YouVersion Logo
Search Icon

Ecclesiasticus 20

20
PEN. XX.
Am amryw ffrwyth ymadrodd. 27 am lafurio tir. 28 am anrhegion a rhoddion.
1Megis y mae yn well ceryddu na digio yn ddirgel: felly yr attelir rhag niwed yr hwn a gydnabyddo [ei fai.]
2Chwant dispaidd yw torri morwyndod llangces: #Pen.30.20felly y mae yr hwn sydd yn gweuthur barnedigaeth wrth nerth.
3Y mae vn distaw yr hwn a geir yn ddoeth, ac y mae sydd adcas am ei siarad lawer.
4Y mae a’r sydd yn tewi am nad oes ganddo atteb, ac y mae a’r sydd yn tewi am ei fod yn adnabod #Preg.3.7.yr amser.
5 # Pen.32.4. Dŷn doeth a dau hyd oni byddo amser, eithr yr ehud a’r angall a aiff tros amser.
6Yr aml ei eiriau a ffieiddir, ac adcâs fydd yr hwn a gymmero awdurdod iddo ei hun.
7Mor dda yw dangos o’r hwn a gerydder edifeirwch: felly y ffoi di oddi wrth bechod ewyllyscar.
8Gan ŵr pechadurus y mae dygrifwch mewn drygioni: ac yn niwed [iddo ei hun] y mae ’r caffaeliad.
9Y mae rhodd yr hon nid yw fuddiol i ti, ac y mae rhodd yr hon a dâl ei dau cymmaint.
10Y mae niwed er gogoniant, ac y mae a gododd ei ben trwy ostyngeiddrwydd.
11Y mae a bryn lawer am ychydig, ac ai tâl hwy yn saith gymmaint.
12Yr #Pen.6.5.hwn sydd ddoeth yn ei ymadrodd sydd yn ei wneuthur ei hun yn gariadus, a ffafor ffyliaid a dywelltir allan.
13Ni bydd rhodd yr angall fuddiol i ti yr hwn wyt yn derbyn: felly y cenfigennus o herwydd ei angen, o blegit y mae efe yn edrych am dderbyn llawer peth am yr vn.
14Ychydig a rydd efe a llawer a ddannod efe: ac efe a egir ei safn fel criwr.
15Heddyw y nechwyna efe, ac y foru y cais efe: câs gan yr Arglwydd a chan ddynion yw y cyfryw.
16Y ffôl a ddywed, nid oes gennif gyfaill, nid oes diolch am fy naioni.
17Y rhai ydynt yn bwyta fy mara i, ydynt yn ddrwg eu tafod.
18Pa sawl gwaith a pha sawl vn ai gwatwarant ef: nid yw efe yn cymmeryd mewn deallda fod [peth] ganddo, a’r vn fath iddo ef yw na bai.
19Gwell yw llithro ar balmant na llithro o’r tafod, felly y daw cwymp y drygionus ar frŷs
20Dŷn echryslon sydd fel chwedl allan o amser, yr hwn fydd yn oestadol yng-enau yr hwn sydd ddiaddysc.
21O enau y ffôl y llysir dihareb, o blegit ni ddywed efe hi yn ei hamser.
22Y mae a luddir i bechu trwy eisie, yr hwn pan orphwyso ni swmbylir.
23Y mae a gyll ei enaid ei hun o wladeidd­dra, a thrwy dderbyn wyneb y mae efe yn ei cholli hi.
24Y mae a eddu iw gyfail rhag cywilydd, ac ai gwna ef yn elyn iddo ei hun heb fod yn rhaid.
25 # Pen.25.2. Anglod mawr ar ddyn yw celwydd, ac efe fydd yn oestadol yng-enau yr hwn sydd ddi­addysc.
26Gwell yw lleidr na’r hwn a ymgynnefino â chelwydo: a phob vn o’r ddau a gaiff fethiant yn etifeddiaeth.
27Amharchus yw arfer dyn celwyddog, ai anniwarthrwydd fydd gyd ag ef yn oestadol.
28Y doeth ai gesyd ei hun rhagddo ai ymadrodd: a’r call a ryglydda bodd pendefigion.
29 # Dihar.12.11. & 28.19. Yr hwn a goleddo ei dir a wna ei ddâs yn vwch, a’r hwn a ryglyddo bodd pendefigion a gaiff faddeuant am ei anghyfiawnder.
30 # Exod.23.8. Deut.16.19. Anrhegion a rhoddion ydynt yn dallu llygaid y doethion, ac fel ffrwyn mewn safn y maent yn troi cerydd ymmaith.
31Doethineb guddiedig a thryssor heb ei weled, pa fudd sydd o’r vn o’r ddau:
32Gwell yw dŷn yn cuddio ei ffolineb, na dŷn yn cuddio ei ddoethineb: gwell yw angenrheidiol ddioddefgarwch yn ceisio yr Arglwydd, nag vn yn llywodraethu ei fywyd ei hun heb Arglwydd.

Currently Selected:

Ecclesiasticus 20: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in