YouVersion Logo
Search Icon

Rhufeiniaid 7

7
PEN. VII.
1 Ffrwyth y ddeddf, 6 a’r modd y gwaredodd Grist ni rhagddi, 16 gwendid y ffyddlonnion, 23 a’r ymladd peryglus rhwng y cnawd a’r yspryd.
1Oni wyddoch chwi frodyr (wrth y rhai sy yn gwybod y ddeddf yr wyf yn dywedyd) yr arglwyddiaetha y ddeddf ar ddyn tra fyddo efe byw?
2 # 1.Cor.7.39. Canys y wraig yr hon sydd tann lywodraeth gŵr sydd yn rhwym wrth y ddeddf i’r gŵr tra fyddo efe byw: ond o bydd marw y gŵr, hi a ryddhawyd oddi wrth ddeddf y gŵr.
3Ac felly os a’r gŵr yn fyw y bydd hi yn eiddo gŵr arall, hi a elwir yn #Math.5.32.odinebus: eithr os marw fydd y gŵr, y mae hi yn rhydd oddi wrth y ddeddf, fel nad yw hi yn odinebus, er bod yn eiddo gŵr arall.
4Ac felly chwithau fy-mrodyr ydych wedi meirw i’r ddeddf trwy gorph Crist, fel y byddech eiddo vn aral, [sef] eiddo yr hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw.
5Canys pan oeddem yn y cnawd, gwyniau pechodau y rhai oeddynt trwy [nerth] y ddeddf oeddynt mewn grym yn ein aelodau i ddwyn ffrwyth i farwolaeth.
6Eithr yn awr y rhyddhawyd ni oddi wrth y ddeddf wedi ein meirw i’r peth i’n attalit, fel y gwasanaethem yn newydd-deb yspryd, ac nid yn hender y llythyren.
7Beth gan hynny a ddywedwn? ai pechod yw’r ddeddf? ymbell oedd: eithr nid adnabum i bechod, ond wrth y ddeddf: canys nid adnubaswn i drachwant, oni ddywedase ’r ddeddf, #Exod.20.17. Deut.5.21.na chwennych.
8Eithr fe a gymmerth pechod achlysur wrth y gorchymyn, ac a weithiodd ynof bob trachwant.
9Canys marw yw pechod heb y ddeddf, eithr myfi a fum gynt yn fyw heb y ddeddf: ond pan ddaeth y gorchymyn yr adfywiodd pechod, a minne fum farw.
10A’r gorchymyn hwn a [arlwyasit] i fywyd, a gafwyd i mi yn farwolaeth.
11Canys pechod a gymmerth achlysur trwy’r gorchymyn, ac a’m twyllodd, ac wrth hynny a’m lladdodd i.
12Ac felly #1.Tim.1.8.sanctaidd yw’r ddeddf, a sanctaidd yw’r gorchymyn, a chyfiawn, a da.
13Gan hynny a wnaethpwyd y peth oedd dda yn farwolaeth i mi? na atto Duw: eithr pechod fel yr ymddangose yn bechod, a weithiodd farwolaeth ynof trwy’r hyn sydd yn dda, fel y bydde pechod yn dra phechadurus trwy’r gorchymyn.
14Canys gwyddom fod y ddeddf yn ysprydol, a minnef yn gnawdol wedi fyng-werthu tann bechod.
15Canys yr hyn yr wyf yn ei wneuthur nid yw foddlon gennif: canys nid yr hyn yr wyf yn ei ewyllysio yr wyf yn ei wneuthur: eithr yr hyn sydd gâs gennif, hyn yr ydwyf yn ei wneuthur.
16Ac od wyf yn gwneuthur yr hyn nid wyf yn ei ewyllysio, yr ydwyf yn cydsynnio â’r ddeddf ei bod hi yn dda.
17Felly yr awron nid myfi sydd mwy yn gwneuthur hynny, eithr y pechod yr hwn sydd yn trigo ynofi.
18Canys gwn nad oes ynofi, [sef] yn fyng-hnawd i ddaioni yn trigo: o blegit yr ewyllysio sydd yn barod gennif, eithr nid wyf yn medru gwneuthur yr hyn sydd dda.
19Canys nid wyf yn gwneuthur y peth da yr hwn yr wyf yn ei ewyllysio, onid y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio: hynny yr wyf yn ei wneuthur.
20Felly os yr hyn nid wyf yn ei ewyllysio hynny yr wyf yn ei wneuthur: nid myfi sydd yn ei wneuthur, ond y pechod yr hwn sydd yn trigo ynofi.
21Felly yr wyf yn cael y ddeddf, i mi yr hwn wyf yn ewyllysio gwneuthur da, mai drwg sydd bresennol gyd â mi.
22Canys digrif gennif gyfraith Dduw, o herwydd y dyn oddi mewn:
23Eithr yr wyf yn gweled deddf arall yn fy aelodau yn gwrthwynebu deddf fy meddwl, ac i’m caethiwo i ddeddf pechod, yr hon sydd yn fy aelodau.
24Ys truan o ddyn wyfi: pwy am gwared oddi wrth corph y farwolaeth hon?
25Yr wyf yn diolch i Dduw trwy Iesu Grist ein Harglwydd: canys felly yr wyfi yn fy meddwl yn gwasanaethu deddf cyfraith Dduw, ond yn fyng-nhawd cyfraith pechod.

Currently Selected:

Rhufeiniaid 7: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in