ddiffydd: ac y mae y ddau yn dyfod o’r genau.
15Melldithiwch #Pen.21.28.yr athrodwr a’r ddau da­fodiog: o blegit llawer-vn heddychlon a ddifethasant hwy.
16Tafod dau ddyblyg a gynhyrfodd lawer ac ai gwascarodd hwynt o genhedlaeth i genhedlaeth.
17Dinasoedd cedyrn a ddinistriodd efe hefyd, a theiau pendefigion a ddifethodd efe.
18Tafod dauddyblig a fwriodd wragedd gwrol allan, ac ai diddymmodd hwynt oi llafur.
19Yr hwn a wrandawo arno ef ni chaiff efe lonydd, ac ni phresswylia yn ddistaw.
20Dyrnod ffrewyll a wna glais, a dyrnod tafod a ddryllia escyrn.
21Llawer a syrthiasant o herwydd min y cleddyf, ond nid cymmaint ag a syrthiasant o blegit y tafod.
22Gwyn ei fyd yr hwn a amddeffynnwyd rhagddo, ac nid aeth yn ei ddigofaint ef.
23Yr hwn ni thynnodd ei iau ef, ac ni rwymwyd ai rwymau ef: o blegit iau haiarn yw ei iau ef, a rhwymau prês yw ei rwymau ef.
24Marwolaeth ddrwg yw ei farwolaeth ef, a mwy buddiol yw vffern nag ef.
25Ni chaiff efe lywodraeth ar y rhai duwiol, ac ni loscir hwynt yn ei flam ef.
26Y rhai ydynt yn gadel yr Arglwydd a syrthiant tano, ac arnynt hwy y llysc efe heb ddiffoddi: efe a yrrir arnynt hwy fel llew, ac fel lleopard y difa efe hwynt.
27Wele cae dy dyddyn â drain, eithr gwna i’th enau ddorau a chlôau.
28Rhwym dy arian a’th aur, pwysa hefyd dy ymadrodd, a gwna i’th enau borth a chol.
29A gochel rhag llithro o honot trwyddynt hwy, ac rhag syrthio o honot o flaen y cyn­llwyn-wr.

Currently Selected:

Ecclesiasticus 28: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in