YouVersion Logo
Search Icon

Ecclesiasticus 14

14
PEN. XIIII.
Am dafod, cydwybod, cenfigen ac oferedd dyn. 21. Clôd doethineb.
1Gwyn ei fyd y gŵr #Pen.19.6.|SIR 19:6. lago.3.2.ni lithrodd ai enau, ac ni phigwyd â llawer o bechodau.
2Gwyn ei fyd yr hwn ni chondemno ei enaid ei hun ef, a’r hwn ni syrthio oddi wrth ei obaith yr hon fydd yn yr Arglwydd.
3Nid da yw cyfoeth i ŵr cybydd, a pha beth a wnae gŵr cenfigennus â golud.
4Yr hwn sydd yn casclu [gan arbed] oddi wrtho ei hun, sydd yn casclu i arall: ac eraill a lothinebant ei dda ef.
5Yr hwn sydd ddrwg iddo ei hun, i bwy y mae efe yn dda: ac ni chaiff efe lawenydd oi olud.
6Nid oes neb waeth na’r hwn sydd yn cenfigenu witho ei hun, ac dymma wobr ei ddrygioni ef.
7Os gwna efe ddaioni nid oi fodd y gwna efe, ac o’r diwedd efe a wna ei ddrygioni yn amlwg.
8Drwg yw golwg y cenfigennus: efe a drŷ ei wyneb ac a ddirmyga ddynion.
9Ni lenwir dim o lygad y cybydd, ac ang­hyfiawnder y drygionus a wywa ei enaid ef.
10 # Dihar.27.20. Llygad drwg fydd cenfigennus am fara, ac ag eisieu arno ar ei fwrdd.
11[Fy] mab pa fodd bynnac y byddo i ti bydd dda wrthit ty hun, ac offrwm offrymmau i’r Arglwydd yn addas.
12Cofia nad oeda angeu, ac ni ddangoswyd i ti gyfammod vffern.
13Cyn dy farw #Pen.4.1.|SIR 4:1. tob.4.7.|TOB 4:7. luc.14.13.bydd dda wrth [dy] gyfaill, ac yn ôl dy allu estyn, a dod iddo ef.
14Na thwylla dydi dy hun am y dydd da, ac nac aed rhan dymuniad da heibio i ti.
15Onid i arall y gadewi di dy lafur, a’r hyn y cymmeraist boen am dano iw rannu wrth goel-bren:
16Dod a derbyn a sancteiddia dy enaid,
17O herwydd nid rhaid ceisio bwyd yn vffern.
18 # Esa. 40.6.|ISA 40:6. 1.pet.1.24|1PE 1:24. iago.1.10. Pob cnawd a heneiddia fel dilledyn, y cyfammod tragywyddol [yw] y byddi di farw yn ddiau fel deilen yn torri mewn pren brigog.
19Efe a furw rai, ac a dardd allan rai eraill: felly y mae cenhedlaeth cîg a gwaed, y naill sydd yn marw, a’r llall a enir.
20Pôb gwaith pwdr a dderfydd, a’r hwn sydd yn ei weithio ef a aiff gyd ag ef.
21 # Psal.1.2. Gwyn ei fyd y gŵr mewn doethineb a fefyrio bethau da, a’r hwn yn synhwyrol a ymrysymma am bethau sanctaidd.
22Yr hwn a feddwl am ei ffordd hi yn ei galon, a fydd dehallgar yn ei dirgeledigaethau hi: dos ar ei hôl hi fel ôlrhen-wr, a chynllwyn yn ei ffyrdd hi.
23Yr hwn a edrycho trwy ei ffenestri hi, a thrwy ei dorau hi a gaiff glywed.
24Yr hwn a letteuo yn agos iw thŷ hi, ac a yrro ei hoel iw pharwydydd hi a esyd ei babell ger llaw iddi hi,
25Ac a lletteua yn llettŷ y rhai daionus, ac a esyd ei feibion tann ei chyscod hi, ac a erys tann ei brig hi.
26Hi ai cyscoda ef rhag y gwrês, ac efe a let­teua yn ei gogoniant hi.

Currently Selected:

Ecclesiasticus 14: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in