YouVersion Logo
Search Icon

Rhufeiniaid 3

3
PEN. III.
1 Wedi i Paul addef fod peth rhagorfraint i’r Iddewon. o blegit rhydd a dianwadal addewid Duw. 9 Y mae efe yn profi wrth yr scrythurau fôd yr Iddewon a’r cenhedloedd yn bechaduriaid. 21 A bôd eu cyfiawnhad hwy trwy râs, nid trwy weithredoedd. 31 Ac er hynny na ddidymmwyd y ddeddf a’r gyfraith.
1Pa ragoriaeth gan hynny sydd i’r Iddew? neu pa fudd fydd o’r enwaediad?
2Lawer ym mhôb rhyw fodd: canys yn gyntaf ymddyriedwyd iddynt hwy am eiriau Duw, #Rom.9.4.
3O blegit beth os anghredodd rhai, a wna eu anghredyniaeth hwy ffydd Dduw yn ddirym?
4Na atto Duw, eithr bydded Duw yn #Iohn.3.33.|JHN 3:33. psal.116.11.|PSA 116:11. psal.51.4.gywir,* a phôb dyn yn gelwyddoc: megis yr scrifennwyd, fel i’th gyfiawnhauer yn dy eiriau, ac y gorfyddech pan i’th farner,
5Eithr os ein anwiredd ni chenmyl wirionedd Duw, pa beth a ddywedwn? a ydyw Duw yn anghyfiawn. yr hwn sydd yn dwyn digofaint; (dywedyd yr ydwyf fel dŷn)
6Na atto Duw: pe amgen, pa fodd y barna Duw y byd?
7Canys os bu gwirionedd Duw helaethach trwy fyng-helwydd i iw ogoniant ef, pa ham mwyach i’m bernir inne fel pechadur?
8A nid (megis ein ceblit, ac megis y dywed rhai ein bôd yn dywedyd) gwnawn ddrwg, fel y dêl da o honaw, y rhai sy gyfiawn eu barnedigaeth.
9Beth am hynny? a ydym ni fwy rhagorol? nac [ydym] ddim: canys profasom eusus fôd pawb, yr Iddewon a’r Groeg-wŷr tann bechod.
10Megis y mae yn scrifennedig, #Psal.14.2. & 53.2.nid oes yn gyfiawn gymmaint ag vn.
11Nid oes nêb yn deall, nid oes nêb yn ymgais â Duw.
12Gwyrâsant oll, hwy a aethant oll yn anfuddiol, nid oes nêb yn gwneuthur daioni, nac oes nêb.
13 # Psal.5.10. Bedd agored yw eu gwddf: #psal.14.15.(sic.)twyllasant â’u tafodau, #psal.140.3.gwenwyn lindis sydd tann eu gwefusau hwynt.
14 # psal.10.7, Y rhai y mae eu genau yn llawn melldith a chwerwedd.
15 # Esai.59.7.|ISA 59:7. diha.1.16. Buan yw eu traed i ollwng gwaed.
16Destruw, ac aflwydd sydd ar eu ffyrdd.
17Ac nid adnabuont ffordd tangneddyf.
18Nid oes ofn Duw ger bron eu llygaid.#Psal.36.1.
19Gwyddom hefyd mai pa bethau bynnac a ddywed y ddeddf, mai wrth y rhai sy tann y ddeddf y dywed hi: fel y caeêr pôb genau, ac fel y byddo yr holl fyd tann [farn] Duw.
20 # Gal.2.16. Am hynny gan weithredoedd y cnawd ni chyfiawnheuir vn cnawd yn ei olwg ef, o blegit gan y ddeddf y [mae] adnabod pechod.
21Ac yr awr hon yr eglurwyd cyfiawnder Duw heb y ddeddf, gan gael testiolaeth gan y ddeddf a’r prophwydi.
22Sef cyfiawnder Duw trwy ffydd Iesu Grist i bawb, ac ar bawb a gredant: canys nid oes gwahaniaeth.
23O blegit pawb a bechasant, ac a ydynt yn ôl am ogoniant Duw.
24A hwy a gyfiawnheuir yn rhâd trwy ei râs ef, trwy’r prynnedigaeth sydd yng-Hrist Iesu.
25Yr hwn a osodes Duw yn iawn trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef trwy faddeuant y pechodau a oeddent gynt,
26Trwy ddioddefiad Duw i ddangos y pryd hynny ei gyfiawnder, fel y bydde efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y nêb sydd o ffydd Iesu.
27Pa le gan hynny [y mae] yr gorfoledd? ef a gaewyd allan. Trwy pa ddeddf? ai [deddf] y gweithredoedd? na-gê, eithr trwy ddeddf ffydd.
28Yr ydym ni yn meddwl gan hyn, fod yn cyfiawnhau dyn trwy ffydd heb weithredoedd y ddeddf.
29Ai i’r Iddewon y mae Duw yn vnic, onid i’r cenhedloedd hefyd? yn wir [y mae] efe i’r cenhedloedd hefyd.
30Canys vn Duw ydyw yr hwn a gyfiawnhâ yr enwaediad o’r ffydd, a dienwaediad trwy ffydd.
31Am hynny a ydym ni yn gwneuthur y ddeddf yn ddirym trwy’r ffydd? na atto Duw: yr ydym yn hytrach yn cadarnhau y ddeddf.

Currently Selected:

Rhufeiniaid 3: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in