YouVersion Logo
Search Icon

Numeri 18

18
PEN. XVIII.
Duw yn dangos i’r offeiriaid, ac i’r Lefiaid eu swyddau a pha beth a gaent i fyw arno. 26 ac yn gorchymyn iddynt dalu decfed eu degwm.
1A Dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, tydi a’th feibion a thylwyth dy dâd gyd a thi a ddygwch anwiredd y cyssegr: a thi a’th feibion gyd a thi a ddygwch anwiredd eich offeiriadaeth.
2A dwg hefyd gyd a thi dy frodyr [o] lwyth Lefi, [sef] llwyth dy dâd, i lynu wrthit ti, ac i’th wasanaethu: tithe a’th feibion gyd a thi [a wasanaethwch] ger bron pabell y destiolaeth.
3A hwy a orchwyliant drosot ti yng-orchwyliaeth yr holl babell, ond na ddeuant yn agos at ddodrefn y cyssegr, nac at yr allor, rhac eu marw hwynt a chwithau hefyd.
4Ond hwy a lynant wrthit, ac a orchwyliant babell y cyfarfod yn holl wasanaeth y babell: ac na ddeued dieithr yn agos attoch.
5Eithr cedwch chwi orchwyliaeth y cyssegr, a gorchwyliaeth yr allor fel na byddo digofaint mwy yn erbyn meibion Israel.
6Ac wele mi a #Num.3.13.gymmerais dy frodyr di y Lefiaid o fysc meibion Israel y rhai a roddwyd i’r Arglwydd megis yn rhodd o’r eiddo chwi, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod.
7Tithe a’th feibion gyd a thi a gedwch eich offeiriadaeth, ac a wasanaethwch yng-hylch pob peth [a berthyn] i’r allor, ac o fewn y llen wahan: yn wasanaeth rhodd y rhoddais eich offeiriadaeth chwi, a’r dieithr yr hwn a ddelo yn agos a leddir.
8A llefarodd yr Arglwydd wrth Aaron, wele mi a roddais i ti hefyd orchwyliaeth fy offrymmau derchafel, o holl [bethau] sanctaidd meibion Israel: rhoddais hwynt i ti, o herwydd yr eneiniad, ac i’th feibion yn ddeddf dragywyddol.
9Hyn fyddi ti o’r sancteidd-beth cyssegredic [yr hwn a gedwir allan] o’r tân: [sef] eu holl offrymmau, y rhai a dalant i mi yn eu holl fwyd offrwm, ac yn eu holl aberthau tros bechod, ac yn eu holl aberthau tros gamwedd sancteidd-beth cyssegredic [yw] hyn i ti, ac i’th feibion.
10O fewn y cyssegr sancteiddiolaf y bwyttei ef, pôb gwryw ai bwyttu ef: cyssegredic fydd efe i ti.
11Hyn hefyd [fydd] i ti, offrwm derchafel eu rhoddion hwynt, yng-hyd a holl offrymmau cwhwfan meibion Israel, i ti y rhoddais hwynt, ac i’th feibion, ac i’th ferched gyd a thi yn ddeddf dragywyddol: pob vn glân yn dy dŷ a gaiff ei fwytta.
12Holl fraster olew, a holl fraster gwîn ac ŷd [sef] eu blaen-ffrwyth hwynt, yr hwn a roddant i’r Arglwydd a roddais i ti.
13Blaen-ffrwyth pôb dim yr hwn [fydd] yn eu tîr hwynt, yr hwn a ddygant i’r Arglwydd fydd eiddo ti: pôb vn glân yn dy dŷ ai bwyttu.
14Pôb diofryd-beth yn Israel fydd eiddo ti.
15 # Leuit.27.21.|LEV 27:21. exod.13.2.|EXO 13:2. leuit.27.26.|LEV 27:26. num.3.13.|NUM 3:13. luc.2.13. Pôb agorydd croth o bôb cnawd yr hwn a offrymmir i’r Arglwydd o ddyn, ac o anifail fydd eiddo ti, ond gan brynu y pryni bôb cyntafanedic i ddyn, a phryn y cyntafanedic i’r anifail aflan.
