Numeri 4
4
PEN. IIII.
Swyddau y Lefiaid o ddec ar hugain hyd ddec a deugain o oed.
1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron gan ddywedyd.
2Cymmer nifer meibion Cehath, o blith meibion Lefi, drwy eu teuluoedd, yn ol tŷ eu tadau.
3O fab deng mlwydd ar hugain ac vchod hyd fab deng mlwydd a deugain, pob vn a elo mewn swydd i wneuthur gwasanaeth, ym mhabell y cyfarfod.
4Dymma wenidogaeth meibion Cehath, ym mhabell y cyfarfod: [cludo y pethau] sanctaidd cyssegredic.
5Yna deued Aaron, ai feibion, pan gychwnno y gwerssyll, a thynnant i lawr y wahan-lenn orchudd, a gorchguddiant a hi Arch y destioliaeth.
6A #Exod.25.15.gosodant ar hynny dô o grwyn daiarfoch, a thanant yn vchaf wisc o sidan glâs ei gyd a gosodant ei throssolion [wrthi.]
7Ac ar fwrdd* [y bara] gosod y tanant wisc o sidan glâs, a gossodant ar hynny y dysclau a’r cwppanau, a’r phiolau, a’r cafuau tywallt, a bydded bara arno bob amser.
8A thanant arnynt wisc o scarlat, a gorchguddiant hwnnw a gorchudd o groen daiarfoch, a gossodant ei drossolion [wrtho.]
9Cymmerant hefyd wisc o sidan glâs a 56 gorchguddiant #Exod.25.30.ganhwyll-bren y goleuni, ai lusernau, #Exod.25.31. Exod.25.38.ai efeilian, ai gafnau, a holl lestri yr olew, y rhai y gwasanaethant ef a hwynt.
10A gosodant ef, ai holl ddodrefn mewn gorchudd o groen daiar-foch, a gosodant [ef] ar drossol.
11A thanant wisc o sidan glâs ar yr allor aur, a gorchguddiant hi a gorchudd o groen daiar-foch, a gosodant ei throssolion [wrthi.]
12Cymmerant hefyd holl ddodrefn y gwasanaeth, y rhai y gwasanaethant a hwynt yn y cyssegr, a rhoddant mewn gwisc o sidan glâs, a gorchguddiant hwynt mewn gorchudd o groen daiar-foch, a gosodant ar drossol.
13A thynnant allan ludw’r allor, a thanant arni wisc borphor.
14A rhoddant arni ei holl lestri, y rhai y gwasanaethant hi ant, hwy [sef] y pedill tân, y cigweiniau, y rhawiau hefyd a’r cawgiau, [ie] holl lestri yr allor: a thanant arni orchudd o groen daiar-foch, a gosodant ei throssolion wrthi.
15Pan ddarffo i Aaron ac iw feibion orchguddio y cyssegr, a holl ddodrefn y cyssegr, pan gwchwnno y gwerssyll: wedi hynny deued meibion Cehath, iw dwyn [hwynt:] ond na chyffyrddant a’r hyn a fyddo cyssegredic, rhac iddynt farw: dymma glud meibion Cehath, ym mhabell y cyfarfod.
16A gorchwyliaeth Eleazer mab Aaron yr offeiriad [fydd] olew y goleuni, #Exod.30.34.a’r arogldarth llysseuoc, a’r bwyd offrwm gwastadol, ac #Exod.30.23.olew yr eneiniad [a] gorchwyliaeth yr holl dabernacl a’r hyn oll [fydd] ynddo, yn y cyssegr ai holl ddodrefn.
17A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, ac Aaron gan ddywedyd:
18Na thorrwch ymmaith lwyth tylwyth y Cehathiaid o blith y Lefiaid:
19Ond hyn a wnewch iddynt, fel y byddant fyw, ac na fyddant feirw: pan nessânt at y sanctaidd bethau cyssegredic, Aaron ai feibion a ddeuant ac ai gosodant hwynt bob vn ar ei wasanaeth, ac at ei glud.
20Ond na ddeuant i edrych ar orchguddio yr hynn sydd gyssegredic i farw o honynt.
21A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd:
22Cymmer nifer meibion Gerson hefyd yn ôl tŷ eu tadau, trwy eu teuluoedd.
23O fab deng-mlwydd ar hugain ac vchod, hyd fab deng-mlwydd a deugain y rhifi hwynt: pob vn a ddel i ddwyn swydd, gan wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.
24Dymma wenidogaeth tylwyth y Gersoniaid, o wasanaeth ac o glud.
25Sef dwyn o honynt lennau y tabernacl a phabell y cyfarfod, ei len dô ef, ar tô [o grwyn] daiar-foch, yr hwn [fydd] yn vchaf arno, a chudd-lenn drws pabell y cyfarfod.
