Numeri 6
6
PEN. VI.
Cyfraith y Nazareaid. 24 Bendithiad y bobl.
1Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses gan ddywedyd:
2Llefara wrth feibion Israel, a dywet wrthynt, pan ymnailltuo gŵr neu wraig i addo adduned Nazaread, gan ymnailltuo i’r Arglwydd.
3Ymnailltued oddi wrth wîn a diod gref, nac yfed efe finegr gwîn, na finegr diod gref: nac yfed ychwaith ddim sugn grawn-win, ac na fwyttaed rawn-win irion, na sychion.
4Holl ddyddiau ei Nazareaeth ni chaiff fwytta o ddim oll a wneir o winwydden y gwîn, o’r dingcod hyd y bilionen.
5Holl ddyddiau adduned ei Nazareaeth, ni chaiff ellyn fyned ar ei ben, nes cyflawni y ddydiau y rhai yr ymnailltuodd i’r Arglwydd, sanctaidd fydd, gadawed i gydynnau gwallt ei benn dyfu.
6Holl ddyddiau ei ymnailltuaeth i’r Arglwydd na ddeued at gorph marw.
7Nac ymhaloged wrth ei dâd, neu wrth ei fam, wrth ei frawd, neu wrth ei chwaer pan fyddant feirw: am [fod] Nazareaeth ei Dduw ef ar ei benn.
8Holl ddyddiau ei Nazareaeth sanctaidd fydd efe i’r Arglwdd.
9Ond os y marw a fydd marw wrtho ef yn ddisymmwth ddiatreg, a hologi penn ei Nazareaeth: yna eillied ei benn ar ddydd ei buredigaeth, ar y saithfed dydd yr eillia efe ef.
10Ac ar yr wythfed dydd y dwg ddwy durtur, neu ddau gyw colomen at yr offeiriad i ddrws pabell y cyfarfod.
11A pharatoed yr offeiriad vn yn bech aberth, ac vn yn boeth offrwm, a gwnaed iawn drosto, am yr hyn a becho wrth y marw: a saincteiddied ei benn ef y dydd hwnnw.
12A nailltued i’r Arglwydd ddyddiau ei Nazareaeth, a dyged oen blwydd yn gamwedd offrwm: ac aed y dyddiau cyntaf yn ofer, am halogi ei Nazareaeth ef.
13Ac dymma gyfraîth y Nazaread: pan gyflawno dyddiau ei Nazareaeth dyged hyn i ddrws pabell y cyfarfod.
14Sef dyged yn offrwm drosto i’r Arglwydd vn hesbwrn blwydd, perffaith gwbl yn boeth offrwm, ac vn hespin flwydd berffaith gwbl yn bech-aberth, ac vn hwrdd perffaith gwbl yn aberth hedd.
15Cawelled o fara croiw hefyd [sef] #Lefit.2.15.teissennau peilliaid wedi eu telino drwy olew, ac afrllad croiw, wedi eu hiro ag olew, ai bwyd offrwm, ai diod offrwm hwynt.
16A dyged yr offeiriad [hwynt] ger bron yr Arglwydd, ac offrymmed ei bech aberth ai bceth offrwm ef.
17Offrymmed hefyd yr hwrdd yn aberth hedd i’r Arglwydd, yng-hyd a’r cawelled bara croiw, ac offrymmed yr offeiriad ei fwyd offrwm ai ddiod offrwm.
18Ac #Act.18.18. Act.21.24.eillied y Nazaread [wrth] ddrws pabell y cyfarfod ben ei Nazareaeth, a chymmered flew penn ei Nazareaeth, a rhodded ar y tan, yr hwn [fydd] tann yr aberth hedd.
19Cymmered yr offeiriad hefyd balfais o’r hwrdd wedi ei berwi, ac vn deissen groiw o’r cawell, ac vn afrlladen groiw, a rhodded ar gledr dwylo y Nazaread, wedi eillo o honaw ei Nazareaeth.
20A #Exod.29.27.chwhwfaned yr offeiriad hwynt, yn offrwm cwhwfan ger bron yr Arglwydd: sanctaidd yw hyn i’r offeiriad, heb law parwyden y cwhwfan a phalfais y derchafel: ac wedi [hyn] y caiff y Nazaread yfed gwîn.
21Dymma gyfraith y Nazaread, yr hwn a addunedodd ei offrwm i’r Arglwydd, am ei Nazareaeth, heb law yr hyn a gyrhaeddo ei law ef, fel [y byddo] ei adduned yr hon a addunedo, felly gwnaed, heb law cyfraith ei Nazareaeth.
22Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd:
23Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion gan ddywedyd: fel hyn y bendithiwch feibion Israel [gan] ddywedyd wrthynt.
24Bendithied yr Arglwydd di, a chadwed di
25[A] llewyrched yr Arglwydd ei wyneb arnat, a thrugarhaed wrthit.
26Derchafed yr Arglwydd ei wyneb arnat, a gosoded it dangneddyf,
27Felly y gosodant fy enw ym mysc meibion Israel, a mi ai bendithiaf hwynt.
Currently Selected:
Numeri 6: BWMG1588
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.