YouVersion Logo
Search Icon

Rhufeiniaid 1

1
PENNOD. I.
2 Y mae Paul yn dangos gan bwy, ac i ba beth y galwyd ef. 13 Ei barawd ewyllys ef i ymweled â hwynt. 16 Pa beth yw’r Efengyl. 20 Mwyniant y creaduriaid, ac i ba beth y gwnaethpwyd hwy. 21.24 Angharedigrwydd, drygioni, a phoen yr annuwiol.
1Paul gwasanaethwr Iesu Grist, #Act.13.2.yr hwn a alwyd yn Apostol, ac a nailltuwyd i Efengyl Dduw,
2(Yr hon a ragaddawse efe trwy ei brophwydi yn yr #Deut 18.15.|DEU 18:15. act.3.22.scrythurau sanctaidd)
3Am ei Fab Iesu Grist ein Arglwydd ni (yr hwn a ddaeth o hâd Dafydd o ran y cnawd:
4Ac a egurwyd yn nerthol yn Fab Duw, yn ôl Yspryd sancteiddiad, trwy adgyfodiad y meirw)
5Trwy’r hwn y derbynniasom ni râs ac Apostoliaeth (fel y bydde vfydd-dod i’r ffydd) yn ei enw ef ym mhlith yr holl genhedloedd,
6Ym mysc y rhai yr ydych chwi hefyd yn alwedigion Iesu Grist:
7Attoch oll y rhai sy yn Rhufein yn annwyl gan Dduw wedi eich galw [i fod] yn sainct: #1.Cor.1.2.|1CO 1:2. galath.1.3.|GAL 1:3. 2.tim.1.2.Grâs fyddo i chwi, a thangneddyf gan Dduw ein Tad, a chan yr Arglwydd Iesu Grist.
8Ac yn gyntaf yr wyf yn diolch i’m Duw trwy Iesu Grist trosoch-chwi oll, o blegit bod eich ffydd chwi yn gyhoeddus tros yr holl fyd.
9Canys Duw sydd yn dyst i mi (yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu yn fy yspryd yn Efengyl ei Fab ef) fy mod yn ddibaid yn gwneuthur coffa am danoch
10Yn oestadol yn fyng-weddiau, gan ddeisyf cael o honof ryw amser weithiau rwyddhynt ryw fodd trwy ewyllys Duw, i ddyfod attoch.
11 # Pen 15.23. Canys y mae yn hir gennif nes eich gweled, fel y gallwyf gyfrannu i chwi ryw ddawn ysprydol, i’ch cadarnhau:
12Hynny yw, i ymgyssuro gyd â chwi trwy ffydd ei gilydd: [sef] yr eiddoch chwi a minne.
13Ac ni fynnwn i ô frodyr na’s gwyddech arfaethu o honof yn fynych ddyfod attoch, (eithr mi a luddiwyd hyd yn hyn) fel y caffwn beth ffrwyth hefyd yn eich plith chwithau, megis y mae i mi ym-mhlith y cenhedloedd eraill.
14Dyled-ŵr ydwyf i’r Groegiaid, ac i’r Barbariaid hefyd, i’r doethion, ac i’r annoethion hefyd.
15Am hynny, hyd y gallwyf, parod ydwyf i bregethu yr Efengyl i chwithau hefyd y rhai ydych yn Rhufain.
16Canys nid cywilyddus gennif Efengyl Grist, o blegit #1.Co.1.18.gallu Duw yw hi i iechydwriaeth, i bob vn ar sydd yn credu: i’r Iddew yn gyntaf, a hefyd i’r Groeg-wr.
17Canys trwyddi hi y datcuddir cyfiawnder Duw o ffydd i ffydd: megis y mae yn scrifennedig.#Habac. 2.4.|HAB 2:4. galat.3.11.|GAL 3:11. heb.10.38.y cyfiawn fydd byw trwy ffydd.
18Canys digofaint Duw a ddatcuddiwyd o’r nef yn erbyn pob annuwioldeb, ac ang-hyfiawnder dynion, y rhai ydynt yn attal y gwirionedd mewn ang-hyfiawnder.
19Canys cymmaint ac a ellir ei ŵybod am Dduw sydd amlwg ynddynt hwy: canys Duw a’i hamlygodd iddynt.
20O blegit ei anweledigion bethau ef, [nid amgen] ei allu tragywyddol a’i dduwdod y rhai a ddehellir wrth y pethau a wnaed o greddwriaeth y byd, megis y byddent hwy yn ddiescus.
21 # Ephe.4.11. O blegit hwynt hwy yn adnabod Duw, ni roesant ogoniāt iddo megis i Dduw, ac ni ddiolchasant iddo, eithr ofer fuant yn eu rhesymmau, a’u calon anneallgar ydoedd yn llawn tywyllwch.
22Pan dybient eu bod eu hunain yn ddoethion, ffyliaid oeddent.
23Canys hwynt hwy a newidiasant ogoniant yr anllygredic Dduw, i lun delw lygredic ddyn, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwar carnol, ac ymlusciaid.
24O herwydd pa ham y rhoes Duw hwy i fynu yn nhrachwantau eu calonnau, i aflendid, i amherchi eu cyrph eu hun yn eu plith eu hunain:
25Y rhai a droasant wirionedd Duw yn gelwydd, ac a addolasant, ac a wasanaethasāt y creadur yn fwy nâ’r Creawdr yr hwn sydd fendigedic yn oes oesoedd, Amen.
26O blegit hynny y rhoddes Duw hwynt i fynu i wyniau gwarthus: canys eu gwragedd hwy a newidiasant yr arfer anianol i’r hon sydd yn erbyn anian.
27Ac yn gyffelyb hefyd y gwŷr gan adel yr arfer naturiol o’r wraig, a ymloscent yn eu hawydd iw gilydd, gan i’r gwrywaid wneuthur yr hyn oedd warthus â gwrywaid, a derbyn ynddynt eu hunain y cyfryw dâl tros eu cyfeiliorni, ac ydoedd raid.
28Canys megis ni bu wiw ganddynt hwy adnabod Duw, felly y rhoddes Duw hwynt i fynu i feddwl amghymmeradwy i wneuthur y pethau nid oeddynt weddaidd,
29Yn llawn o bob anghyfiawnder, godineb anwiredd, cribddeiliaeth, drygioni: yn llawn cenfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, drwganwydau:
30Yn hystingwŷr, yn athrodwŷr, yn gâs ganddynt Dduw, yn drahaus, yn feilchion, yn ffrostwŷr yn ddychymmygwŷr drygioni, yn anufydd iw rhieni.
31Yn angall, yn rhai yn torri ammod, yn angharedig, yn anghymmodlon, yn anhrugarogion.
32Rhai yn gŵybod cyfraith Dduw (fod y rhai sy yn gwneuthur y cyfryw bethau, yn hauddu marwolaeth) [ydynt] nid yn vnic yn gwneuthur y pethau hyn, eithr hefyd yn cydsynnio â’r rhai sy yn eu gwneuthur hwynt.

Currently Selected:

Rhufeiniaid 1: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in