YouVersion Logo
Search Icon

Ecclesiasticus 16

16
PEN. XVI.
Am blant drygionus, 6 Dialedd Duw yn erbyn yr annuwiol. 25 Doethineb Duw yn ei weithredoedd.
1Na ddymuna lawer o blant diriaid, ac na fydd lawen o blant annuwiol: os amlhânt na fydd lawen o honynt hwy, oni bydd ofn yr Arglwydd arnynt.
2Nac ymddyriet iw henioes hwynt, ac na hydêra ar eu lluosogrwydd hwynt.
3Canys gwell yw vn cyfiawn nâ mîl.
4A gwell yw marw heb plant na chael plant annuwiol.
5Vn synhwyrol a wna ddinas yn gyfannedd, ac yn ebrwydd y gwneir tylwyth yr annuwiol yn anghyfannedd.
6Llawer o’r fath hyn a welodd fy llygad i: a’m clust a glywodd bethau cadarnach nâ hyn.
7 # Pen.21.9,10. Yng-hynnulleidfa pechaduriaid y cynneu tân, ac yng-henhedlaeth anghredadwy y llysc digofaint.
8Ni bu #Gen.6.4.efe fodlan ir hên gewri oll, y rhai a ymmadawsant yng-hryfder eu ffolineb.
9Nid #Gen.19.21,25.arbedodd efe gymmydogion Lot, y rhai a ffieiddiodd efe am eu balchder.
10Ni thrugarhâodd efe wrth genedl ddestruw, y rhai a aethant allan yn eu pechodau y rhai a wnaethent hwy.
11Ac felly y cadwodd yr Arglwyd trwy drugaredd ac addysc chwe chant mil o wŷr traed y rhai a gasclesid yng-haledwch eu calon, #Num.14.15|NUM 14:15, 16.20|NUM 16:20, & 26.51gan guro a thosturio gan daro ac iachau, ac os bydde vn gwar-syth ym mysc y, bobl rhyfedd oedd hyn os bydde efe difai.
12Gyd ag ef y mae trugaredd, a digofaint.
13Yn fuan y bydd efe yn gadarn cymmodlon, neu yn tywallt digofaint: #Pen.5.6.yn ôl amldra ei drugaredd y bydd ei argyoeddiad ef: yn ôl ei weithredoedd y barna efe ŵr.
14Ni ddiangc pechadur ai anrhaith, ac ni phalla amynedd y duwiol.
15Dod le i bob elusen: o blegit pob vn a gaiff yn ôl ei weithredoedd: yr Arglwydd a galedodd Pharao fel nad adwaene efe ef, fel y bydde ei rym ef yn hyspus i’r creadur tān y nefoedd, ei drugaredd ef sydd amlwg i bob creadur: ag adamant y gwahanodd efe ei oleuni a’r tywyllwch.
16Na ddywet, yr Arglwydd a’m cuddia fi, a phwy o’r vchelder a’m cofia fi:
17Ym mysc pobl lawer ni’m cofir fi: canys beth yw fy enaid: wrth y creadur anfeidrol?
18Wele y nef, îe #2.Pet.3.10. 1.bren.8.27.|1KI 8:27. 2 cron.6.18.nef y nefoedd, y dyfnder a’r ddaiar a’r hyn sydd ynddynt hwy a siglant, pan ofwyo efe: yr holl fyd a wnaed ac yr ydys yn ei wneuthur sydd wrth ei ewyllys ef.
19Y mynyddoedd a seiliau y ddaiar, pan edryche yr Arglwydd arnynt hwy, a gyd-escydwent gan ddychryn.
20Hefyd ni feddwl calon am danynt hwy yn addas.
21A phwy a ddeall ei ffyrdd ef? y mae temhestl yr hon ni wêl dŷn, ac y mae mwy oi waith ef yn ddirgel.
22Pwy a draetha neu a ddioddef weithredoedd ei gyfiawnder ef: o herwydd pell yw ’r cyfammod a holiad pob peth wrth farw.
23Y difalch a feddwl hyn, a’r gwr angall cyfeiliornus sydd yn meddwl pethau ffôl.
24Gwrando arnafi fy mab, a dysc ŵybodaeth: ac wrth fyng-eiriau mau fi gwilia ar dy galon.
25Mi a ddangosaf addysc tann bwys, ac a draethaf yn ofalus am ei gŵybodaeth hi.
26Wrth farn yr Arglwydd y mae ei weithredoedd ef o’r dechreuad, ac efe a ddosparthodd eu rhannau hwynt er pan wnaed hwynt.
27Efe a addurnodd ei weithredoedd byth: y mae ei dywysogaeth yn ei law ef byth bythol: ni newynasant, ac ni flinasant yn ei waith, ac ni pheidiasant ai waith ef.
28Ni flinodd yr vn ei gymydog.
29Ac nid anghredant ei air ef byth.
30Wedi hyn yr edrychodd yr Arglwydd ar y ddaiar, ac efe ai llanwodd hi âi ddaioni.
31Y mae efe yn cuddio ei hwyneb hi â chelanedd pob peth byw, ac iddi hi y maent hwy yn dychwelyd.

Currently Selected:

Ecclesiasticus 16: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in