16A phâr brynu y rhai a bryner ohonynt o fab misyriad yn dy bris di, #Num.3.47.[sef] pump sicl o arian wrth sicl y cyssegr: vgain Gerah [yw] hynny.
17Ond na phryn y cyntafanedic o eidion, neu gyntafanedic dafad, new gyntafanedic gafr, sanctaidd yddynt: eu gwaed a daenelli ar yr allor, ai gwêr a losci yn aberth tanllyd o arogl esmwyth i’r Arglwydd,
18Ond eu cîg fydd eiddo ti, fel parwyden y cwhwfan, ac #Exod.29.26. leuit.7.32.fel yr ysgwyddoc ddehau y bydd efe eiddo ti.
19Holl offrymmau derchafel [y pethau] sanctaidd y rhai a dderchafa meibion Israel i’r Arglwydd a roddais i ti, ac i’th feibion, ac i’th ferched gyd a thi yn ddeddf dragywyddol: cyfammod halen tragywyddol fydd hyn ger bron yr Arglwydd i ti, ac i’th hâd gyd a thi.
20A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, na fydded i ti etifeddiaeth yn eu tîr hwynt, ac nafydded it ran yn eu mysc hwynt: #Deut 10.9|DEU 10:9. deut.18.2.|DEU 18:2. iosua.13.14.|JOS 13:14. ezec.44.28myfi [ydwyf] dy ran di a’th etifeddiaeth ym mysc meibion Israel.
21Ac wele mi a roddais i feibion Lefi bôb degwm yn Israel yn etifeddiaeth am eu gwasanaeth, yr hwn y maent yn ei wasanaethu, sef gwasanaeth pabell y cyfarfod.
22Ac na ddeued meibion Israel mwyach i babell y cyfarfod, gan ddwyn pechod i farw.
23Ond gwasanaethed y Lefiaid eu hunain wasanaeth pabell y cyfarfod, a dygant hwynt eu hanwiredd eu hun, deddf dragywyddol [fydd hyn] drwy eich oesoedd, nad etifeddant hwy etifeddiaeth ym mysc meibion Israel.
24Canys degwm meibion Israel yr hwn a dderchafant yn offrwm derchafel i’r Arglwydd a roddais i’r Lefiaid yn etifeddiaeth: am hynny dywedais wrthynt nad etifeddent etifeddiaeth ym mysc meibion Israel.
25A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd:
26Llefara hefyd wrth y Lefiaid a dywet wrthynt, pan gymmeroch gan feibion Israel y degwm yr hwn a roddais i chwi yn etifeddiaeth oddi wrthynt, yna derchefwch o hynny offrwm derchafel i’r Arglwydd [sef] degwm o’r degwm.
27A chyfrifir i chwi eich offrwm derchafel fel yr ŷd o’r yscubor, ac fel cyflawndra o’r gwînwryf.
28Felly y derchefwch chwithau hefyd offrwm derchafel yr Arglwydd o’ch holl ddegymmau y rhai a gymmeroch gan feibion Israel, a rhoddwch o hynny dderchafel offrwm yr Arglwydd i Aaron yr offeiriad.
29O’ch holl roddion derchefwch bôb offrwm derchafel yr Arglwydd [sef] oi holl frasder ef [offrymmwch] ei ran sainctaidd o honaw ef.
30A dywet wrthynt, pan dderchafoch chwi ei fraster allan o honaw cyfrifir i’r Lefiaid fel toreth yr yscubor, a thoreth y gwin-wryf.
31A bwyttewch ef ym mhob lle, chwi a’ch ty-lwyth: canys gwobr yw efe i chwi am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.
32Ac ni ddygwch bechod oi herwydd pan dderchafoch ei fraster o honaw: na halogwch chwithau bethau sanctaidd meibion Israel, fel na byddoch feirw.

Currently Selected:

Numeri 18: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in