YouVersion Logo
Search Icon

Ecclesiasticus 24

24
PEN. XXIIII.
Clod doethineb.
1Doethineb a gemnyl ei henaid, ac a orfole­dda ym mysc ei phobl.
2Hi a egur ei safn yng-hynnulleidfa y Goruchaf, ac a orfoledda ger bron ei allu ef [gan ddywedyd,]
3Mi a ddeuthym o enau y Goruchaf, ac a orchuddiais y ddaiar fel niwl.
4Mi a bresswylais yn y goruchelder, a’m gorseddfaincg i sydd mewn colofn o gwmwl.
5Myfi a amgylchais gylch y nesoedd fy hunan, ac a rodiais yng-waelod y dyfnder.
6Cefais feddiant o donnau y môr, ac o’r holl dîr, ac o bob pobl a chenhedlaeth.
7A chyd a’r rhai hyn oll y ceisiais i orphywysdra, fel y cyfannedwn yn etifeddiaeth rhyw vn.
8Yna i’m gorchymynnodd creawdudd pob peth, a’r hwn a’m creawdd inne a wnaeth i’m pabell i orphywyso, ac a ddywedodd:
9Presswylia yn Iacob, a chymmer etifeddi­aeth yn Ierusalem.
10 # Dihar.8.23. Efe a’m creawdd i o’r dechreuad cyn y byd, ac ni phallaf fi byth, mi a wasanaethais ger ei fron ef #Exod.31.3.yn y babell sanctaidd.
11Ac felly im siccrhawyd i yn Sion, gwnaeth efe hefyd i mi orphywyso yn y ddinas sanctaidd, ac yn Ierusalem y mae fyng-allu i.
12Ac mi a wreiddiais ym mysc pobl anrhydeddus yn rhan yr Arglwydd ai etifeddiaeth.
13Fel cedryn Libanus y derchafwyd fi, ac fel cupreswydden ym mynyddoedd Hermon.
14Fel palmwydden Engadi y derchafwyd fi, ac fel planhigion rôs yn Iericho.
15Fel oliwydden hardd mewn maes têg, fel planwydden wrth ddyfroedd i’m derchafwyd.
16Fel Cinamwn, ac fel swpp o bêr-aroglau, ac megis myr dewisol y rhoddais fy mher arogl.
17Fel galbanum, ac Onyx, ac siorax, ac fel tarth thus mewn papell.
18Mi a estynnais fyng-hanghennau fel Tarebinchus, a’m canghennau ydynt ogoneddus a grawslawn.
19 # Io.15.1. Fel gwinwydden y tarddodd pêr arogl o honofi, a ffcwyth gogoniant a chyfoeth yw fy mlodau mau fi.
20Mam cariad da, ac ofn, a gwybodaeth, a gobaith sanctaidd ydwyfi:
21Yr ydwyfi yn rhoddi [y rhai hyn] yn dragywyddol i’m meibion y rhai a ddywedo efe.
22Deuwch attafi y rhai a ydych yn fy chwenychu i, a llanwer chwi âm ffrwythau i.
23Canys #Psal.19.10.melusach yw fyng-hoffadwri­aeth na’r mêl, a’m etifeddiaeth na’r dil mêl.
24Bydd ar y rhai am bwytânt i newyn etto, ac ar y rhai am hyfant i y bydd sychedd etto.
25Ni wradwyddir byth yr hwn a vfyddhao i mi, ac ni phecha y rhai a weithiant trwofi.
26Llyfr cyfammod y goruchaf Dduw yw hyn oll.
27[Sef] #Exod.20.1|EXO 20:1 & 24.3.|EXO 24:3. Deut.4.1. & 29.9.y gyfraith yr hon a orchymynnodd Moses i ni yn etifeddiaeth yng-hynnu­lleidfa Iacob, na phellwch fod yn gryfion yn yr Arglwydd, fel y cadarnhao efe chwi, glynwch wrtho ef: yr holl alluog Arglwydd sydd Dduw yn vnic, ac nid oes iachawdur ond efe.
28Yr hwn ai ddoethineb sydd yn llenwi pob peth fel #Gen.2.11.Pison, ac fel Tigrys yn nyddiau y [ffrwythau] newydd.
29Yr hwn sydd yn llenwi deall fel Euphrates, ac fel yr #Ios.3.15Iorddonen yn amser cynhaiaf.
30Yr hwn sydd yn dangos addysc gwybo­daeth fel goleuni, ac fel Gêon yn nyddiau cyn­haiaf gwîn.
31Ni orphennodd y cyntaf ei hadnabod hi: felly nid ôlrheiniodd y diweddaf hi allan.
32O blegit y mae ei meddylfryd hi yn helaethach na’r môr, ai chyngor na’r dyfnder mawr.
33Yr ydwyf fi doethineb, fel ffôs yn dyfod o afon:
34Ac fel aber yr euthym i baradwys.
35Mi a ddywedais y dwfrhawn fyng-ardd o’r oref, ac y mwydwn fyng-hyfiawn ireidd­dra.
36Ac wele fe a aeth fy ffôs yn afon, a’m hafon i yn fôr.
37Am fy mod i yn egluro addysc fel y cyf­ddydd, ac yn ei dangos hi ym mhell.
38O herwydd yr ydwyf fi yn tywallt athrawiaeth fel prophwydoliaeth, ac mi ai gadawaf hi i oesoedd tragywyddol.
39Gwelwch #Pen.33.16.nad trosof fy hunan y cymmerais i boen, eithr tros bawb ai ceisiant hi.

Currently Selected:

Ecclesiasticus 24: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in