26A throelloc lennau y cynteddfa, a chaeadlen drws porth y cynteddfa yr hwn [sydd] ynghylch y tabernacl a’r allor o amgylch ai rhaffau, a holl offer eu gwasanaeth hwynt, a’r hyn oll a wnaed iddynt, fel y gwasanaethant.
27Wrth orchymmyn Aaron ai feibion y bydd holl wasanaeth meibion y Gersoniaid, yn eu holl glud ac yn eu holl wasanaeth: a dodwch attynt eu holl glud iw cadw.
28Dymma wasanaeth tylwyth meibion y Gersoniaid ym mhabell y cyfarfod, ac ar law Ithamar mab Aaron yr offeiriad [y bydd] eu llywodraethu hwynt.
29[Yna] meibion Merari: drwy eu teuluoedd, wrth dŷ eu tadau y cyfrifi hwynt:
30O fab deng-mlwydd ar hugain ac vchod hyd fab deng-mlwydd a deugain, y rhifi hwynt: pob vn a ddêle i ddwyn swydd i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod.
31Ac dymma orchwyliaeth eu clud hwynt yn eu holl wasanaeth ym mhabell y cyfarfod: [sef] #Exod.26.18.ystyllod y tabernacl, ai farrau, ai golofnau, ai forteisiau.
32A cholofnau y cynteddfa oddi amgylch ai morteisiau, ai hoelion, ai rhaffau yng-hyd ai holl offer, ac ynghyd ai holl wasanaeth: rhifwch hefyd y dodrefn erbyn eu henwau y rhai a orchwyliant [ac] a gludant hwy.
33Dymma wasanaeth tylwyth meibion Merari yn eu holl wenidogaeth, ym mhabell y cyfarfod, dan law Ithamar fab Aaron yr offeiriad.
34A rhifodd Moses, ac Aaron, a phennaethiaid cynnulleidfa meibion Cehath drwy eu teuluoedd, ac yn ôl tŷ eu tadau:
35O fab deng-mlwydd ar hugaiu ac vchod, ac hyd fab deng-mlwydd a deugain, [sef] pob vn a ddele mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod.
36Ai rhifedigion drwy eu teuluoedd oedd, ynt ddwy fil, saith cant, a dec a deugain.
37Dymma rifedigion tylwyth y Cehathiaid [sef] pob gwasanaethudd ym mhabell y cyfarfod: y rhai a rifodd Moses ac Aaron wrth orchymyn yr Arglwydd drwy law Moses.
38Rhifedigion meibion Gerson hefyd drwy eu teuluoedd, ac yn ol tŷ eu tadau [oeddynt,]
39O fab deng-mlwydd ar hugain ac vchod, ac hyd fab deng-mlwydd a deugain, [sef] pob vn a ddele mewn swydd i wasanaeth ym mhabell y cyfarfod.
40Ai rhifedigion hwynt drwy eu teuluoedd ac yn ôl tŷ eu tadau oeddynt ddwy fil, a chwechant, a dec ar hugain.
41Dymma rifedigion tylwyth meibion Gerson [sef] pob gwasanaethudd ym mhabell y cyfarfod, y rhai a rifodd Moses ac Aaron wrth orchymyn yr Arglwydd.
42A rhifedigion tylwyth meibion Merari, drwy eu teuluoedd, ac yn ôl tŷ eu tadau [oeddynt,]
43O fab deng-mlwydd ar hugain ac vchod, ac hyd fab deng-mlwydd a deugain, [sef] pob vn a ddelo mewn swyddi wasanaethu ym mhabell y cyfarfod.
44Ai rhifedigion hwynt drwy eu teuluoedd oeddynt, dair mil, a dau cant.
45Dymma rifedigion tylwyth meibion Merari y rhai a rifodd Moses ac Aaron wrth orchymyn yr Arglwydd drwy law Moses.
46Yr holl rifedigion y rhai a rifodd Moses ac Aaron, a phennaethiaid Israel o’r Lefiaid drwy eu teuluoedd ac yn ôl tŷ eu tadau [oeddynt,]
47O fab deng-mlwydd ar hugain ac vchod, ac hyd fab deng-mlwydd a deugain [sef] pob vn a ddele i wneuthur gwaith gwasanaeth, neu waith clud ym mhabel y cyfarfod.
48Ai rhifedigion oeddynt wyth mil, pump cant, a phedwar vgain.
49Wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses, y rhifodd efe hwynt, pob vn wrth ei wasanaeth, ac wrth ei glud: ai rhifedigion [oeddynt] y rhai a orchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.
Currently Selected:
Numeri 4: BWMG1588
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.