YouVersion Logo
Search Icon

Ecclesiasticus Prolog

Prolog
Prolog doethineb Iesus fab Sirach.
1 Gan roddi i ni lawer a mawrion bethau trwy y gyfraith a’r prophwydi, ac eraill ai dilynasant hwy, am ba rai y mae yn rhaid canmol Israel o herwydd addysc a doethineb:
2 A hynny fel nad yw yn rhaid yn vnic i’r darllennyddion fyned yn ddoethach, eithr hefyd i’r rhai sy yn chwennychu dyscu fod yn fuddiol i’r rhai oddi allan gan draethu, ac scrifennu: hefyd:
3 Fy nhaid i Iesus gan ei roddi ei hun yn fynychaf i ddarllen y gyfraith a’r prophwydi, ac eraill o lyfrau y tadau, ac wedi cael digonol hyfedrwydd ynddynt hwy,
4 A ddygwyd rhagddo i scrifennu peth o’r pethau cymmwys i addysc a doethineb:
5 Fel y galle y rhai ydynt awyddus i ddysc wedi bod yn gyfrannogion o hyn gynnuddu yn fwy trwy reol buchedd.
6 Am hynny cymmerwch gyngor yn ewyllyscar, ac yn ymarhous i ddarllen, ac i faddeu, os rhai wedi i mi gymmeryd poen yn cyfieuthu a welant na chawsom ni rym rhyw eiriau.
7 O blegit nid ydynt hwy o’r vn rym â hwynt eu hun pan draether hwynt yn Hebrae­aec, a phan droer hwynt i iaith arall.
8 Ac nid hyn yn vnic, eithr pethau eraill sef y gyfraith a’r prophwydi a llyfrau eraill sy iddynt ragoriaeth nid bechan pa draether hwynt yn eu hiaith eu hun.
9 O blegit yn y ddeunawfed flwyddyn ar hugain i’r brenin Efergetes wedi i mi ddyfod i’r Aipht, ac aros yno ennyd, mi a gefais gopi o addysc nid bychan.
10 [Ac] mi a feddyliais fod yn angenrhei­diaf dim gymmeryd peth diwydrwydd a phoen yn cyfieuthu y llyfr.
11 Felly mi a ymroddais i fawr boen a chyfarwyddyd i ddwyn y llyfr i ben iw osod allan, ac i ddarparu buchedd i fyw wrth y gyfraith i’r rhai yn y gorymdaith ydynt yn chwennych dyscu.

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in